Tuesday 24 July 2007

Adeg yna'r Flwyddyn



Fe ymwelais a Chae Bob Parri, Llangefni heno i weld sut siap sydd ar eu paratoadau ar gyfer eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Cymru. Yr ymwelwyr oedd tim ifanc o Academi yr Amwythig, nad oeddwn yn gyfarwydd ac unrhyw un ohonynt. Er hynny, roedd y chwraewyr ifanc, di-brofiad yma yn dechnegol iawn yn eu chwarae. Dyna am wn i oedd yn dangos fwyaf heno. Gydag eithriad Osian Roberts o Porthmadog gynt, dwi'n anmau faint o bwyslais sydd ar y chwarae technegol, yn hytrach na chryfder, wrth baratoi'r ifanc ar gyfer gyrfa yn ein clybiau Cymreig. Er, i fod yn deg, gyda safon rhai caeau Uwchgynghrair Cymru yn ystod Misoedd y gaeaf, a oes syndod pam?

Mae timau llawer gwaeth na Llangefni wedi cadw'u statws yn y Cynghrair Cenedlaethol, a synnwn i ddim gweld Cefni yn aros i fynnu yn eithaf cyfforddus. Fy unig mhryder i am y tim yw eu diffyg profiad ar y lefel yma, ar y wyneb o leiaf. Dros sgwrs efo met i mi sy'n gefnogwr brwd o'r Clwb, daeth yn amlwg i mi bod mwy na'r disgwyl wedi bod yma o'r blaen. Dylan Owen (Caernarfon a'r Rhyl gynt), Chris Jones (Caernarfon), Graham Austin (Bae Cemaes a'r Rhyl), Ywain Gwynedd (Port) ond o dop fy mhen. Yn ogystal, does dim posib di-ystyrru dylanwad Adie Jones dros ei garfan gymharol ifanc, mi fydd ei brofiad o'n hanfodol yn y tymor cyntaf pwysig hon.

Ond o Glwb sy'n edrych ymlaen i'w tymor cyntaf ar y lefel hon, mae clwb arall sydd wedi gwneud yn oll o'r blaen, yn edrych ymlaen at siwrnae lawr ffordd tra wahanol. Am y tro cyntaf ers i'r Bari drechu Shamkir (ew, mae'n swnio mor bell yn ol rwan), mae clwb o Gymru efo siawns realistig o gyrraedd ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. Dwi yn pryderu nad ydym wedi gweld Ventspils ar ei gorau yr wythnos diwethaf, a gyda buddogoliaeth o 2-0 yn erbyn Blackpool o'r Bencampwriaeth o dan eu belt Dydd Sadwrn, dwi'n ofni'r gwaethaf.

Friday 20 July 2007

Dim Blues ar y Belle Vue



Mi fyswn yn gallu cychwyn y pwtyn yma drwy son am yr uffern o siwrnae tren a gefais ar y ffordd i, ac adref o'r Rhyl neithiwr. Ond dydi'r pobol meddw ar y ffordd yno, na'r gohiriadau lu a achosodd i mi gyrraedd adref am 12:20 y bore ma ddim mor bwysig a chanlyniad y Lillywhites neithiwr. Ar ol eu buddugoliaeth wych, mae'r Rhyl gam yn nes i gyrraedd ail rownd rhagbrofol Cwpan UEFA. Roeddwn yn diawlio ar y tren yr holl ffordd adref nad oeddwn wedi rhoi pres ar Rhyl i guro, gan fod yr odds reit dda (ymysg pethau eraill).

I fod yn hollol onest, y rheswm na rois arian arni oedd nad oeddwn yn disgwyl hyn ddigwydd o gwbl. Bob blwyddyn fel rheol mi fyddaf yn rhoi arian ar y 3/4 tim Cymreig guro'i gemau, a mwy na lai bob blwyddyn rwyf yn colli arian. Lwc Mul ynde?


Mae'n anodd dadansoddi beth oedd yr union resymau am ganlyniad ddoe. A'i hwn oedd yr un Haka a chwalodd Bangor rhyw 9 mlynedd yn ol ar Ffordd Ffarrar, gyda Marlon Harewood ifanc yn y rheng flaen? Mae safon yr Uwchgynghrair wedi codi rhywfaint ers hynny, ac mae rhaid dweud fod tim Rhyl ddoe yn un gwell na un Bangor yn 1998 a roddwyd at ei gilydd yn sydyn wedi ymadawiad Graeme Sharp. Dyma'r tim a roddwyd allan gan Fangor ar y noson, gem gystydleuol gyntaf i'r mwyafrif chwarae gyda'i gilydd.

L. Williams, G. Williams, Fox, Allen, McGloughlin, Horner, Hilditch, Taylor (sub P. Langley), Ayorinde, Sharratt, McGoona (Wenham)

Ond, heblaw am yr enwog Sammy Ayorinde, sydd efo capiau dros ei wlad (Nigeria) i'w enw, yr unig rai dwi'n eu adnabod heddiw ydi Lee Williams, Mark Allen, Darren Hilditch, a Danny McGoona. Ddim yn garfan a oedd mynd am y bencampwriaeth a dweud y gwir.

Doedd gan Rhyl fawr o Beldroed yn perthyn iddynt chwaith. Lot o beli dros y top, ond dyna ni. Mi weithiodd yn do? Mae'n gweithio i John Hulse, a dyna sy'n bwysig.

Er hyn i gyd, dwnim be oedd Caerfyrddin druan yn ei wneud chwaith. 8-0 gartref? Y peth trist am hyn oll ydi fod canlyniad Caerfyrddin am dynnu coefficient Cymru gyda UEFA os bydded i Rhyl gyrraedd y cymal nesaf.

