Wednesday 28 February 2007

Y 'Premier' Cup?



Roedd gen i deimladau cymysg iawn wrth wylio gem Caerdydd a'r Seintiau Newydd neithiwr. Da o beth oedd gweld tim Uwchgynghrair yn mynd drwodd i'r rownd derfynol wrth gwrs, ond doeddwn methu cael dros agwedd Caerdydd at y gwpan. Dim ots be ddywedir am y gwpan hon, pa siawns arall sydd gan Caerdydd o enill £100,000 am enill tair gem a'r posibilrwydd o chwarae Abertawe y tymor yma?
Mae o fel petae Caerdydd ar bwrpas yn diystyrru'r gystydleuaeth er mwyn mynd yn groes yn erbyn y Gymdeithas Beldroed. "Os fysa lle yn ewrop mi fydda ni'n rhoi tim llawn allan" ydi'r alwad yn aml. Ond tra fod ansicrwydd ynglyn a sefyllfa Cymru a'r 'tri mawr', dydi'r Gymdeithas Beldroed ddim mewn sefyllfa i gynnig hyn iddyn nhw. Mae 600 yn troi allan i gem gyn-derfynnol unrhyw gwpan i glwb sy'n honni eu bod yn fawr, fel Caerdydd, yn warth ynddo'i hun.
Mae Wrecsam ac Abertawe wedi trin y gystydleuaeth gyda pharch a roedd yn dipyn o achlysur pan lwyddodd Port Talbot i drechu tim cryf Abertawe rhyw fis neu ddau yn ol. Ond yn anffodus, dipyn mwy fflat ydi'r dathliadau ar y Dreflan heddiw mae'n siwr gen i.

Monday 26 February 2007

Cymru ar y Cae Ras


Mae Cymru yn dod yn ol i'r Cae Ras ar y 26ain o Fai (Penwythnos fy mhenblwydd :) , i chwarae gem gyfeillgar yn erbyn Seland Newydd. Dim newyddion i fod yn falch ohono os ydych yn disgwyl i fawrion y Byd Peldroed i gyd ymgynyll yn Wrecsam na dim felly, ond mae'n fwy o Beldroed Rhyngwladol yn y Gogledd yn dydi? Parhad o'r arbrawf lwyddiannus i chwarae Liechtenstein yn Wrecsam, a mae Toshack a'i chwaraewyr i'w gweld yn hapus i barhau.Mae hyn yn rywbeth mae cefnogwyr rhan yma o'r byd ei angen ac yn haeddu. Parhad o'r Seibiant i ni o'r A470 neu tren drwy Llwydlo a'r Amwythig dydi?

Peldroed y penwythnos


Gan na welais ddim o ffeinal Cwpan Carling ddoe, does gen i'm lle i ddweud dim amdano (fel fyswn i eisiau gweld gem rhwng y ddau dim dwi'n eu casau fwyaf!)
Yn lle hynny, fe es a y wefan wych myp2p i wylio gem Spurs a Bolton wedi'i ffrydio yn syth o Lundain, cael ei ddarlledu o ESPN Hong Kong, ac yn nol i PC fy nghariad ym Mangor. Gwych! Dwnim be sydd haru Spurs wythnos yma, mae nhw wedi enill tair gem yn olynol.
Fe dreuliais fy mhrynhawn Sadwrn ym Modedern (fel dwi'n neud bron bob yn ail Sadwrn drwy gydol y tymor) yn gwylio buddugoliaeth Boded o 1-0 dros Mynydd Isa. Gwych oedd tair pwynt arall, a pethau yn edrych yn reit dda am aros i fynnu y tymor yma. Nid ar chwarae bach mae tim bach sydd heb arian (o'i gymharu efo mwyafrif timau y Gynghrair, ac yn sicr gweddill timau yr Ynys) yn gallu cystadlu yn y Gynghrair hon, ond mae'n edrych ein bod am wneud hynny am dymor arall o leiaf. Mae hefyd yn syndod fod pob un o'r Garfan yn dod o'r Ynys, gyda'r mwyafrif helaeth wedi dod drwy'r system ieuenctid ac wedi'i haddysgu yn yr Ysgol lle rydym yn chwarae. Sawl tim arall ellith ddweud hynny dywedwch?
Hefyd, Bangor yn enill eu gem hwythau yng Nghwmbran. Dwi'm yn cofio'r tro dwytha i'r tri o fy hoff dimau wneud hynny mewn un penwythnos i fod yn onest.
Wrecsam yn colli'n drwm p'nawn Sul, a wedi colli Steve Evans am 5 gem rwan. Pethau'n edrych yn ddu ar y Cae Ras. Conference flwyddyn nesa, rhywyn?

