Wednesday 10 December 2008

Mae Angen Newid Weithiau

Cystydleuaeth sydd wedi cael cam dros y blynyddoedd ydi’r hen Gwpan Cenedlaethol (neu’r Premier Cup). Drwy gydol ei fodolaeth, y gred boblogaidd oedd ei fod yn gystydleuaeth israddol, gyda’r Clybiau mwyaf yn ei drin gyda dirmyg llwyr.

Ond wyddoch chi be? Dwi’n ei fethu’n barod. Mae ‘na ambell i glasur wedi bod dros y blynyddoedd ar Ffordd Ffarrar, gyda’r buddugoliaeth dros Gaerdydd, ac yna’r gem gyn-derfynol yn erbyn Wrecsam yn dod i’r cof yn syth. Hyd yn oed gol Darren Hilditch ar Barc Ninian (sydd dal yna i’w wylio ar YouTube os edrychwch yn ddigon gofalus), ymysg dwsinau o gemau eraill.

Y ffaith yw, boed bynnag y tim oedd yn cael ei roi allan, roedd yn gyfle i’r rheiny o’r Cynghrair Cenedlaethol i brofi’i hunain yn erbyn Chwaraewyr Proffesiynol o’r ‘3 mawr’ yng Nghymru, boed yn aelodau cyflawn o’r tim cyntaf, neu ar fin torri drwodd. Heb anghofio wrth gwrs, yr atyniad o gem gartref yn erbyn yn o’r timau rheiny, a’r torfeydd chwyddedig yn eu sgil.

Heb os, prif golled y clybiau ohoni ydi’r gwbrau ariannol. O fewn Peldroed Cymru, rydym i gyd yn wybodol o’r diffyg arian sydd yn y Gem, gem sydd £250,000 y flwyddyn yn dlotach oherwydd penderfyniad y BBC i’w ddiddymu.

Mae ffydd gennyf fod penderfyniad diweddar y Clybiau a’r Gymdeithas i greu Uwchgynghrair o 10 clwb yn gam positif, ac bydd yn elwa’r gamp yng Nghymru. Tybiaf fod tua 6-7 clwb (gan gynnwys Bangor wrth gwrs!) yn sicr o’u lle yn barod, yn seliedig ar Hanes, Maes, Canlyniadau a.y.b. Er hyn, mae’n siwr fod ambell glwb arall yn llygadu’r llefydd sydd ar ol, a all ond fod yn beth da i’r rhai blaengar eu naws. Fy unig bryder bysa’r y teimlad o ‘Groundhog Day’ a all ddatblygu o chwarae yr un hen dimau tymor ar ol tymor.
Mae gwledydd arall fel Iwerddon, gyda’r Setanta Shield yn dod a timau Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon Ynghyd, a’r Royal League yn Sgandinafia, yn proi bod modd i wledydd bychain ddod dros y ffenomenon yma gyda chydig o gyd-weithrediad. Byddai gweithio gyda darlledwr fel Setanta i droi’r Tarian Setanta’n un Celtaidd, neu un arall i ddod a’r Cwpan Cenedlaethol yn ei ol, yn gamau positif i’r diben hwnnw, ac yn rywbeth i’w edrych ymlaen iddi’n flynyddol.

Monday 18 August 2008

Croeso Nol!



Diolch byth fod y tymor Peldroed yn ei ol. Am rhyw reswm, mae'r haf yma wedi teimlo fel yn hir ofnadwy, ac mae gen i ofn nad ydi 'The Amsterdam Tournament' na rhyw rwtch cyfeillgar cyffelyb am gymryd fy niddordeb, pa waeth pa mor galed mae Sky yn ymdrechu.

Fe ddechrauodd fy nhymor i mor bell yn ol a mis Gorffenaf ar y Cae Ras yn Wrecsam. Hon oedd gem gyntaf Bangor yn Ewrop ers sawl tymor bellach ond roedd y disgwyl amdani braidd yn fwy cyffrous na'r digwyddiad ei hun. Man City oedd pawb yn gobeithio amdani ar y cychwyn wrth gwrs, byddai gem o'r fath wedi cynnal Bangor am dymor o leiaf, arian a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt gyda'r symud cartref i Nantporth ar y gorwel.

Ond wrth gwrs, dim ond i TNS mae lwc felly yn syrthio iddynt, felly yn hytrach na taith i Eastlands, FC Midtjylland ddoth allan o'r het (Dwi dal yn gorfod gwglo'r enw i ddarganfod y sillafiad cywir). O flaen 700 o gefnogwyr ar y Cae Ras, sicrhaodd y tim llawn amser o Herning fuddugoliaeth o 6 gol i un. Un o ambell gysur y noson oedd gol Les Davies yn ogystal a'r cefnogaeth wych a gafodd yr Hogia' mewn glas drwy gydol y gem.

Yr wythnos dwytha gwnes y trip i'r Cae Ras i wylio Wrecsam yn erbyn Stevenage. Dwi'n grediniol mai sioc fwya'r prynhawn oedd fod hi'n costio £17 i wylio gem yng Nghynghrair y Blue Square. Does na neb arall yn teimlo fod hynny o leiaf ychydig yn ddrud? Gellir cael mynediad i Neuadd y Parc i wylio TNS neu fynd i'r Belle Vue i weld Rhyl am £7, a ydi'r safon gymaint a hynny gwell?

Er hynny, ar ol dechrau digon sigledig a gol lwcus dros ben o gic rhydd a darodd o leiaf un chwaraewr ar ei ffordd i'r gol, gorffenodd Wrecsam y gem gyda buddugoliaeth o bum gol i ddim. Doedd Jefferson Louis ddim yn edrych rhyw wych iawn a dydi Levi Mackin erioed wedi fy nharo fel chwaraewr sy'n haeddianol o'r crys coch, ond fe aeth y dorf adref yn hapus. Yn anffodus, ar ol canlyniad nos Fawrth, daeth gwirionedd bywyd yn y Blue Square yn ol i'r golwg, a credaf bydd hi'n anodd tu hwnt gweld y clwb yn enill dyrchafiad y tymor yma.

Er yr holl prelims, ddoe oedd y gem roeddwn yn edrych ymlaen amdani yn digwydd. Roedd disgwyl torf sylweddol ar Ffordd Ffarrar ar gyfer ymweliad Llanelli a'r Ddinas. Cafodd swyddogion y clwb ddim eu siomi yn sicr, gyda bron a bod 1,000 o gefnogwyr yn tyrru drwy'r giat. Beth sy'n gwneud hyn yn ffigwr hyd yn oed mwy calonogol oedd mai rhyw 5 cefnogwr ddoth Llanelli gyda nhw.

Aeth mwyafrif llethol y dorf ddim adra'n hapus, gwaetha'r modd. Gwnaeth Meilir Owen bwynt da iawn ar Ar y Marc bore ddoe nad ydi llawer o chwaraewyr y Sosban ddim yn edrych yn rhyw ffit iawn, er gwaetha eu statws hyfforddi llawn-amser. Dwi dal yn credu fod hyn yn wir, ond sicrhaodd Bangor dranc eu hunain i sawl pwrpas p'nawn ddoe.

Un o'r rhesymau fuodd Bangor mor llwyddiannus ar Barc Latham mis Mai diwethaf oedd y gallu i redeg tuag at yr amddiffyn a chreu problemmau. Mae pawb yn gwybod nad ydi llawer o'u chwarewyr yn gymwys i chwarae i'r tim o dan 19 bellach, a felly rhaid gwneud yn fawr o hynny a'u diffyg cyflymdra. Treuliodd Bangor fwyafrif y gem yn ceisio lledaenu peli hir tuag at ben Les Davies yn hytrach na defnyddio cyflymdra Chris Sharp a'r tryc i greu mwy o broblemmau i'r Pencampwyr.

Er y golled ddoe dwi dal yn ffyddiog fod digon i fod yn falch ohoni a fod y clwb yn symud yn y cyfeiriad cywir. Trip i Borthmadog wythnos nesa, ew dwi'n casau'r Haf!

Tuesday 20 May 2008

Dydi'r Tymor ddim Drosodd....


Gan i mi son ynghynt am Ewro 2008, teg fyddai dweud fod cystydleuthau o'r fath yn wych i'r rhai ohonom sy'n llafuro trwy'r Haf yn edrych ymlaen i'r rhestr gemau ddod allan, fel rheol. Yn ffodus, does dim rhaid disgwyl y tair wythnos at y gystydleuaeth yn y swisdir ac Awstria. Mae na gystydleuaeth yn cymryd lle ar ein stepan drws, gan gychwyn heno ar y Belle Vue yn y Rhyl. Timau lled-Broffesiynol (Neu dewis 'C' mewn ambell i achos) Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gibraltar sy'n cymryd rhan, a thro Cymru ydi i'w gynnal eleni.

Mae gemau Cymru i gyd yn cael eu chwarae ar y Rhyl, tra bydd peth gemau eraill ym Mae Colwyn a Chroesoswallt. Felly, os am rywbeth i'w wneud yr wythnos yma, ewch lawr i gefnogi hogia Tony Pennock.

Carfan lled-broffesiynol Cymru:
Lee Kendall (Rhyl), Ashley Morris (Merthyr Tydfil), Kyle Kritchell (Weymouth), Gethin Jones (Caerfaddon), Paul Keddle (Caerfyrddin), Daniel Parslow (York City), Lee Surman (Port Talbot), Chris Thomas (Caerfyrddin), Michael Byrne (Northwich Victoria), Adrian Harris (Caerfaddon), Chris Holloway (Llanelli), Craig Jones (Llanelli), Craig Jones (Rhyl), Chris Venables (Y Trallwng), Chad Bond (Balaguer), Les Davies (Bangor), Graham Evans (Caersws), Rhys Griffiths (Llanelli).

Nos Fawrth:
Cymru v Yr Alban 19:00
Belle Vue, Rhyl
Lloegr v Gibraltar 19:00
Llanelian Road, Colwyn Bay

Nos Iau:
Cymru v Gibraltar 19:00
Belle Vue, Rhyl
Yr Alban v Lloegr 19:00
Llanelian Road, Colwyn Bay

Dydd Sadwrn:
Cymru v Lloegr 14:00
Belle Vue, Rhyl
Gibraltar v Yr Alban 14:00
Park Hall, Oswestry

Diflasdod


Sgen i'm syniad pam mod i'n gythral mor flin yn ddiweddar, ond oes 'na rhywyn arall wedi diflasu'n llwyr ar yr holl heip ynglyn a rownd derfynol Chynghrair y Pencampwyr nos fory? Wath iddi fod yn gem Uwchghynghrair ddim, a bydd hyn ond yn rhoi mwy o abwyd i'r Newyddiaduron sy'n credu heip eu hunain fod Cynghrair Lloegr ben ac ysgwydd yn well na'r un arall yn y byd. Er hynny, os mae rhywyn am enill, geith Chelsea wneud? Yma'n y Gogledd, rydym dal yn clywed son bob dydd am gamp Lerpwl yn 2005. Dwi'm eisio sefyllfa debyg y tro yma os yn bosib!


Ewro 2008 dwi'n edrych ymlaen iddi, a hynny'n fawr iawn hefyd. Byddaf yn cymryd y cam traddodiadol o gefnogi'r Almaen, ond yn sicr bydd yn gystydleuaeth i'w mwynhau. Bydd Grwp C sef 'The Group of Death' yn un difyr iawn, ac amhosib byddai dewis enillydd. Er hynny, siwr bydd Sbaen yn edrych ar hon fel cyfle euraidd i wneud argraff am unwaith. Cawn weld, ond os ydych unrhywbeth fel y fi, bydd peidio gorfod poeni bod Lloegr am enill hi yn fonws ;) Byddaf yn edrych fwy at y gystydleuaeth hon yn yr wythnosau nesaf, ond mae Blog 200% i weld yn cael hwyl dda arni.

Monday 19 May 2008

Edrych Ymlaen

Gan fod y tymor rwan wedi gorffen yn swyddogol ar ol Ffeinal Cwpan Lloegr, mae'r sylw traddodiadol yn troi tuag at Ewrop. Naci, ddim y gem nos Fercher, ond cystydleuaethau tymor nesa'. Bydd Llanelli yn gobeithio dilyn esiampl y Barri a chyrraedd ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr, tra'r gobaith ar Neuadd y Parc a Ffordd Ffarrar bydd cyrraedd rownd nesaf Cwpan UEFA.

Seeded Teams:
Manchester City Eng 30.996
Brøndby IF Den 18.748
UC2-3 Den 15.748 - 23.748
Viking Stavanger Nor 12.400
UC2-3 Den 6.748 - 15.748
FP Den >6.748
Djurgårdens IF Swe 6.518
Kalmar FF Swe 4.518
Haka Valkeakoski Fin 3.176
Honka Espoo Fin 3.176
FH Hafnarfjardar Isl 2.980
Metalurgs Liepaja Lat 2.915
JFK Olimps Riga Lat 2.915

Unseeded Teams:

Cork City Irl 2.420
St. Patrick's Athletic Irl 2.420
IA Akranes Isl 1.980
CW Est 1.430
Flora Tallinn Est 1.430
Glentoran Nir 0.770
Cliftonville Nir 0.770
Bangor City Wal 0.770
The New Saints Wal 0.770
EB Streymur Far 0.605
B36 Torshavn Far 0.605
CW Lux 0.495
Racing Union Luxembourg Lux 0.495


Bydd Bangor a'r Seintiau Newydd yn gwynebu unrhyw un o'r timau sydd yn y rhestr 'Seeded'. Mae un siawns mewn 13 y bydd Bangor yn gwynebu Manchester City, sef y gem sy'n sefyll allan fwyaf. Yn amlwg, byddai'r siawns o barhau yn y gystydleuaeth yn cael ei dorri lawr yn sylweddol, ond yn sicr byddai'r arian sy'n dod o gemau o'r fath yn hwb enfawr i'r clwb. Yn wreiddiol, roeddwn wedi gobeithio am St Pat's neu Cork o'r Iwerddon, ond oherwydd fod y timau mawrion wedi disgyn lawr, mae hyn wedi effeithio ar y seedings yn amlwg. Y gem waethaf posib o ran trip byddai FH Hafnarfjardar o Wlad yr Ia. Drud i gael iddi, gyda ddim llawer yn gwneud y trip mwy na thebyg. Byddai'r gweddill ddim rhy ddrwg gyda digon o gyfleon i hedfan yn rhad iddyn nhw. Byddai'n well gen i beidio mynd i Riga os yn bosib, gan mod i wedi bod yno o'r blaen. Er, sgen i fawr o le i cwyno am pa dripiau Ewropeaidd y ga'i gyda Bangor chwaith! Methu disgwyl rwan!

Thursday 15 May 2008

Cup Final Fever


Dwi' methu cynhesu at y syniad fod Ffeinal Cwpan F.A Lloegr, dydd Sadwrn 'ma. Mae na filoedd ar filoedd o gefnogwyr Caerdydd yn disgwyl yn eiddgar tuag at y gem, a canoedd o filoedd o gefnogwyr 'newydd' Caerdydd yn gwneud yr un peth. Pam mod i mor ddi-hid am y peth?
Y llynedd, Manchester United yn erbyn Chelsea oedd hi, gem fyddwn i'n casau ei gwylio fel rheol. Eleni, tim ddi-ffasiynol fel Portsmouth yn erbyn tim o adran is, a rheiny o Gymru hefyd. Mae'n gymysgedd iawn yn y bon, a dwi methu deall pam mod i methu dod fewn iddi'n fwy. O bosib y ffaith nad ydw i'n nabod cefnogwyr unrhyw un o'r ddau, i rwbio ffwrdd arnaf. O bosib hefyd, mae'r heip yma yng Nghymru yn ddigon i droi rhywyn i ffwrdd. Ond fi ydi'r cyntaf i gwyno pan mae Rygbi'n denu'r holl sylw.

Gobeithiaf bydd hyn wedi newyd erbyn bore Sadwrn pan fydd yr hen arferion o godi'n fuan a gwylio'r holl preamble cyn y gem yn cael eu gweithredu eto. Od iawn.

Wednesday 7 May 2008

Bydd yr Uwchgynghrair yn Wenfflam!


Mae gen i rhyw flys cychwyn reiat ar Blas Kynaston tymor nesaf. Dim byd personol yn erbyn Clwb Peldroed Derwyddon Cefn na dim felly, ond ymddengys yn ol be sy'n cael ei ysgrifennu dros y dyddiau diwethaf, ei fod yn ddyletswydd arnaf fel ffan Dinas Bangor i godi miri ar gaeau Peldroed ein cenedl. Wrth gwrs, da ni gefnogwyr i gyd yn foch!

Wel, unai hynny neu mae hanner dwsin o gefnogwyr ifanc a llai pwyllog y clwb, wedi gwneud chydig o firi ar ol sgorio gol ar ol 91 munud a hanner mewn Ffeinal.

Fyswn i licio meddwl fod cefnogwyr Bangor ymysg y gorau a fwyaf tryw yn holl Byramid Peldroed Cymru. Does fawr o glybiau arall yn mynd a chefnogaeth oddi-cartref o gwbl, heb son am fod gyda'r gallu i fynd a dros 1,000 o gefnogwyr i unrhyw gem. Rwan, ymysg y 1,000 yna, mae'n debyg fydd un neu ddau o leiaf (yn enwedig o gysidro amseriad y gem a.y.b) yn bach o ffyliaid beth bynnag, a hwythau wedi meddwi hefyd, wel, mae'r llyniau yn dweud y cyfan.

Ydi'r pobol yma'n idiots llwyr? Wel, ydyn heb os nac oni bai. Roeddwn i ymysg y 1,000+ yna b'nawn Sul oedd wedi darganfod ffordd i gadw ein gorfoledd y tu ol i'r llecyn. Ond dyna ni, dydi pawb ddim mor ffodus. A'i bai Ken Jones a gweddill cyfarwyddwyr y clwb ydi hi fod rhai pobol ddim? Mae'n debyg wrth fod yn gefnogwyr (am y dydd o leiaf) y Clwb, fod chydig o'r baich yn gorfod disgyn ar y Clwb ei hun.

Ond gwahardd y Clwb rhag chwarae yn Ewrop? Yn ol ambell ffynhonell ar y we, dyna'n union ddylai ddigwydd.

Nonsens llwyr!

Y gem ei hun? Ar ol camddehongli'n union pa mor bell ydi'r Drenewydd o Rhuthun, stopio i bysnesu ar Faes y Seintiau Newydd, ac yna cael trafferth ffendio Parc Latham, o'r diwedd fe gyrrhaeddais y maes fel roedd nodau olaf Hen Wlad fy Nhadau yn cael eu chwarae. Roedd sawl wyneb anghyfarwydd yno, ond balch oedd gen i weld yr un hen wynebau sy'n cyd-rewi ar gaeau oer Cefn Mawr a Chaernarfon yn y Gaeaf!
Erbyn hanner amser roeddwn wedi penderfynnu ein bod am golli hon, gan fod cymaint o gyfleon wedi'i gwastraffu. Siawns byddan ni'n talu am hyn?
Fe aeth yr ail hanner yn rhy sydyn o lawer, yn enwedig ar ol ail gol Griffiths. Bron i mi a cherdded allan cyn y chwiban olaf, ac erbyn hyn, yn hynod falch wnesh i ddim! Roeddwn yn grediniol fod siot Chris Seargant am fynd dros y trawst tan iddo daro cefn y rhwyd bron a bod! Mae gen i fawr gywilydd edrych ar fy hun yn neidio fynny a lawr fel ffwl ar y 'footage'!

Gret o ddiwrnod a dweud y gwir, un wneith aros yn y cof am amser hir, am y rhesymau cywir gobeithio.

Thursday 24 April 2008

We Welcome Our English Reps. Cardiff City!


Daeth newyddion drwg i Beldroed Cymru allan o Sgwar Soho yn Llundain heddiw. Wrth gwrs, bydd cefnogwyr yr Adar Gleision yn dathlu y bydd modd iddynt gael chwarae yn Ewrop gan gynyrchioli Lloegr os maen't yn curo Portsmouth yn ffeinal Cwpan Lloegr. Ond lle mae hyn yn gadael gweddill clybiau Cymru sy'n chwarae ym Mhyramid Lloegr? Siawns na fydd Wrecsam yn debygol o gyrraedd Wembley am amser maith, tra buasai siawns lawer gwell iddynt (neu hyd yn oes Casnewydd o bosib) ennill Cwpan Cymru a gweld Pel-droed Ewropeaidd nol ar y Cae Ras (heb gyfri gemau Bangor yr haf 'ma wrth gwrs). Bydd hi'n 80 mlynedd arall cyn i rhywyn arall gyfiwnhau camp Caerdydd yn 1927? Mae'r geiriau Long term pain for short term gain yn dod i'r meddwl.

Wednesday 16 April 2008

Newidiadau Difyr


Da oedd gen i glywedd fod Clybiau Uwchgynghrair Cymru wedi pleidleisio dros ail-strwythuro'r Gynghrair mewn cyfarfod yng Nghroesoswallt b'nawn Sul. Y newyddion mwyaf syfrdanol i mi, yn bersonol, ydi fod 7 clwb wedi datgan yn syth eu bod o blaid newid y tymor o'r un presennol, i un sy'n chwarae yn ystod tymhorau'r Haf. Dwy flynedd yn ol, pan gafodd y syniad ei drafod diwetha', dim ond dau glwb oedd o blaid.

Be ydi'r rheswm dros y newid mawr yma dywedwch chi? Sgen i'm syniad a dweud y gwir, ond mae'n amlwg fod y cadeiryddion yn gweld fod angen newid drastig. Dwi'm yn credu fod eu bod yn bell o'u lle yn meddwl fod angen newid i'r Gynghrair symud yn ei flaen, a mae hon yn un o restr maith o bethau a gellid ei wneud i newid pethau.

Dywedodd Cadeirydd Llanelli, Nitin Parekh:

"As a Club we fully support the 10 team divisions and summer football. Note that two years ago when summer football was put to a vote, only 2 clubs voted in favour. Now there are 7 with quite a few rethinking their position on the issue. It makes great sense all round and I am hopeful that the decision will be in favour at the next vote. There are a lot of issues to discuss regarding implementation of the various ideas but please remember that this was done in Ireland so we do have a blue print to follow. The big issue is to how to generate more interest in the game in Wales and to get more broadcasters to take more than just a cursory interest. I am hopeful that the clubs will get together again in the next couple of months to address this issue - summer football is an integral part of this value proposition. "

Dwi'n fodlon iawn gyda'r cynlluniau uchod, ac yn fwy balch hyd yn oed, fod y testun o Beth sy'n fy mhryderu i fwy na dim, ydi'r syniad o 'Adran 2'. Siawns fydd clybiau fel Porthmadog, Caernarfon, Caersws a.y.b yn debyg o golli swm sylweddol o arian drwy ddisgyn i lawr i'r gynghrair hon? Bydd, mi fydd na gyfleon i gadw'r tymor yn ddiddorol gyda'r syniad o gemau ail-chwarae, ond lle bydd y clybiau hyn heb yr elw a wneid o'r gemau darbi mwyaf? Bydd y costau teithio yn parhau i fod yr un fath siawns?

Pam ddim defnyddio system debyg i'r Cynghreiriau Blue Square yn lloegr, gyda 'Cynghrair Cymru Gogledd' a 'De' yn cyflenwi'r brif uwchgynghrair? Er enghraifft, yn y Gogledd fe ellid edrych rhywbeth tebyg i hyn:

Caernarfon,
Porthmadog,
Prestatyn,
Airbus,
Caergybi,
Llangefni,
Cei Conna,
Derwyddon Cefn
Y Bala,
Gap Queen's Park

Y ffordd yma, byddai'r goreuon o'r Cynghrair Undebol yn cael eu symud i fynnu i lenwi'r gynghrair, ond gyda'r teithio'n lawer llai hefyd, byddai'r costau lawer is. Mae na ddipyn o gemau darbi yno hefyd, a fysa'n mynd rhywfaint o'r ffordd i leihau'r golled o gemau mawr Bangor, Y Rhyl, TNS ac ati.

Mi fydd y Prif Gynghrair Cenedlaethol, 10 Clwb, yn gwella'r safon, heb os yn fy marn i. Mae o wedi gwella safon Cynghrair yr Eircom yn Iwerddon drwy ail-strwythuro, a does dim os gen i y bydd hyn yn gwella pethau rhywfaint o leiaf. Iawn, bydd y system yng Nghymru byth yr un cryfaf yn Ewrop, ond o leiaf bydd mwy o gyfleon.

Sunday 13 April 2008

Parti Tre'r Sosban



Llongyfarchiadau i Lanelli am sicrhau eu pencampwriaeth cyntaf. Does dim anmau mai nhw sydd 'di bod y tim gorau dros gydol y tymor, a phob lwc iddyn nhw yn eu ymgais i gyrraedd ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.

Tuesday 8 April 2008

Unwaith Mewn Bywyd

Dwi'm yn cofio os i mi son am y Rhaglen Ddogfen/Ffilm yma o'r blaen, ond gyda'r tymor Peldroed yn yr UDA newydd ail-gychwyn, mae hi 'run mor ddilys ac erioed. Dyma glip ohoni isod, dwi'n ei awgrymmu'n fawr!

Cyffrous ta be?


Fel rywyn sydd fel arfer yn casau Cynghrair y 'Pencampwyr' a phopeth mae'n sefyll amdani, mae rhaid i mi gyfaddef mwynhau ail hanner Lerpwl yn erbyn Arsenal. Tydi gemau o'r fath a'r heip o'u hamgylch ddim yn fy nghyffroi fel arfer, ond wrth gymyd y gem fel ac y ma'i, does dim posib ond cael eich amsugno fewn ar adegau.

Mae na ddigon o faterion difyr arall ar y meysydd ar hyn o bryd, sicr yn bennaf oll ydi Caerdydd yn cyrraedd Ffeinal Cwpan Lloegr. Rhaid eu llongyfarch ar y gamp hon, a roedd gol Ledley yn un wnes ei mwyhnau'n fawr. Yn sicr bydd diwrnod arall gwerth chweil i'w gael yn Wembley, er na fydd pawb oedd yn bresennol yna b'nawn Sul, yn gallu bod nol yn eu seddi mewn Mis.

Mae gen i lot i'w ddweud ynglyn a sefyllfa wleidyddol yr holl beth, a dweud y gwir, y llanast wleidyddol. Er hyn, credaf wnai eu cadw o dan fy het am sbel o leiaf. Dwi'm yn credu y byddai'n sioc enfawr i lawer ohonoch fy safbwynt chwaith!

