Monday 3 September 2007

Nostalgia

Dwi'n credu fod pawb yn cyrraedd oed pan oedd popeth yn well yn y gorffenol. Er gwell neu gwath, dwi'n credu fy mod wedi cyrraedd y pwynt yma yn 23 oed. Dwi wedi bod ar Youtube yn ddiweddar yn chwilio ar glipiau Peldroed o'm mhlentyd, a beth oedd yn fy nifyrru fwyaf oedd sut mae darlledu Peldroed wedi newid.
Fe gefon ni Sky acw yn ty ni pan oeddwn tua 1993, a finnau tua 9 oed. Roedd yn gyfuniad o Dad ei eisiau ar gyfer y Peldroed, finna ar gyfer y Peldroed a'r Reslo, a'n chwar ar gyfer y rhaglenni Plant fwya tebyg. Dwi'm yn credu i mi weld dim o dymor cyntaf yr Uwchgynghrair Cyntaf, ond rhywbeth fel hyn dwi'n ei gofio o'r darllediadau cynnar ar Sky Sports. (Ymddiheuriadau am safon y llun, ond mae hwn yn nostalgia pur i mi!)


Y Twrnament go iawn cyntaf a wnes ei wylio o'r dechrau i'r diwedd oedd USA '94. Er fod gen i frith gof o Italia 90, roedd yr holl gynnwrf yn yr Ysgol a.y.b ar y pryd yn wych. Pawb yn cefnogi Iwerddon A tim arall. Dwi'n credu mai yma y cychwynais gefnogi'r UDA, parthed sy'n achosi i mi eu cefnogi ymhob twrnament ers hynny (gan fod Cymru heb gyrraedd yr 'run hyd yn hyn). Dwi wedi gweld ymgais ITV, ond dwi'm yn ei gofio'n rhy dda. Dwi yn cofio ymgais y BBC serch hynny.


Yna daeth Cwpan y Byd 98, a roedd ymdrech ITV y tro yma yn wych. Llawer iawn gwell gen i na ymgais y BBC i fod yn fwy cwl na chwl.


Dwi am adael chi am y nostalgia trip yma efo'r agoriad i Match of the Day. Does dim gwell!

No comments: