Monday 18 August 2008

Croeso Nol!



Diolch byth fod y tymor Peldroed yn ei ol. Am rhyw reswm, mae'r haf yma wedi teimlo fel yn hir ofnadwy, ac mae gen i ofn nad ydi 'The Amsterdam Tournament' na rhyw rwtch cyfeillgar cyffelyb am gymryd fy niddordeb, pa waeth pa mor galed mae Sky yn ymdrechu.

Fe ddechrauodd fy nhymor i mor bell yn ol a mis Gorffenaf ar y Cae Ras yn Wrecsam. Hon oedd gem gyntaf Bangor yn Ewrop ers sawl tymor bellach ond roedd y disgwyl amdani braidd yn fwy cyffrous na'r digwyddiad ei hun. Man City oedd pawb yn gobeithio amdani ar y cychwyn wrth gwrs, byddai gem o'r fath wedi cynnal Bangor am dymor o leiaf, arian a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol tu hwnt gyda'r symud cartref i Nantporth ar y gorwel.

Ond wrth gwrs, dim ond i TNS mae lwc felly yn syrthio iddynt, felly yn hytrach na taith i Eastlands, FC Midtjylland ddoth allan o'r het (Dwi dal yn gorfod gwglo'r enw i ddarganfod y sillafiad cywir). O flaen 700 o gefnogwyr ar y Cae Ras, sicrhaodd y tim llawn amser o Herning fuddugoliaeth o 6 gol i un. Un o ambell gysur y noson oedd gol Les Davies yn ogystal a'r cefnogaeth wych a gafodd yr Hogia' mewn glas drwy gydol y gem.

Yr wythnos dwytha gwnes y trip i'r Cae Ras i wylio Wrecsam yn erbyn Stevenage. Dwi'n grediniol mai sioc fwya'r prynhawn oedd fod hi'n costio £17 i wylio gem yng Nghynghrair y Blue Square. Does na neb arall yn teimlo fod hynny o leiaf ychydig yn ddrud? Gellir cael mynediad i Neuadd y Parc i wylio TNS neu fynd i'r Belle Vue i weld Rhyl am £7, a ydi'r safon gymaint a hynny gwell?

Er hynny, ar ol dechrau digon sigledig a gol lwcus dros ben o gic rhydd a darodd o leiaf un chwaraewr ar ei ffordd i'r gol, gorffenodd Wrecsam y gem gyda buddugoliaeth o bum gol i ddim. Doedd Jefferson Louis ddim yn edrych rhyw wych iawn a dydi Levi Mackin erioed wedi fy nharo fel chwaraewr sy'n haeddianol o'r crys coch, ond fe aeth y dorf adref yn hapus. Yn anffodus, ar ol canlyniad nos Fawrth, daeth gwirionedd bywyd yn y Blue Square yn ol i'r golwg, a credaf bydd hi'n anodd tu hwnt gweld y clwb yn enill dyrchafiad y tymor yma.

Er yr holl prelims, ddoe oedd y gem roeddwn yn edrych ymlaen amdani yn digwydd. Roedd disgwyl torf sylweddol ar Ffordd Ffarrar ar gyfer ymweliad Llanelli a'r Ddinas. Cafodd swyddogion y clwb ddim eu siomi yn sicr, gyda bron a bod 1,000 o gefnogwyr yn tyrru drwy'r giat. Beth sy'n gwneud hyn yn ffigwr hyd yn oed mwy calonogol oedd mai rhyw 5 cefnogwr ddoth Llanelli gyda nhw.

Aeth mwyafrif llethol y dorf ddim adra'n hapus, gwaetha'r modd. Gwnaeth Meilir Owen bwynt da iawn ar Ar y Marc bore ddoe nad ydi llawer o chwaraewyr y Sosban ddim yn edrych yn rhyw ffit iawn, er gwaetha eu statws hyfforddi llawn-amser. Dwi dal yn credu fod hyn yn wir, ond sicrhaodd Bangor dranc eu hunain i sawl pwrpas p'nawn ddoe.

Un o'r rhesymau fuodd Bangor mor llwyddiannus ar Barc Latham mis Mai diwethaf oedd y gallu i redeg tuag at yr amddiffyn a chreu problemmau. Mae pawb yn gwybod nad ydi llawer o'u chwarewyr yn gymwys i chwarae i'r tim o dan 19 bellach, a felly rhaid gwneud yn fawr o hynny a'u diffyg cyflymdra. Treuliodd Bangor fwyafrif y gem yn ceisio lledaenu peli hir tuag at ben Les Davies yn hytrach na defnyddio cyflymdra Chris Sharp a'r tryc i greu mwy o broblemmau i'r Pencampwyr.

Er y golled ddoe dwi dal yn ffyddiog fod digon i fod yn falch ohoni a fod y clwb yn symud yn y cyfeiriad cywir. Trip i Borthmadog wythnos nesa, ew dwi'n casau'r Haf!