Mae'r gair olaf yn gorfod mynd i Langefni. Roedd llawer yn datgan eu bod i lawr ers misoedd, ond roeddwn yn credu fod hi dal ddigon tynn yn y gwaelod i'r Dazzlers allu codi eu hunain i fynny. Rwyf yn falch i ddweud fy mod yn iawn yn hynny o beth, a bydd hi'n gem hynod ddifyr ar Lon Talwrn nos Wener yn erbyn Bangor dwi'n siwr.

Bechod na fysai'n bosib adrodd stori debyg am Wrecsam ynde?

Friday 28 March 2008

Be ddysgon ni?


Stade Jozy Barthel, Lwcsenbwrg, Buddugoliaeth arall. Dwi ddim yn siwr iawn be ddysgodd Tosh, nos Fercher, heblaw fod y garfan ddim mor ddofn ag y gall hi fod. Iawn, fe guron nhw'r gem, ond roedd na ddigon o enghreiffitau o gamgymeriadau lle byddai tim gyda mwy o safon wedi cymryd mantais ohonynt. Braf gweld un neu ddau gwyneb newydd yn gwneud ymddangosiad cyntaf, serch hynny.
Buddugoliaeth gwbl, gwbl dyngedfenol i'r tim o dan 21 allan ym Mosnia. Ar gae sobor yr olwg, llwyddodd hogia ifanc Brian Flynn i ddod o gol i lawr i enill hi yn y munudau olaf. Edrych yn dda am enill y grwp, gyda ond un buddugoliaeth mewn dau gem yn erbyn Rwmania ei hangen. Gem yn erbyn Lloegr i'r tim ydi'r dyddiad pendant nesaf yn y celendr rhyngwladol, gyda thorf parchus yn bresennol ar y Cae Ras gobeithio.

Penwythnos difyr eto i Beldroed domestig yng Nghymru. Gall Bangor sicrhau lle yng Nghwpan UEFA y tymor nesaf os maen't yn gallu curo YMCA Casnewydd, a dibynnu ar Llanelli (gan dderbyn eu bod am enill y gynghrair) i guro Rhyl yn y gem byw ar S4C b'nawn Sul. Bydd Wrecsam angen o leiaf pwynt ddudwn i hefyd. Mae na lot o beldroed dal i'w chwarae!

Sunday 16 March 2008

Digon i Chwarae Amdani


Roedd hi'n ddiwrnod ddigon cymysg i'r Clybiau Cymreig yng Nghyngreiriau y Nationwide ddoe. Fe gafodd Wrecsam fuddugoliaeth werthfawr arall drwy drechu Bury o ddwy gol i un, a mae pethau'n edrych yn lawer mwy positif ar y Cae Ras erbyn hyn. Er fod y timau uwch eu pennau yn parhau i gael canlyniadau da, mae'r ffaith fod Wrecsam yn parhau i enill yn arwydd da, siwr i fod?

Mae Abertawe, ar y llaw arall, wedi gweld eu mantais ar frig Adran 1 wedi'i dorri o 14 pwynt i lawr i 6 pwynt. Er mod i dal methu gweld y Swans yn methu a enill dyrchafiad awtomatig, mae'r perygl yn siwr o fod yno o hyd, gan fod Carlisle a Doncaster ill dau ar 68 pwynt. O bosib mae tim Roberto Martinez wedi gollwng fynd arni ychydig, a rhaid canolbwynio ar enill y Gynghrair hon cyn dim arall.

Mae'n amlwg mai canol y tabl bydd tynged Caerdydd am weddill y tymor. Mae eu bryd yn amlwg ar Gwpan F.A Lloegr, ac i fod yn onest, pwy all eu beio? Mae'r gwobrau ariannol am gyrraedd y Rownd derfynnol yn hael, ac wedi rhoi hwb angenrheidiol i dymor a oedd yn mynd i nunlle.

Mae gen i fy mhryderon am drywydd Caerdydd yn y gystydleuaeth, serch hynny. Dwi'n gwybod mai nid Clwb Caerdydd sydd wedi gwthio'r agenda, a mai gwaith y cyfryngau Cymreig yw hyn i gyd bron. Ond eto'i gyd, mae'n ddigalon gen i weld y posibilrwydd bod clwb Cymreig yn gallu cynyrchioli Lloegr mewn cystydleuaeth Ewropeaidd.

Dwi'n credu fod lot o ddrwg yn cael ei wneud i'r ymgais o gael Cwpan Cymru yn ei ol, wrth wthio'r agenda 'ma gyda Platini, fel mae'r Gymdeithas Bel-droed Gymreig wedi gwneud yr wythnos yma. Roedd trafodaethau wedi'i bwriadu i drafod gyda UEFA, i alluogi'r alltudion i gyrraedd Cwpan UEFA drwy enill Cwpan Cymru. Ond rwan, ymddengys mai'r prif bwnc dan sylw ydi Caerdydd a Chwpan F.A, ac i fod yn deg, faint fydd hi eto tan bydd clwb Cymreig mewn sefyllfa debyg? Mae ganddynt siawns llawer gwell o enill Cwpan Cymru, a chystadlu yn Ewrop llawer mwy rheolaidd. Mae angen edrych ar y llun ehangach yma.

Sunday 9 March 2008

Trwbl ar y Top?


Mae'n edrych yn ddifyr ar frig Uwchghynghair Cymru ar y funud, gyda Llanelli yn agor mantais ar y Seintiau Newydd. Mae rhaid dweud mai tim Peter Nicholas ydi'r ffefrynnau ar hyn o bryd, er bod ganddynt siawns o enill tair cwpan arall cyn ddiwedd y tymor.

Os mae Llanelli yn mynd ymlaen i enill y bencampwriaeth a chynyrchioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr, mae hyn yn gadael y Seintiau mewn sefyllfa ddigon diddorol. Yn ol ambell i si, mae Mike Harris yn bwriadu torri cyllid y tim yn sylweddol, a dod i ben a'u statws llawn-amser. Er y sion yma, allai ddim gweld hyn yn digwydd fy hun. Mae'n ddigon posib fod Mike Harris am dorri'r cyllideb, ond mae'n amlwg lle ellir ei dorri rhywfaint. Ymddengys fod ganddynt 20 chwaraewr llawn amser yn y garfan ar hyn o bryd, yn ogystal a academi sydd wedi ei leoli neupell o Groesoswallt. Onid, un o prif resymau'r clwb dros benderfynnu peidio a chynnig cytundeb newydd i Ken McKenna, oedd yr awch i weld mwy o hogia'r academi yn dod drwy'r system, yn hytrach na'r gor ddibyniaeth ar chwaraewyr Glannau Mersi oedd McKenna i'w weld yn ffafrio?

Wrth roi 2+ 2 at eu gilydd, a chydig o ddarogan personol, yn fy nhyb i be y gwelir ar Neuadd y Parc tymor nesa ydi gostyngiad o chwaraewyr llawn amser lawr i rhyw 13-14, gyda chwaraewyr yr academi yn llenwi'r bylchau yn y garfan wedyn.

