Friday 7 December 2007

Ond Dw'im Isio Mynd i'r Rhyl!!


Dyma restr o feysydd Uwchgynghrair Cymru:







Aberystwyth
----------------
Maes: Coedlan y Parc
Tref: Aberystwyth
Yn Dal: 5000
Seddi: 1002

Airbus UK Brychdyn
---------
Maes: Y Maes Awyr
Town: Brychdyn
Yn Dal: 1000
Seddi:500

Bangor
------------
Maes: Farrar Road
Tref: Bangor
Yn Dal: 3200
Seddi: 740

Caernarfon
---------------
Maes: Yr Ofal
Tref: Caernarfon
Yn Dal: 3,500
Seddi: 252

Caersws
-------
Maes: 'Y Rec'
Tref: Caersws
Yn Dal: 2,500
Seddi: 300

Caerfyrddin
---------------
Maes: Parc Waun-Dew
Tref: Caerfyrddin
Yn Dal: 3000
Seddi: 1056

Cei Conna
--------------------
Maes: Stadiwm Glannau Dyfrdwy
Town: Cei Conna
Yn Dal: 3500
Seddi: 420

Hwlffordd
--------------------
Maes: New Bridge Meadow
Tref: Haverfordwest
Yn Dal: 2,000
Seddi: 400

Llanelli
--------
Maes: Parc Stebonheath
Tref: Llanelli
Yn Dal : 3700
Seddi: 680

Llangefni
--------------
Maes: Cae Bob Parry
Tref: Llangefni
Yn Dal: 3,500
Seddi: 250

Castell Nedd
--------------
Maes: Parc Llandarcy
Tref: Neath
Yn Dal: 3000
Seddi: 250

Derwyddon Cefn NEWI
-----------------
Maes: Ffordd Plaskynaston
Tref: Cefn Mawr
Yn Dal: 2000
Seddi: 300

Y Drenewydd
-------
Maes: Parc Latham
Tref: Newtown
Yn Dal: 5000
Seddi: 1250

Porthmadog
----------
Maes: Y Traeth
Tref: Porthmadog
Yn Dal: 4000
Seddi: 500

Port Talbot
----------------
Maes: Stadiwm Remax
Tref: Port Talbot
Yn Dal: 2500
Seddi: 1000

Rhyl
----
Maes: Y Belle Vue
Tref: Y Rhyl
Yn Dal: 3800
Seddi: 1720

Y Seintiau Newydd
---
Maes: Neuadd y Parc
Tref: Croesoswallt
Yn Dal: 3000
Seddi: 250 (I'w uwchraddio i 3,000 )

Y Trallwng
--------------
Maes: Maesydre
Tref: Welshpool
Yn Dal: 1500
Seddi: 250


Fel y mae pethau'n sefyll, bydd Y Trallwng, Derwyddon Cefn, Castell Nedd, Llangefni, Hwlffordd, Caersws, Cei Conna a Chaernarfon, yn cael eu diddymu ar ddiwedd tymor 2008/09. Y rheswm pennaf am hyn yw rheolau newydd trwyddedu UEFA/Y Gymdeithas Beldred, sy'n dod fewn i rym ar ddechrau tymor 2009/10. Prif amcan y system ydi sicrhau fod pob maes gyda 500 o seddi, sef hanner ffordd tuag at maes sy'n gallu cynnal rowndiau cynnar cystydlaethau Ewropeaidd.

Bydd hefyd criteria ynglyn a chryfder y llif-oleuadau, academi, a strwythur mewnol y clwb fel cyfrifon a.y.b yn ran o enill y trwydded priodol. Heb y trwydded hwnnw, bydd ddim modd cystadlu ym yr Uwchgynghrair.

Ar y cyfan, mae'r Meysydd yn gwella. Mae TNS yn bwriadu adeiladu eisteddle sy'n dal 3,000 erbyn diwedd y tymor, a mae Nantporth ar ganol cael ei adeiladu ar gyrion Dinas Bangor. Yn ogystal, mae Cei Conna a'r Trallwng yn son am adeiladu meysydd newydd yn y dyfodol agos, tra mae Derwyddon Cefn dal i drafod.
I'r clybiau eraill sydd ddim yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd, golyga hyn fwy na dim, fod angen adeiladu unai eisteddle ychwanegol sy'n dal tua 250 o gefnogwyr, neu hyd yn oed chwalu'r strythur presennol ac adeiladu un o'r newydd fel y gwnaeth Caerfyrddin yn ddiweddar.

Mae angen gwella'r meysydd, mae hi mor syml a hynny. Mae'r Gymdeithas Beldroed yn cyfrannu grant 70% tuag at y gwaith o gyrraedd y nod, a dylid gwneud yn fawr o'r cyfle hwnnw. Ar hyn o bryd, does yr run maes ganddom yng Ngogledd Orllewin Cymru sy'n gallu cynnal gemau Ewropeaidd o unrhyw fath. Mae timau fel Bangor wedi gorfod teithio i'r Rhyl a Wrecsam yn y gorffenol, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Bydd Nantporth gyda'i 800 o seddi disgwyliedig, bron a cyrraedd y nod o 1,000. Bydd hwn yn ddigon i lenwi gofynion y clwb a'r gymuned gyfan yn y tymor byr. A duw a wyr, o bosib bydd modd denu timau dan-oed Cymru i chwarae yno rwan ac yn y man?

