Friday 29 February 2008

Alltudion yn Ol?


Ers y cyhoeddiad fod y BBC am ddiddymu'r Cwpan Cenedlaethol, mae'r Western Mail wedi bod yn arwain yr ymgyrch i alluogi'r Alltudion i chwarae yng Nghwpan Cymru unwaith eto.

Er hyn, dydi aelod blaenllaw o Fwrdd Rheoli y Rhyl ddim yn hapus gyda'r cynlluniau. Yn ol Doug Mortimer, Prif Gyfarwyddwr y Clwb:

"The feelings of Rhyl Football Club are that if the 'big three' are admitted back into the Welsh Cup it could sound the death knell of the Welsh Premier. The timing of the announcement of this idea is, to say the least, insensitive, coming 24 hours after the announcement that the FAW Premier Cup will cease to exist after this season.
"This is denying clubs revenue, which is much-needed because we don't get the support of the FAW. The league will also probably be losing a place in Europe and the benfits that brings - and to lose possible money from the Welsh Cup is a further blow to ambitious clubs in Wales. We honestly feel clubs will turn around and say 'What is the point?' The incentive for clubs to work harder to improve the stadia, to improve conditions for the spectators and to improve playing performances will disappear if we don't get the support from the FAW in some form or another.
"Directors are all part-time, we all have other lives to lead, and we're having to work harder and harder to meet the whims of the FAW."


Er mod i'n deall sefyllfa Mr Mortimer i raddau, mae 'na ffordd llawer mwy positif i edrych arni hefyd. Fel cefnogwr Bangor, braf byddai edrych ymlaen am drip i'r Cae Ras ar ol dod allan o'r het i wynebu Wrecsam, neu gem gartref broffidiol i'r clwb yn erbyn Caerdydd. O bosib hefyd, byddai'r gystydleuaeth yn ennyn diddordeb y cyhoedd gyda'r wobr o le yn Ewrop i'r enillwyr.

I raddau helaeth, byddai gem yn erbyn un o glybiau mwyaf Cymru yn golygu llawer iawn mwy o arian drwy' giat, yn arbennig wrth gysidro fod y costau teithio mor isel o'u cymharu gyda gem yn Nwyrain Ewrop er enghraifft.

Er hyn, y peth pwysicaf am rwan ydi fod David Collins o'r gymdeithas Bel-Droed yn eistedd lawr gyda Michel Platini i drafod y mater hon unwaith ac am byth. Mae hon yn stori sy'n dod i'r fei bob ychydig fisoedd, a mae angen ateb os oes dyfodol i'r alltudion yn Ewrop fel un o gynyrchiolwyr Cymru neu'i peidio.

Tuesday 26 February 2008

Be ddim i wneud...

Dyma enghraifft o be ni ddylech ei wneud tra rydych gol i lawr gyda chydig funudau ar ol. Da'r 'ogyn Tainio! :)

Anhygoel!

Bu bron i mi dagu wrth ddarllen sylwadau Chris Bryant yn y Western Mail heddiw. O bosib, byddai Mr Bryant yn hoffi gweld y statws hollol anffafriol sydd yma yng Nghymru, cyn cychwyn cymharu gyda'r sylw mae tim Lloegr yn ei gael.
Does bosib fod na le i edrych ar y dyddiau o sylw sydd yna i gemau Rygbi Cymru, sy'n chwarae'r 'run timau bob blwyddyn i bob pwrpas, i'w gymharu gyda'r sylw cymharol bitw mae Pel Droed yn ei dderbyn?

Monday 25 February 2008

Dim Mwy o'r Cwpan Cenedlaethol

Ar ol buddugoliaeth Tottenham yn ffeinal Cwpan Carling ddoe, roedd hi'n anochel y byddai rhywbeth yn fy nhynnu nol i'r ddaear.

Y newydd hwnnw oedd y siom fod y BBC wedi penderfynnu dod a'r Cwpan Cenedlaethol i ben ar ol y tymor yma. Er, doedd hyn fawr o sioc chwaith.

Roedd y Cwpan hon yn ffynhonell hollbwysig o incwm ar gyfer sawl o Glybiau'r Cynghrair Cenedlaethol, yn ogystal a'r '3 mawr' o bryd i'w gilydd hefyd. Roedd yr £100,000 a dderbyniodd Wrecsam ar sawl achlysur ar ol ei enill, yn ffactor mawr i sicrhau dyfodol y clwb, a oedd mor fregus ar fwy na un achlysur.
Y rheswm tydw i ddim wedi fy synnu, serch hynny, ydi agwedd un neu ddau o'r clybiau tuag at y gystydleuaeth yn ddiweddar. Mae rhyw driciau bach fel Caerdydd yn cyhoeddi gemau yn y gystydleuaeth fel rhai i'r ail-garfan ac yn gyrru'r is-reolwr i'w hyfforddi ar eu cyfer, wedi'i is-raddio. Mae hefyd Abertawe (sydd wedi bod yn dryw iddo ar y cyfan) eleni, yn gyrru tim o ieuenctid a'r ail-dim, yn gic arall i gystydleuaeth oedd yn cael trafferth gwneud marc fel yr oedd hi.
Dwi'n cael yr argraff weithiau, fod rhai cefnogwyr Caerdydd (a dwi'n pwysleisio ar 'rhai') yn ymfalchio yn y ffaith eu bod yn gweld y gemau hyn fel rhai is-raddol, ac yn cymryd pob cyfle posib i'w wneud yn destyn sbort. Wel, dwi'n cofio adeg ddim mor bell yn ol, pan fyddai Caerdydd wedi bod yn ofnadwy o ddiolchgar i dderbyn siec o £100, neu hyd yn oed £50,000.
Ond dyna ni, mae'r sefyllfa sydd gennym heddiw yn golygu fydd Clybiau Cymru dros £300,000 tlotach o dymor nesaf ymlaen. Dydi hyn ddim yn newydd da, boed bynnag eich teimladau amdani.

Tuesday 19 February 2008

Kenny Mac yn Gadael


Daeth newyddion difyr i'r golwg ddoe fod Ken McKenna am adael y Seintiau Newydd ar ol dros 10 mlynedd o wasanaeth fel Chwaraewr a Rheolwr. Ar ddiwedd y tymor bydd hyn yn digwydd, a mae'n debyg mai'r prif reswm dros yr ymadael ydi awch Mike Harris i weld y Clwb yn dennu gwell torfeydd drwy ddefnyddio mwy o chwaraewyr lleol.
Rwan, does ddim os nac oni bai nad ydi McKenna a'i staff wedi ffafrio chwaraewyr o ardal Leprwl a Birkenhead dros y blynyddoedd, a hawdd iawn mae wedi bod eleni iddynt chwarae 11 cyntaf o Sgowsars. Er hyn, does dim anmau gallu'r Dyn, a gyda tim llawn amser neu pheidio, mae hi dal yn anodd enill Pencampwriaethau tymor ar ol tymor. Dwi wedi synnu nad oes yr un tim o'r Gynghrair wedi dod mewn amdano yn barod, ond efallai bydd ei gyfle yn dod tymor nesa.
Mae sibrydion lu yn barod bydd Harris yn dod ac enw mawr i fewn i lenwi'i esgidiau yr Haf yma. Ysgwn i pwy fydd o?

Saturday 16 February 2008

Rhamant y Gwpan


Mae'n dda gen i weld fod Rhamant dal yn bodoli yng Nghwpan F.A Lloegr. Tra fod y cyfryngau yn parhau gyda'r sylw di-baid i un o gemau mwyaf diflas y rownd, sef Manchester United v Arsenal, yn Anfield mae newyddion mawr y dydd wedi digwydd. Holl bwynt y Gwpan ydi fod timau o bob safon yn cymryd rhan, a mae gemau fel hyn yn cymryd lle o'i herwydd. Chwarae teg i'r Tykes am ein hatgoffa ni o hyn, fel y gwnaeth Havant yn y rownd blaenorol.

Man U yn erbyn Arsenal? Pah!

Saturday 9 February 2008

15 Mlynedd


Mae Uwchgynghrair Lloegr yn 15 oed eleni. I ddathlu'r ffaith honno, mae'r Gynghrair yn trafod a oes posib symud rhai gemau dramor. Syniad hurt? Wel, un uffernol yn fy marn i!