Rheswm arall yn fy nhyb i na welwn ni dranc y clwb o'r Gororau, ydi yn ddigon syml, maint y buddsoddiad sydd wedi'i roi fewn i'r clwb yn ddiweddar. Fe gostiodd Neuadd y Parc dros £3.5m i'w adeiladu, yn ogystal a grant o bron i £500,000 ar gyfer y cae artiffisial. Dydi hyn ddim yn newid man o bell ffordd, a ffolineb ydi adeiladu maes Pel-droed gyda cynlluniau ar gyfer 3,000 o seddi heb gael tim i sicrhau lle'r clwb yn Ewrop bob tymor. (Er, dwnim lle mae'r eisteddle newydd 'ma os mae nhw ei hangen ar gyfer Mehefin/Gorffenaf!)

Yn wahanol i mwyafrif cefnogwyr yr Uwchgynghrair, mae gen i rhywfaint o edmygedd tuag at Mike Harris a beth mae wedi'i wneud gyda TNS. Do, mae wedi amddifadu Llansantffraid o'i Glwb i bob pwrpas, ond eto'i gyd mae wedi dod a llawer o sylw i'w Glwb a'r Gynghrair (Sylw oedd ddirfawr ei angen ar adegau). Yn bennaf oll, er hynny, ydi'r ffaith ei fod yn entreprenaur. Rhywbeth fysa ni gallu'i wneud efo mwy ohonynt ym Mheldroed Cymru weithiau.

Friday 29 February 2008

Alltudion yn Ol?


Ers y cyhoeddiad fod y BBC am ddiddymu'r Cwpan Cenedlaethol, mae'r Western Mail wedi bod yn arwain yr ymgyrch i alluogi'r Alltudion i chwarae yng Nghwpan Cymru unwaith eto.

Er hyn, dydi aelod blaenllaw o Fwrdd Rheoli y Rhyl ddim yn hapus gyda'r cynlluniau. Yn ol Doug Mortimer, Prif Gyfarwyddwr y Clwb:

"The feelings of Rhyl Football Club are that if the 'big three' are admitted back into the Welsh Cup it could sound the death knell of the Welsh Premier. The timing of the announcement of this idea is, to say the least, insensitive, coming 24 hours after the announcement that the FAW Premier Cup will cease to exist after this season.
"This is denying clubs revenue, which is much-needed because we don't get the support of the FAW. The league will also probably be losing a place in Europe and the benfits that brings - and to lose possible money from the Welsh Cup is a further blow to ambitious clubs in Wales. We honestly feel clubs will turn around and say 'What is the point?' The incentive for clubs to work harder to improve the stadia, to improve conditions for the spectators and to improve playing performances will disappear if we don't get the support from the FAW in some form or another.
"Directors are all part-time, we all have other lives to lead, and we're having to work harder and harder to meet the whims of the FAW."


Er mod i'n deall sefyllfa Mr Mortimer i raddau, mae 'na ffordd llawer mwy positif i edrych arni hefyd. Fel cefnogwr Bangor, braf byddai edrych ymlaen am drip i'r Cae Ras ar ol dod allan o'r het i wynebu Wrecsam, neu gem gartref broffidiol i'r clwb yn erbyn Caerdydd. O bosib hefyd, byddai'r gystydleuaeth yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda'r wobr o le yn Ewrop i'r enillwyr.

I raddau helaeth, byddai gem yn erbyn un o glybiau mwyaf Cymru yn golygu llawer iawn mwy o arian drwy' giat, yn arbennig wrth gysidro fod y costau teithio mor isel o'u cymharu gyda gem yn Nwyrain Ewrop er enghraifft.

Er hyn, y peth pwysicaf am rwan ydi fod David Collins o'r gymdeithas Bel-Droed yn eistedd lawr gyda Michel Platini i drafod y mater hon unwaith ac am byth. Mae hon yn stori sy'n dod i'r fei bob ychydig fisoedd, a mae angen ateb os oes dyfodol i'r alltudion yn Ewrop fel un o gynyrchiolwyr Cymru neu'i peidio.

Tuesday 26 February 2008

Be ddim i wneud...

Dyma enghraifft o be ni ddylech ei wneud tra rydych gol i lawr gyda chydig funudau ar ol. Da'r 'ogyn Tainio! :)

Anhygoel!

Bu bron i mi dagu wrth ddarllen sylwadau Chris Bryant yn y Western Mail heddiw. O bosib, byddai Mr Bryant yn hoffi gweld y statws hollol anffafriol sydd yma yng Nghymru, cyn cychwyn cymharu gyda'r sylw mae tim Lloegr yn ei gael.
Does bosib fod na le i edrych ar y dyddiau o sylw sydd yna i gemau Rygbi Cymru, sy'n chwarae'r 'run timau bob blwyddyn i bob pwrpas, i'w gymharu gyda'r sylw cymharol bitw mae Pel Droed yn ei dderbyn?

Monday 25 February 2008

Dim Mwy o'r Cwpan Cenedlaethol

Ar ol buddugoliaeth Tottenham yn ffeinal Cwpan Carling ddoe, roedd hi'n anochel y byddai rhywbeth yn fy nhynnu nol i'r ddaear.

Y newydd hwnnw oedd y siom fod y BBC wedi penderfynnu dod a'r Cwpan Cenedlaethol i ben ar ol y tymor yma. Er, doedd hyn fawr o sioc chwaith.

Roedd y Cwpan hon yn ffynhonell hollbwysig o incwm ar gyfer sawl o Glybiau'r Cynghrair Cenedlaethol, yn ogystal a'r '3 mawr' o bryd i'w gilydd hefyd. Roedd yr £100,000 a dderbyniodd Wrecsam ar sawl achlysur ar ol ei enill, yn ffactor mawr i sicrhau dyfodol y clwb, a oedd mor fregus ar fwy na un achlysur.
Y rheswm tydw i ddim wedi fy synnu, serch hynny, ydi agwedd un neu ddau o'r clybiau tuag at y gystydleuaeth yn ddiweddar. Mae rhyw driciau bach fel Caerdydd yn cyhoeddi gemau yn y gystydleuaeth fel rhai i'r ail-garfan ac yn gyrru'r is-reolwr i'w hyfforddi ar eu cyfer, wedi'i is-raddio. Mae hefyd Abertawe (sydd wedi bod yn dryw iddo ar y cyfan) eleni, yn gyrru tim o ieuenctid a'r ail-dim, yn gic arall i gystydleuaeth oedd yn cael trafferth gwneud marc fel yr oedd hi.
Dwi'n cael yr argraff weithiau, fod rhai cefnogwyr Caerdydd (a dwi'n pwysleisio ar 'rhai') yn ymfalchio yn y ffaith eu bod yn gweld y gemau hyn fel rhai is-raddol, ac yn cymryd pob cyfle posib i'w wneud yn destyn sbort. Wel, dwi'n cofio adeg ddim mor bell yn ol, pan fyddai Caerdydd wedi bod yn ofnadwy o ddiolchgar i dderbyn siec o £100, neu hyd yn oed £50,000.
Ond dyna ni, mae'r sefyllfa sydd gennym heddiw yn golygu fydd Clybiau Cymru dros £300,000 tlotach o dymor nesaf ymlaen. Dydi hyn ddim yn newydd da, boed bynnag eich teimladau amdani.

