Sunday 13 September 2009

Lle wnawn nhw chwara'?


Un o'r straeon mwyaf hir-wyntog a diflas yn hanes diweddar Bangor, ydi cartref newydd i'r Clwb Pel Droed. Mae'r son wedi bod am symud i Faes Nantporth ger safle'r Coleg Normal, ond parhau i fod ar Ffordd Ffarar mae'r clwb hyd heddiw.

Does dim dadlau nad ydi'r hen stadiwm mewn stad ddigon truenus erbyn hyn, gyda'r eisteddle pren a brics yn edrych fel ei fod am ddisgyn i'r llawr unrhyw funud. Mae'r datblygwyr wedi dechrau ar y gwaith newydd, ac mae na dalpyn o wair a system ddraenio ddigon taclus mewn lle. Ond ers y dirwasgiad byd-eang, mae'r holl waith wedi dod i stop.

Gyda'r trwydded newydd yn ddibynol ar faes o safon gyda 500 o seddi go-iawn, mae'n amlwg fyddai Ffordd Ffarrar yn methu'n lan a chyrraedd y nod. Fel y gwelwch ar y linc yma, mae 'na gais cynllunio o'r newydd wedi'i yrru gerbron y Cyngor. Y tro yma, i osod dau portacabin ac eisteddle dros-dro.

Gwnewch be y mynnwch o'r cynlluniau newydd, ond mae'r cefnogwr pryderus yma'n credu na welwn ni fyth bel-droed yn Nantporth. Gyda stori ddigon tebyg gyda maes newydd i Dderwyddon Cefn, a phrotestwyr yn dal i fynnu'r cynllun, mae'n amser ddigon anodd i rai glybiau sy'n chael hi'n anodd cyrraedd y nod.