Thursday 22 February 2007

Rangers yn Ewrop

Sut fod Rangers yn gwneud cystal yng Nghwpan Uefa, ond yn gwneud mor sal yn y Gynghrair?
Mae'n ddiddorol sut mae clybiau yr Alban (heb anghofio fod Hearts allan yn barod, a trychineb Gretna allan yn Derry) yn gwneud mor dda yn Ewrop eleni. Mae Rangers wedi colli sawl gem, nid yn unig yn erbyn Celtic, ond gollwng pwyntiau yn erbyn sawl tim y tymor yma, a dal i ffendio'u hunain yn gwneud yn dda yng Nghwpan Uefa. Ffenomenon od iawn pan yn cysidro fod y tim llawer llai 'Ewropeaidd' nag yr oedd yn y dyddiau pan roedd Brian Laudrup, Steffan Klos a Marco Negri yn chwarae i'r clwb. Yn lle, mae'r tim llawer iawn mwy 'Albanaidd' yma yn ffendio'u hunain yn cocio fynnu dau dymor yn olynol yn y cynghrair domestig, ond tra'n ddi-brofiad yn Ewrop i fod, dal i fynd yn gryf yn fanno am yr ail dymor yn olynol.

Everton v Tottenham


Fe es i wylio Everton yn erbyn Spurs neithiwr ar Barc Goodison, a roedd yn ganlyniad a diweddglo gwych i mi, yn amlwg. Roedd Spurs wedi chwarae lot gwell yn y haner cyntaf, ond Everton wedi cael gafael ar y gem erbyn yr ail haner, wedi'i hysbydoli gan gic rhydd Mikel Arteta (na ddylai wedi bod yn gic rhydd yn y lle cyntaf). Yn ffodus, gyda cyfuniad o dectegau negyddol gan Moyes, a Spurs yn dod yn ol yn gryf yn y chwarter awr olaf, fe sgoriodd Jenas gol dda i sicrhau'r fuddigoliaeth. Fe aeth ein cefnogwyr ni'n wyllt, a roeddwn yn dawnsio ar fy sedd ar un cyfnod. Gwych!

Wednesday 21 February 2007

Giggs a'i giciau



Yn amlwg yn wahanol i'r rhanfwyaf, dwi'n hollol yn erbyn ciciau rhydd sydyn. Sut all y bel fod mewn chwarae os dydi'r dyfarnwr heb chwythu'r chwiban i ddynodi fod chwarae wedi ail-gychwyn? Yn dechnegol mae'r bel dal yn farw yn dydi o ddim?

Tuesday 20 February 2007

Youtube

Am mod i wedi syffedu, ers sbel rwan rwyf wedi bod yn mynd drwy fy nghasgliad fideos er mwyn eu sortio a taflu rhai di-angen. Dwi wedi dod ar draws rhai hen geiriau nad oeddwn yn gwybod oedd gennyf, a wedi bod yn eu postio ar Youtube. Dyma un ohonynt, sef gol Ken McKenna yn eiliadau olaf Gem Derfynnol Cwpan Cymru 1998 i Fangor yn erbyn Cei Conna. Maer werth gweld faint mae'r hen Gae Ras wedi newid ers hynny. Mwy i ddod yn y man.

'Gynnau Mawr'?


Mae teitl yr erthygl yma wedi gwneud i mi bendroni ychydig ynglyn ac ystyr y gair 'Big Guns'.

Os ydi tim fel Spurs sydd wedi cyraedd y ffeinal 9 gwaith, a enill y gwpan 8 o weithiau ddim yn 'big gun' yna mae rhywbeth o'i le. Braidd yn sarhaus yn fy marn i.

Monday 19 February 2007

Youtube Cymru

Gan fod y blog ma'n edrych yn eitha di-liw, dwi wedi postio fideo wnesh i ei chreu a'i rhoi ar Youtube rhai misoedd yn ol. Gobeithio fod o'n plesio :)









Wrecsam v Caer


Y penwythnos yma, penderfynnais y byddai'n syniad, gan fod Wrecsam yn chwarae ar y Sul ac ddim yn amharu gyda fy ymrwymiadau eraill, y byddwn yn mentro fynnu i'r Cae Ras am y tro cyntaf y tymor yma ar gyfer gem Gynghrair.
Digon di-fflach oedd y gem ar y cyfan, gyda'r 'run tim yn haeddu ennill na cholli yn y pen draw.
Yr hyn sy’n pery i mi feddwl, yw sut all cefnogwyr selog Wrecsam ddioddef Lee McEvilly o wythnos i wythnos? Ar y Kop fe glywais ddau gefnogwr yn siarad gyda’u gilydd cyn y gem fod y ‘Fat Waste of Space’ yn ‘Shit’ yn erbyn Peterborough, a roeddwn yn eiddgar i weld sut y byddai’n perfformio yn y gem ddarbi fawr.
Rhwystrydedig ydi’r gair fyddwn yn ei ddefnyddio. Roedd i’w weld yn trio ddigon caled ddoe chwarae teg, ond sut all dyn mor fawr a sydd i fod yn gryf, gael eu guro i’r bel mor hawdd? Dipyn o Emile Heskey syndrome os ydych yn gofyn i mi….

Croeso

Fe gychwynais flog tra yn y Coleg, ond barodd hwnnw ychydig fisoedd yn unig. Dwi'n fawr obeithio bydd yr un yma, fydd yn edrych ar Beldroed yn bennaf, yn dal fy nychymyg dipyn mwy.