Tuesday 19 February 2008

Kenny Mac yn Gadael


Daeth newyddion difyr i'r golwg ddoe fod Ken McKenna am adael y Seintiau Newydd ar ol dros 10 mlynedd o wasanaeth fel Chwaraewr a Rheolwr. Ar ddiwedd y tymor bydd hyn yn digwydd, a mae'n debyg mai'r prif reswm dros yr ymadael ydi awch Mike Harris i weld y Clwb yn dennu gwell torfeydd drwy ddefnyddio mwy o chwaraewyr lleol.
Rwan, does ddim os nac oni bai nad ydi McKenna a'i staff wedi ffafrio chwaraewyr o ardal Leprwl a Birkenhead dros y blynyddoedd, a hawdd iawn mae wedi bod eleni iddynt chwarae 11 cyntaf o Sgowsars. Er hyn, does dim anmau gallu'r Dyn, a gyda tim llawn amser neu pheidio, mae hi dal yn anodd enill Pencampwriaethau tymor ar ol tymor. Dwi wedi synnu nad oes yr un tim o'r Gynghrair wedi dod mewn amdano yn barod, ond efallai bydd ei gyfle yn dod tymor nesa.
Mae sibrydion lu yn barod bydd Harris yn dod ac enw mawr i fewn i lenwi'i esgidiau yr Haf yma. Ysgwn i pwy fydd o?

Saturday 16 February 2008

Rhamant y Gwpan


Mae'n dda gen i weld fod Rhamant dal yn bodoli yng Nghwpan F.A Lloegr. Tra fod y cyfryngau yn parhau gyda'r sylw di-baid i un o gemau mwyaf diflas y rownd, sef Manchester United v Arsenal, yn Anfield mae newyddion mawr y dydd wedi digwydd. Holl bwynt y Gwpan ydi fod timau o bob safon yn cymryd rhan, a mae gemau fel hyn yn cymryd lle o'i herwydd. Chwarae teg i'r Tykes am ein hatgoffa ni o hyn, fel y gwnaeth Havant yn y rownd blaenorol.

Man U yn erbyn Arsenal? Pah!

Saturday 9 February 2008

15 Mlynedd


Mae Uwchgynghrair Lloegr yn 15 oed eleni. I ddathlu'r ffaith honno, mae'r Gynghrair yn trafod a oes posib symud rhai gemau dramor. Syniad hurt? Wel, un uffernol yn fy marn i!

Ond, does ddim modd dadlau nad ydi'r gynghrair honno wedi datblygu'n eithriadol ers y diwrnod cyntaf hwnnw yn Awst 1992. Yn 1992, yr Eidal oedd Y lle i fod. Bellach, mae'n ddigon teg dweud mai cynghrair Lloegr ydi ble mae llawer o chwaraewyr gorau'r byd yn ei anelu tuag ati, ac heb os, y cynghrair mwyaf proffidiol yn y byd.

Yn ddigon difyr, yn Mis Awst 1992 roedd yna Gynghrair arall yn cychwyn am y tro cyntaf hefyd, nid neupell o Loegr. Yr un honno oedd y Cynghrair Cenedlaethol, neu erbyn heddiw, Uwchgynghrair Cymru. Ydi honno wedi datblygu gymaint yn y 15 mlynedd diwethaf?

Mae 'na lawer o bethau'n bod ar Uwchgynghrair Cymru yn 2008. Un o'r prif broblemmau sy'n ei gwynebu ydi ei chanfyddiad gan y cyhoedd. Anghyson yw'r sylw mae'n ei chael ar y cyfryngau yng Nghymru, heb son am y Cyfryngau Cenedlaethol Brydeinig. Mae canlyniadau'r Sadwrn yn cael eu cyhoeddi ar Sky Sports a Final Score ar y BBC. Maen't hefyd yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru a Radio Wales, gyda gohebydd mewn ambell i gem yn dod a'r diweddaraf. Mae'r darpariaeth leol led-led y wlad yn ddibynnol ar agwedd y darlledwr.

Ar y teledu, mae'r Cynghrair efo rhaglen gylchgrawn hanner awr o hyd bob nos Sadwrn. Does dim sylw ar y Teledu Saesneg, ond mae'r Clwb Peldroed yn cael ei ganmol ar y cyfan gan Gefnogwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Yn ogystal, mae uchafbwyntiau swta ar gael ar y rhaglen 'Sgorio', sydd gyda apel eangfrydig, tu allan i Gymru hyd yn oed.

Yn nhermau darlledu, mae'r Gynghrair yn derbyn sylw teg. Dwi'n credu yn bersonol mai'r dyddiau pan roedd 'Gol' yn cael ei ddarlledu ar S4C oedd uchafbwynt ei ddarlledu yng Nghymru. Roedd honno'n raglen maith oedd yn rhoi mwy o sylw i'r gemau oherwydd natur hirach y rhaglen.

Mae'n biti i raddu nad oes unrhyw sylw o gwbl yn cael ei ddarlledu drwy gyfrwng y Saesneg, gan fod canran uchel o Gymry sydd ddim yn siarad/deall yr iaith. Ond ar y cyfan, mae'r sylw ar S4C yn ddigon teg.

Tra'n gwrando ar Bodlediad swyddogol Uwchgynghrair Cymru yn gynharach, daeth trafodaeth am Gytundeb teledu newydd y Gynghrair. Yn ol y Gytundeb newydd hwnnw, bydd isafswm o 7 gem byw yn cael eu darlledu bob blwyddyn ar S4C. Mae hyn yn naid eitha sylweddol, a rhaid llongyfarch y Gymdeithas Bel Droed, ac S4C am gytundeb mor hael i'r pyramid Cymreig.
Mae'n fwyaf tebyg bydd y tender yn mynd allan i gynhyrchwyr annibynol i greu'r rhaglen ar ran S4C. Un o'r cwestiynnau mwyaf ydi pryd ydi'r amser gorau i ddarlledu'r gemau yma? Yn y gorffenol, mae sawl amser gwahanol wedi'i defnyddio, fel P'nawn Sul, Nos Sadwrn a Nos Wener.