Ond, does ddim modd dadlau nad ydi'r gynghrair honno wedi datblygu'n eithriadol ers y diwrnod cyntaf hwnnw yn Awst 1992. Yn 1992, yr Eidal oedd Y lle i fod. Bellach, mae'n ddigon teg dweud mai cynghrair Lloegr ydi ble mae llawer o chwaraewyr gorau'r byd yn ei anelu tuag ati, ac heb os, y cynghrair mwyaf proffidiol yn y byd.

Yn ddigon difyr, yn Mis Awst 1992 roedd yna Gynghrair arall yn cychwyn am y tro cyntaf hefyd, nid neupell o Loegr. Yr un honno oedd y Cynghrair Cenedlaethol, neu erbyn heddiw, Uwchgynghrair Cymru. Ydi honno wedi datblygu gymaint yn y 15 mlynedd diwethaf?

Mae 'na lawer o bethau'n bod ar Uwchgynghrair Cymru yn 2008. Un o'r prif broblemmau sy'n ei gwynebu ydi ei chanfyddiad gan y cyhoedd. Anghyson yw'r sylw mae'n ei chael ar y cyfryngau yng Nghymru, heb son am y Cyfryngau Cenedlaethol Brydeinig. Mae canlyniadau'r Sadwrn yn cael eu cyhoeddi ar Sky Sports a Final Score ar y BBC. Maen't hefyd yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru a Radio Wales, gyda gohebydd mewn ambell i gem yn dod a'r diweddaraf. Mae'r darpariaeth leol led-led y wlad yn ddibynnol ar agwedd y darlledwr.

Ar y teledu, mae'r Cynghrair efo rhaglen gylchgrawn hanner awr o hyd bob nos Sadwrn. Does dim sylw ar y Teledu Saesneg, ond mae'r Clwb Peldroed yn cael ei ganmol ar y cyfan gan Gefnogwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Yn ogystal, mae uchafbwyntiau swta ar gael ar y rhaglen 'Sgorio', sydd gyda apel eangfrydig, tu allan i Gymru hyd yn oed.

Yn nhermau darlledu, mae'r Gynghrair yn derbyn sylw teg. Dwi'n credu yn bersonol mai'r dyddiau pan roedd 'Gol' yn cael ei ddarlledu ar S4C oedd uchafbwynt ei ddarlledu yng Nghymru. Roedd honno'n raglen maith oedd yn rhoi mwy o sylw i'r gemau oherwydd natur hirach y rhaglen.

Mae'n biti i raddu nad oes unrhyw sylw o gwbl yn cael ei ddarlledu drwy gyfrwng y Saesneg, gan fod canran uchel o Gymry sydd ddim yn siarad/deall yr iaith. Ond ar y cyfan, mae'r sylw ar S4C yn ddigon teg.

Tra'n gwrando ar Bodlediad swyddogol Uwchgynghrair Cymru yn gynharach, daeth trafodaeth am Gytundeb teledu newydd y Gynghrair. Yn ol y Gytundeb newydd hwnnw, bydd isafswm o 7 gem byw yn cael eu darlledu bob blwyddyn ar S4C. Mae hyn yn naid eitha sylweddol, a rhaid llongyfarch y Gymdeithas Bel Droed, ac S4C am gytundeb mor hael i'r pyramid Cymreig.
Mae'n fwyaf tebyg bydd y tender yn mynd allan i gynhyrchwyr annibynol i greu'r rhaglen ar ran S4C. Un o'r cwestiynnau mwyaf ydi pryd ydi'r amser gorau i ddarlledu'r gemau yma? Yn y gorffenol, mae sawl amser gwahanol wedi'i defnyddio, fel P'nawn Sul, Nos Sadwrn a Nos Wener.

Yn fy marn i, dylai'r gemau hyn gael eu darlledu ar Nos Iau (heb gemau Cwpan UEFA) neu Nos Sul. Mae'n bwysig nad ydi gem byw yn cymryd lle ar yr un amser a mae gemau arall yn y Gynghrair yn cael eu chwarae, er mwyn sicrhau fod y torfeydd hynny mor uchel a sy'n bosib. Mae hi hefyd yn aruthrol bwysig nad yw'r gemau yn cymryd lle ar yr un amser a gem Premiership byw ar Sky, neu beth bynnag. Yn fy hanes i o weld gemau byw, mae'r torfeydd yn gallu bod yn wael iawn ar gyfer gemau Nos Fercher pan mae Cynghrair y Pencampwyr ymlaen, neu P'nawn Sul pan mae Lerpwl neu Man Utd ar y teledu.

Dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd cynlluniau tymor nesa'. A fydd hi'n bosib bod rhaglen gylchgrawn fel Gol yn dod yn ol? Roedd Amser Cinio yn amser delfrydol am raglen o'r fath, ac er nad oeddwn ddigon hen ar y pryd, gallaf fentro fod sawl un yn nyrsio ambell 'Hangover' gyda Tref y Bari yn eu hanterth ar y sgrin!

Friday 8 February 2008

Cymru 3:0 Norwy


Ar gae eithriadol wael, ar noson oer o Chwefror, wnaeth Cymru chwarae fel 11 arwr i sicrhau chwip o ganlyniad. Oce, tydi Norwy ddim am enill Cwpan y Byd unrhyw amser yn fuan, ond does rheswm nad ydi canlyniad o'r fath yn ddigon i fod yn falch ohoni?

Mae'n anodd pigo allan unigolion i fod yn berffaith onest. Mi oedd na 4-5 o chwaraewyr a oedd yn llawn haeddianol o chwaraewr y gem. Roedd fel petae y tim hon, heb fawr o wynebau cyfarwydd i'r cefnogwr cyffredin, yn chwarae'n well heb y 'ser'. Be goblyn oedd Carl Fletcher yn ei wneud o fewn 10 llath i gwrt cosbi y gwynebwyr? Roedd Chris Gunter yn taranu lawr asgell dde fel petae wedi chwarae i Gymru am flynyddoedd, ac Eastwood yn cael hwyl arni yn rheoli'r-rheng flaen.

Yn amlwg bydd pob gem ddim fel hyn, a does dim pwyntiau ar gael am gemau Cyfeillgar. Ond duwcs annwyl, mae rhaid i gefnogwyr Pel-Droed Cymru gael y cyfle i wneud y gorau o'n buddugoliaethau, os yn unig i gadw Rygbi i ffwrdd o'r tudalenau-ol am ddiwrnod ;)

Friday 1 February 2008

Dylan Hughes : O Vancouver i'r Rhyl


Mae Dylan Hughes, gynt o Kaiserslautern a Newcastle United wedi arwyddo i'r Rhyl. Hen Pro yn chwilio am geiniog ar ddiwedd ei yrfa medda chi? Wel, ddim tro 'ma. 23 ydi Dylan, a mae'n anodd dadlau ei allu. Roedd yn chwarae i VVV Venlo yn yr Iseldiroedd y llynedd, a gwnaeth 12 ymddangosiad yno tra ar fenthyg. Mae Venlo yn chwarae yn yr Eredivisie eleni. Gwn i ddim am ei frawd, Kevin, sydd hefyd wedi arwyddo. Ond dipyn o ddychymyg ar y Belle Vue felly?

Mewn newyddion difyr arall o'r ffenestr trosglwyddo, mae'r Seintiau Newydd wedi arwyddo Kevin Townson o Northwich Victoria a Paul Henry o Tranmere. Mae'n pery i mi feddwl faint o ymosodwyr mae nhw ei angen ar Neuadd y Parc. Mike Wilde, John Toner, Jamie Wood, Carl Lamb, Ronnie Morgan a rwan Kevin Townson. Dydyn nhw ddim yn chwarae'r Peldroed mwyaf deniadol ar y gorau, felly duw a wyr be wnawn nhw efo'r rhain i gyd!

Rhywbeth sydd wedi pery poendod meddwl i mi, ydi pam fod Llangefni wedi sacio'u rheolwr ddiwrnod cyn i'r ffenest drosglwyddo gau? Mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn y byddai Kevan yn dod a'i chwaraewyr ei hun i fewn, pam y syndod pan arwyddwyd y Sgowsars i gyd o Fae Colwyn? Er, os mae rhywyn am gadw'r 'Dazzlers' i fynny, Bryan Owen ydi hwnnw.