Friday 28 September 2007

Parhau gyda'r Podlediadau

Dwi wedi bod yn tyrchu'n ddyfnach i fyd y Podlediadau a wedi darganfod mwy o rai gwych. Er fod rhai blynyddoedd wedi mynd ers eu dyddiau ar Talksport, mae'r cefnogwr Millwall, Danny Baker, a'r cefnogwr Spurs, Danny Kelly, wedi dychwelyd i greu Podlediad wythnosol. Mae nhw wir yn wych, ac yn sicr gwerth gwrando arnynt. Mae'r manylion ar sut i lawrlwytho'r sioeau (unai drwy iTunes neu lawrlwytho o'r We) ar gael drwy ymweld a'u gwefan.

Rhaglen arall fyddai'n hoff o wrando arni ydi'r Spurs Show gyda Phil Cornwell, ond beryg fydd hwnnw ddim o ddiddordeb i'r mwyafrif ohonoch!

Gobeithio fod y Cynghrair Cenedlaethol yn bwriadu parhau gyda'u Podlediadau. Roedd yn syniad da llynedd ac yn ddigon difyr ar adegau.

Monday 24 September 2007

Ar yr iPod!

Dwi wastad yn falch o weld mwy o gynnwys Peldroed ar gael drwy'r Gymraeg, ac enghraifft o hynny ydi podlediad newydd 'Ar y Marc' BBC Radio Cymru. Gan mod i lawer rhy ddiog i godi am 8:30 bore Sadwrn, mae cyfle i wrando ar y rhaglen unwaith eto Dydd Llun ac yna y Podlediad 'bonws' ganol wythnos yn syniad gwych. Rhowch dro iddi, mae'r ddolen i wrando arnynt yma.

Rhag ofn nad ydych erioed wedi'i weld o'r blaen, ac yn meddwl fy mod yn hollol wallgof yn awgrymmu gol Dalian Atkinson fel yr un orau erioed, dyma hi unwaith eto:



Ar ol gwrando ar y Podlediad byddwch yn gwybod be rwyf yn son amdani. Dwi wrth fy modd efo gol yna am rhyw reswm!

Friday 14 September 2007

Tosh yn taro'n Nol


Ar ol siom nos Sadwrn (y perfformiad yn fwy na'r canlyniad), roedd hi'n wych gweld carfan Cymru yn taro nol mewn ffordd mor drawiadol nos Fercher yn erbyn Slofacia. Roedd Craig Bellamy yn wych, ac fe af mor bell a dweud mai dyna'i berfformiad gorau yng Nghrys Coch Cymru. Un cwestiwn sy'n fy mhoeni i ydi pam fod Robbie Savage wedi bod mor ddistaw yn ddiweddar?!

Monday 3 September 2007

Nostalgia

Dwi'n credu fod pawb yn cyrraedd oed pan oedd popeth yn well yn y gorffenol. Er gwell neu gwath, dwi'n credu fy mod wedi cyrraedd y pwynt yma yn 23 oed. Dwi wedi bod ar Youtube yn ddiweddar yn chwilio ar glipiau Peldroed o'm mhlentyd, a beth oedd yn fy nifyrru fwyaf oedd sut mae darlledu Peldroed wedi newid.
Fe gefon ni Sky acw yn ty ni pan oeddwn tua 1993, a finnau tua 9 oed. Roedd yn gyfuniad o Dad ei eisiau ar gyfer y Peldroed, finna ar gyfer y Peldroed a'r Reslo, a'n chwar ar gyfer y rhaglenni Plant fwya tebyg. Dwi'm yn credu i mi weld dim o dymor cyntaf yr Uwchgynghrair Cyntaf, ond rhywbeth fel hyn dwi'n ei gofio o'r darllediadau cynnar ar Sky Sports. (Ymddiheuriadau am safon y llun, ond mae hwn yn nostalgia pur i mi!)


Y Twrnament go iawn cyntaf a wnes ei wylio o'r dechrau i'r diwedd oedd USA '94. Er fod gen i frith gof o Italia 90, roedd yr holl gynnwrf yn yr Ysgol a.y.b ar y pryd yn wych. Pawb yn cefnogi Iwerddon A tim arall. Dwi'n credu mai yma y cychwynais gefnogi'r UDA, parthed sy'n achosi i mi eu cefnogi ymhob twrnament ers hynny (gan fod Cymru heb gyrraedd yr 'run hyd yn hyn). Dwi wedi gweld ymgais ITV, ond dwi'm yn ei gofio'n rhy dda. Dwi yn cofio ymgais y BBC serch hynny.


Yna daeth Cwpan y Byd 98, a roedd ymdrech ITV y tro yma yn wych. Llawer iawn gwell gen i na ymgais y BBC i fod yn fwy cwl na chwl.


Dwi am adael chi am y nostalgia trip yma efo'r agoriad i Match of the Day. Does dim gwell!

Sunday 2 September 2007

Rhys Williams

Mae Rhys Williams o Middelsbrough wedi tynnu allan o chwarae dros tim Dan 21 Cymru yn erbyn Ffrainc. Gobeithio nad yw hyn yn golygu fod y llanc sy'n gymwys i chwarae dros Cymru, Lloegr, India ac Awstralia wedi newid ei feddwl, neu wedi derbyn cynnig gwell....