Yn fy marn i, dylai'r gemau hyn gael eu darlledu ar Nos Iau (heb gemau Cwpan UEFA) neu Nos Sul. Mae'n bwysig nad ydi gem byw yn cymryd lle ar yr un amser a mae gemau arall yn y Gynghrair yn cael eu chwarae, er mwyn sicrhau fod y torfeydd hynny mor uchel a sy'n bosib. Mae hi hefyd yn aruthrol bwysig nad yw'r gemau yn cymryd lle ar yr un amser a gem Premiership byw ar Sky, neu beth bynnag. Yn fy hanes i o weld gemau byw, mae'r torfeydd yn gallu bod yn wael iawn ar gyfer gemau Nos Fercher pan mae Cynghrair y Pencampwyr ymlaen, neu P'nawn Sul pan mae Lerpwl neu Man Utd ar y teledu.

Dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd cynlluniau tymor nesa'. A fydd hi'n bosib bod rhaglen gylchgrawn fel Gol yn dod yn ol? Roedd Amser Cinio yn amser delfrydol am raglen o'r fath, ac er nad oeddwn ddigon hen ar y pryd, gallaf fentro fod sawl un yn nyrsio ambell 'Hangover' gyda Tref y Bari yn eu hanterth ar y sgrin!

Friday 8 February 2008

Cymru 3:0 Norwy


Ar gae eithriadol wael, ar noson oer o Chwefror, wnaeth Cymru chwarae fel 11 arwr i sicrhau chwip o ganlyniad. Oce, tydi Norwy ddim am enill Cwpan y Byd unrhyw amser yn fuan, ond does rheswm nad ydi canlyniad o'r fath yn ddigon i fod yn falch ohoni?

Mae'n anodd pigo allan unigolion i fod yn berffaith onest. Mi oedd na 4-5 o chwaraewyr a oedd yn llawn haeddianol o chwaraewr y gem. Roedd fel petae y tim hon, heb fawr o wynebau cyfarwydd i'r cefnogwr cyffredin, yn chwarae'n well heb y 'ser'. Be goblyn oedd Carl Fletcher yn ei wneud o fewn 10 llath i gwrt cosbi y gwynebwyr? Roedd Chris Gunter yn taranu lawr asgell dde fel petae wedi chwarae i Gymru am flynyddoedd, ac Eastwood yn cael hwyl arni yn rheoli'r-rheng flaen.

Yn amlwg bydd pob gem ddim fel hyn, a does dim pwyntiau ar gael am gemau Cyfeillgar. Ond duwcs annwyl, mae rhaid i gefnogwyr Pel-Droed Cymru gael y cyfle i wneud y gorau o'n buddugoliaethau, os yn unig i gadw Rygbi i ffwrdd o'r tudalenau-ol am ddiwrnod ;)

Friday 1 February 2008

Dylan Hughes : O Vancouver i'r Rhyl


Mae Dylan Hughes, gynt o Kaiserslautern a Newcastle United wedi arwyddo i'r Rhyl. Hen Pro yn chwilio am geiniog ar ddiwedd ei yrfa medda chi? Wel, ddim tro 'ma. 23 ydi Dylan, a mae'n anodd dadlau ei allu. Roedd yn chwarae i VVV Venlo yn yr Iseldiroedd y llynedd, a gwnaeth 12 ymddangosiad yno tra ar fenthyg. Mae Venlo yn chwarae yn yr Eredivisie eleni. Gwn i ddim am ei frawd, Kevin, sydd hefyd wedi arwyddo. Ond dipyn o ddychymyg ar y Belle Vue felly?

Mewn newyddion difyr arall o'r ffenestr trosglwyddo, mae'r Seintiau Newydd wedi arwyddo Kevin Townson o Northwich Victoria a Paul Henry o Tranmere. Mae'n pery i mi feddwl faint o ymosodwyr mae nhw ei angen ar Neuadd y Parc. Mike Wilde, John Toner, Jamie Wood, Carl Lamb, Ronnie Morgan a rwan Kevin Townson. Dydyn nhw ddim yn chwarae'r Peldroed mwyaf deniadol ar y gorau, felly duw a wyr be wnawn nhw efo'r rhain i gyd!

Rhywbeth sydd wedi pery poendod meddwl i mi, ydi pam fod Llangefni wedi sacio'u rheolwr ddiwrnod cyn i'r ffenest drosglwyddo gau? Mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn y byddai Kevan yn dod a'i chwaraewyr ei hun i fewn, pam y syndod pan arwyddwyd y Sgowsars i gyd o Fae Colwyn? Er, os mae rhywyn am gadw'r 'Dazzlers' i fynny, Bryan Owen ydi hwnnw.

Thursday 24 January 2008

Blŵs Plas Kynaston


Mae'n anffodus braidd fod Mr A. Harms o Brestatyn heb ganiatau un o goliau Bangor a chafodd eu di-ystyrru am gamsefyll, nos Fawrth. Oes na rhywyn arall yn cofio ar y Vidiprinter ar Grandstand, pan oedd rhywyn yn sgorio 7 gol mewn gem? Roedd y canlyniad yn cael ei ddilynu gyda'r sgor mewn ysgrifen bras. Rhywbeth tebyg i hyn:

Nottingham Forest 7 ( SEVEN) Derby County 1.

Fyswn i ddim wedi hoffi bod yn gefnogwr selog ar y Baseball Ground bryd hynny!

Tawaeth, dwi'n parablu. Doeddwn i erioed wedi bod i Ffordd Plas Kynaston tan Nos Fawrth. Er hynny, dwi'n falch mod i wedi bod rwan. Mae'n Faes digon taclus, gyda 'Clubhouse' golew a Terras bach handi lawr un ochr o'r maes, dy'n beth digon anghyffredin yn Uwchgynghrair Cymru.

Roedd y gem, ar y llaw arall, wedi gorffen fel cystydleuaeth wedi brin hanner awr ohoni basio. Cafodd Sion Edwards fodd i fyw yn rhwygo drwy amddiffyn y Derwyddon, a roedd hynny'n gadael digon o le i Stott a Davies achosi difrod yn y Blwch Cosbi. Cafodd Chris Mullock yn y gol, noson erchyll. Fyswn i ddim yn licio bod yn esgidiau Waynne Phillips yn ceisio ysgogi'r tim erbyn gem Dydd Sadwrn, yn saff i chi!

Dwi'n addo ysgrifennu fy marn am ddyfodol Uwchgynghrair Cymru yn fuan!

Wednesday 9 January 2008

Blwyddyn Newydd Dda

Ymddiheuriadau am y diffyg Postio diweddar. Dwi wedi symud ty i begwn arall Gogledd Cymru yn ddiweddar, a mae'n anodd iawn ffendio amser i bostio tra nad oes cysylltiad i'r Rhyngrwyd yn y ty!
Yn y cyfamser, byddaf yn edrych ymlaen ar gyfer gem Llanelli yn erbyn Wrecsam, ac yn cadw llygad barcud ar gynlluniau diweddar Alun Evans i gynnwys ail dimau y '3 mawr' yn yr Uwchgynghrair.

Hwyl!