Wednesday 5 December 2007

Drama Ffordd Ffarrar


Roedd hi'n braf cael bod ar Ffordd Ffarrar nos Wener ar gyfer gem Dinas Bangor yn erbyn Llangefni. 'Sgen i'm syniad pam fod y BBC wedi penderfynnu ei fod yn well syniad gyrru'r camerau i Blas Kynaston er mwyn dangos Derwyddon Cefn yn erbyn y Drenewydd, ond roedd hon yn wych o gem. Roedd y glaw a'r cae Mwdlyd ond yn ychwanegu at y noson, a roedd yn ddigon i'w gyfartalu.

Wnaeth pethau ddim cychwyn rhy wych i Fangor gyda'r diffyg protocol llwyr wrth i Cefni benderfynnu cicio am ochr y 'Farrar End' yn y hanner cyntaf! Er i Bangor ddechrau'n addawol iawn gyda Farai Jackson yn cael digon o waith yn y gol, roedd Chris Jones yn arbennig, yn edrych yn ddigon peryg i Cefni. Ar yr egwyl roedd Bangor gol i lawr, er fod y rheiny yn y brif eisteddle'n ddigon ffyddiog fysa'r 'Nevolution' yn dod ddigon buan yn yr ail gyfnod.

Erbyn yr egwyl fe es i sefyll tu ol y gol yn y 'Farrar End' (ni fydd gyda ni am hir iawn mwyach, er gwell neu gwaeth). Fe ddaeth y tynnu coes disgwyliedig am fod yn fradwr i'm 'ngwreiddiau am gefnogi'r Dinasyddion, ond roedd yr awyrgylch yno'n wych. Roedd cefnogwyr y ddau dim wedi heidio o dan y lloches, tra roedd Terras Sant Paul bron yn wag heblaw am y 'Barmy Army' pybur, sydd wastad yn gwneud digon o swn a chanu ynghanol y glaw, (Rhywbeth sydd angen ei groesawu yma yng Nghymru).

Cefni oedd yn edrych beryclaf yn ystod yr ail hanner, gan ymestyn eu mantais. Roedd Bangor yn or-ddibynnol ar Les Davies druan oedd yn cael trafferth ffendio'i draed, gyda sawl tacl ddadleuol yn mynd i fewn. (Kieron Killackey yn gyfrifol am sawl ohonynt!)

Ddaru sialens ddigon diniwed yr olwg ar Lee Webber ddal fynnu'r gem am gyfnod sylweddol, er nad yw'r anaf mor ddrwg a chredir yn y lle cyntaf, diolch byth. I raddau, roedd hyn yn drobwynt. Gyda'r gem i'w weld yn mynd tuag at fuddugoliaeth ddigon anrhydeddus i Cefni ar y cyfan, daeth Mike Walsh gyda taran o ergyd. Clapio dwylo ddaeth yn hytrach na dathlu ar y teras, siwr o fod doedd hyn ddim mwy na gol gysur? Gwaeddodd cefnogwr Llangefni tu ol i mi rywbeth ynglyn a gadael i gefnogwyr Fangor gael chydig o obaith. Yn anffodus i'r Nostradamus hwnnw, daeth ei broffwyd yn fwy na gwir.

Roedd Llangefni yn chwarae gyda chydig o nerfusrwydd, er roedd Jackson i'w weld digon cyfforddus o hyd. Gyda'r Byddin Glas yn taflu bob dim ymlaen, wnaeth pel uchel achosi dipyn o benbleth yn yr amddiffyn, sydd yn cael eu hadnabod fel un sydd gyda diffyg presenoldeb yn yr awyr. Yn sydyn, roedd hi rhwng Ashley Stott a Farai Jackson yn y gol. Roedd yr oedi gan y golwr yn ddigon i roi cyfle i Stott gael ei ben iddi, a Jackson dal yn nhir neb, ffliodd y bel i gefn y rhwyd fel pe bai am gymryd am byth.

Roedd y golygfeydd o'ng nghwmpas yn swrreal. Roedd na chydig o bobol yn neidio fynnu a lawr, ac eraill gyda'u penau i lawr. Roedd y rhanfwyaf mewn sioc!
Er i Fangor ffendio amser ar ol 97 munud i lunio cyfle neu ddwy a hyd yn oed cic o'r smotyn posib, byddai gol arall wedi bod yn du-hwnt o anheg ar Cefni. Daeth y tim oedd ar waelod y tabl i Ffordd Ffararr i wynebu tim oedd wedi curo'r Rhyl a'r Seintiau Newydd mewn wythnos, a rhoi go go-iawn iddi. Pa mor dda oedd Bangor dydd Sadwrn diwethaf, roeddynt yr un mor sal nos Wener.

Fawr o gysur i Llangefni glywed os wnawn nhw chwarae fel'na bob wythnos mi fyddant yn saff yn y gynghriair, Ond mae'n hollol wir.

Roedd Bangor ar y llaw arall, yn amlwg wedi blino'n lan. Roedd y coesau'n flinedig, ond roedd yr ymenydd yr run mor flinedig, ac yn amlwg yn dim oedd wedi rhedeg allan o syniadau ar ol wythnos ddigon hegar.

Y gwir enillydd oedd Uwchgynghrair Cymru, a cefnogwyr y Gogledd Orllewin. Pam na all bob gem fod fel'na? Gawn ni 800 o gefnogwyr i bob gem plis?

( Tynnwyd y fideo gan wefan y City Blues www.cityblues.co.uk )