Friday 15 May 2009

Cochion Koln



Fel llawer i un arall, mae gen i fy hoff dim mewn amryw gynghrair yn y byd. Yn yr Almaen, FC Koln ydi hwnnw. Mae hyn wedi'i selio ar drip i'r Almaen a wnes tra dal yn y Coleg, a chael cyfle i fynychu gem yn erbyn eu gelynion pennaf, Aachen. Mae'r cefnogaeth hwnnw wedi sticio i raddau hyd heddiw. Wel, dwi'n deud wedi sticio, i'r graddau mod i'n gwisgo hen grys oddi cartref y clwb rownd y ty, ond dwi'n parhau i gadw llygaid arnynt. Mae'n siwr mai'r newyddion mawr diweddar ydi fod Lucas Podolski am ddychwelyd i'r clwb ol ol cyfnod o 4 mlynedd gyda Bayern Munchen. Ond mae wedi bod yn dymor llwyddianus eleni fel ma'i. Tra fod Hoffenheim wedi bod yn gwneud y penadwdau am eu tymor cyntaf gwych yn y Bundesliga, mae Koln yn eistedd yn 12fed, a safle parchus iawn am dymor cyntaf yn ol yn y brifadran. Dwi'n gobeithio'n fawr gweld y geifr yn ol yn Ewrop yn y dyfodol agos.

Thursday 14 May 2009

Dyfodol Disglair y Dons



Pan wnaeth Charles Koppel a'i fwrdd benderfynnu symud clwb Wimbledon o'u cartref naturiol yn Ne Llundain i Dref newydd Milton Keynes roedd barn mwyafrif cefnogwyr Peldroed y wlad bron yn unfryd y farn fod 'Franchise' Americanaidd ym Mheldroed yn rywbeth i'w wrthod. Ar y cyfan, credaf fod y farn yma'n parhau. Dydi dymchwel MK Dons lawr y tablau ddim cweit wedi digwydd, ac i ddweud y gwir, mae'r clwb yn ffynu gyda torfeydd da, stadiwm newydd sbon ac enwau mawr fel Paul Ince a Roberto Matteo ymysg eu rheolwyr diweddar.
Ond mae'r ffaith fod AFC Wimbledon, sef y clwb a'i grewyd yn sgil symudiad y 'Dons' gwreiddiol, yn ysbrydoliaeth i gefnogwyr Peldroed ymhobman. Yn bersonol, tydw i ddim yn ffan o'r 'AFC's' diweddar sydd wedi'i creu fel AFC Liverpool ac FC United, sy'n tynnu cefnogaeth o dimau bychain arall yn y bon. Ond does dim os nac oni bai fod sefydliad y Dons newydd (neu'r gwreiddol os hoffwch edrych arni felly) yn un hollol ddealladwy a chanmoladwy. Gret felly yw gweld eu bod newydd eu dyrchafu i'r Blue Square Cenedlaethol. Pwy a wyr, efallai bydd enw Wimbledon i'w weld yn ol ar dablau Cynghrair Lloegr rhyw ddydd.

Wednesday 6 May 2009

na na na na, Leslie Davies, Bangor's Number 9!

Dyma rai lyniau o'r gem a dynais b'nawn Llun ar Barc y Scarlets





I fod yn deg gyda Aberystwyth, dwi'm yn credu iddyn nhw wneud cyfiawn gyda nhw'u hunain. Mae nhw'n dim llawer gwell na be welon ni ar y cae, a dwnim os mai pwysau heb fod wedi ennill y tlws enwog, ers 109 o flynyddoedd, oedd yn chwarae ffactor neu'i peidio. Fe ddaeth goliau Bangor mewn cyfnodau pwysig iawn sef jyst cyn ac ar ol yr egwyl, ac anodd, os nid amhosib ydi amddiffyn yn erbyn chwaraewyr fel Peter Hoy a Les Davies mewn unrhyw giciau rhydd a chornel a.y.b.

Ond yn ffodus i ni Ddinasyddion, mae gennym drip rownd Ewrop ar y ffordd!...

Sunday 3 May 2009

Classic Cwpan Cymru

Diweddariadau Twitter

Gan mod i lawer rhy brysur/diog i bostio'n gyson iawn, dwi wedi ychwanegu blwch i'r dde sy'n dangos y diweddara' o fy niweddariadau Twitter. Gan fod modd i mi wneud hyn dros fy ffon symudol, sgen i'm dewis ond postio rhywbeth yn gyson. Gawn ni weld!