Mae canlyniadau o'r fath, yn anffodus, yn agor i fynnu'r drafodaeth sy'n codi'i ben bob hyn a hyn, nad yw timau'r Uwchgynghrair yn deilwng i gynyrchioli Cymru yn Ewrop. Dyna fydd cri ambell i gefnogwr Caerdydd ar sawl fforwm dros y dyddiau nesaf, gwyliwch chi.

Wednesday 18 July 2007

Un troed yn Salzbwrg...

Mae'r Seintiau Newydd, un canlyniad oddiar gyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr, drwy sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed mewn gem Ewropeaidd. Roedd yn ganlyniad eithaf i'r Seintiau, ond y boen mwyaf fydd y ddau gol oddi cartref a ildwyd yn y buddugoliaeth o dair gol i ddwy. Roedd yn glamp o gem serch hynny, a mwynhais wrando arni ar y Radio dros y we. Dyma'r goliau ohoni, a recordiais yn gynharach:



Mae'n anodd gwybod be fydd strategaeth Ken McKenna allan yn Latfia. Ai'r nod fydd cadw pethau'n dynn a chwilio am gol sydyn, yntau mynd amdani i wneud y dasg hyd yn oed anoddach?. Yn sicr fyswn i'm yn licio bod yn esgidiau'r sgowsar hoffus, ddydd Mercher nesaf.

Monday 16 July 2007

Breuddwyd y Seintiau

Gan ddilyn patrwm blynyddol bellach, mae'r Seintiau Newydd (dwi o hydyn mynnu eu galw'n TNS), yn ein cynyrchioli yng Nghynghrair y Pencampwyr. Fel y soniais eisoes, mae'n gymal anodd i ddod drosti, yn enwedig wrth ystyried mai llond dwrn o gemau cyfeillgar sydd ganddynt fel paratoad.
Er hynny, faint o Wledydd yn Ewrop sydd ddim yn talu sylw Teledu o gwbl i'w cynyrchiolwyr yng Nghwpan pwysicaf y Cyfandir? Er ychydig syndod i chwi oll mae'n debyg, mae Cymru ymysg y rheiny. Cefais gyfle i daro ebost i Nigel Walker, sef pennaeth Chwaraeon BBC Cymru ynglyn a'r anghyfiawner yma, a dyma dranscript ohono.

"I am emailing you to describe my dissapointment to find out there will be no coverage of our Welsh Football representatives in European competition (again) this year. I am not a supporter of any of the clubs in question (namely, TNS, Carmarthen and Rhyl), however it must be questioned why these games are not being broadcast in any way, shape or form. ITV Sport and other Terrestrial channels pay millions to secure the rights to broadcast English and Scottish clubs in Europe, and RTE in Ireland will be broadcasting Derry City's adventures in Europe.

However, why is it that a Public service Broadcaster such as the BBC fail to see that they have as much an obligation to show Welsh Clubs represent us, as they do, to attempt to secure Welsh National Team coverage. Unfortunately, the BBC were unsuccesful in the latter, but in the former, there is no excuse as far as I can see.

An otherwise happy viewer
Gareth Williams "

A dyma'r ymateb:

"Dear Mr Williams,

BBC Wales will not be providing live coverage of the Welsh Premier clubs’ matches in the first qualifying rounds of the Champions League and the UEFA Cup.

We recognise and understand the disappointment surrounding this decision. As you may know, in past years BBC Wales has broadcast selective television coverage of Welsh Premier teams in Europe and this will continue to be our policy. Many factors are taken into consideration including scheduling, attractiveness of the tie, sequence of the legs and, of course, cost before arriving at a decision and on this occasion it was decided not to broadcast the matches on television. However, this will not diminish our interest in the clubs’ progress. We intend to dedicate coverage to the fixtures on our news, radio and new media services.

BBC Wales remains committed to football in Wales at all levels. Wales' away football internationals frequently feature on BBC Wales with both San Marino v Wales and Germany v Wales to be televised in the Autumn (rights for Wales' home matches rest with Sky). We provide weekly coverage on Sportstime and The Back Page on Radio Wales and Camp Lawn on Radio Cymru. We are also responsible for the production of Y Clwb Pel-droed on S4C and our websites in English and Welsh carry extensive coverage of football every day of the week.


Geoff Williams,
Managing Editor, BBC Wales Sport"

Dwi'n deall eu safbwynt o raddau. Allai ddim beio ITV Cymru i'r run graddau oherwydd mai i'r hysbysebwyr mae eu teyrnged. Ond dwi mewn dryswch ynglyn a rol BBC Cymru fel Darlledwr cyhoeddus. Os dydi dangos clybiau ein Cenedl yn ein cynyrchioli yn Ewrop ddim o fewn dyletswyddau darlledwr o'r fath, mae problem enfawr yn rhywle. Mae gan y BBC ymysg eu gweithlu, griw tryw i Beldroed ar y lefel yma. Sydd ond angen gwrando ar y Camp Lawn neu wylio'r Clwb Pel-Droed yn wythnosol i wybod hynny.
Ond ymddengys fod problem, a thybiaf fod cysgod y bel hirgron yn cael ei daflu dros rai yng nghoridorau pwer y gorfforaeth yn rhywle...

Monday 2 July 2007

Anlwcus Llanelli

Agos iawn oedd Llanelli i chwalu fy mhroffwydoliaeth gynt ynglyn a tim o Gymru yn cyrraedd y rownd nesaf. 6 -6! Pwy fydda wedi meddwl! Diolch i ddiffyg ysbrydoliaeth ein Cyfryngau yng Nghymru, doedd dim modd i mi wylio'r Gem. Ond diawl, mae'n swnio'n wych. Y Clwb eisiau rhyddhau DVD ohoni?!