Thursday 30 August 2007

Mae Peldroed Affrica wedi Datblygu Chydig!

Rhan o Hanes Cwpan y Byd bellach...

Tyfa i Fynnu Paul

Daeth newyddion siomedig heddiw fod Paul Parry o glwb Caerdydd wedi gwrthod ymuno a charfan John Toshack ar gyfer y gemau yn erbyn yr Almaen a Slofica, ynghyd a unrhyw gemau yn y dyfodol agos.

Yn bersonol i mi, credaf ei fod yn benderfyniad dwl iawn gan Parry. Mae'n 27 oed rwan ac felly os oes problem ganddo gyda Toshack, bydd yn ei 30'au mwy na thebyg cyn i unrhyw un newydd gymryd y swydd. Felly mae Paul Parry wedi taflu ei yrfa rhyngwladol ei hun i'r sbwriel i bob pwrpas. A fyddai rhywyn fel Kevin Nolan o Bolton yn gwneud penderfyniad tebyg, er nad yw'n cael ei bigo ar gyfer tim Lloegr? Rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda sylwadau Jason Perry, mae linc iddo yma:
http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/football/internationals/6969962.stm

Wednesday 29 August 2007

Brechdan Corgimwch?


Yn ol i Gae'r Ysgol Bodedern fu fy ffawd Dydd Sadwrn ar gyfer gem arall yn y Cynghrair Undebol. Y tro yma, Llandudno oedd yr ymelwyr a gwelwyd crasfa go iawn wrth iddynt ddychlwelyd yn ol dros yr A55 gyda Thriphwynt a phedair Gol i'w henw. Prynhawn siomedig ym Modedern, a gobithio bydd canlyniad gwell heno yn erbyn Llanfairpwll, er nad ydwyf yn gallu bod yn bresennol.
Yna Dydd Sul, fe es i amgylchedd ychydig yn wahanol, sef i Old Trafford i weld Manchester United yn erbyn Spurs. Yn dilyn chydig o anffawd gyda'r tocynnau, fe gefais a fy met i fewn mewn da bryd erbyn y cic gyntaf (yn y llecyn ar gyfer cefnogwyr yr ymwelwyr wrth gwrs). Mae Old Trafford ei hun yn glamp o stadiwm ac er fy mod wedi bod yno o'r blaen, dwi'n rhyfeddu wrth faint y lle. Yr unig beth sy'n ei adael i lawr ydi un eisteddle sydd dipyn hynach a llai na'r gweddill (h.y, eisteddle ni!). Dydi o ddim yn faes Peldroed traddodiadol fel y cyfryw, fel Parc Goodison neu i raddau White Hart Lane, lle mae strydoedd o dai o'i amgylch a.y.b. Ond mae yn daclus iawn gyda phob adeilad yn amlwg gyda chyfarwyddiadau ymhobman.

Beth oedd yn siomedig, ac yn enghraifft o beth sydd wedi digwydd i beldroed dros y ddegawd neu mwy diwethaf, oedd y nifer o bobol oedd yno sy'n amlwg ddim yn ymwelwyr cyson. Roedd na gymaint o bobol yno yn y maes ei hun yn ystod y gem yn tynnu llyniau o'u gilydd a llawer yn amlwg wedi hedfan yno o wledydd amryw ar gyfer dweud eu bod wedi bod mewn gem Uwchgynghrair Lloegr. Ond am wn i, dyna mae llawer o'r clybiau eisiau'u weld yn digwydd fwy cyson. Pa glwb sydd angen y teip o ffan sy'n canu caneuon (o bosib ddigon amheus ar adegau) ac yn sefyll i fynnu drwy'r gem, pan mae posib cael cefnogwyr wneith gau eu ceg ac eistedd lawr yn daclus ac yno ar gyfer y 'Spectacle' yn hytrach na'r gem ei hun? Tua £40 ydi tocynnau heddiw, ond beth yw'r dyfodol? Mae'r clybiau wedi dwblu eu incwm o'r hawliau darlledu tramor ar gyfer eleni, ond dal i godi wnaiff y prisiau. Mae angen gofyn pam weithiau, a'i ar gyfer rhesymau ariannol yntau rhesymau diwyllianol y mae'r prisiau'n parhau i godi?

Mae'n gysur fydd wastad gennym ein system Beldroed ein hunain yng Nghymru. Mae na rywbeth ddigon rhamantus am sefyll ar Deras St Paul ar Ffordd Ffarrar yn y glaw weithiau yn does?

Thursday 23 August 2007

Glantraeth v Bodedern

Un o fy hoff feysydd yn y Cynghrair Undebol ydi un Glantraeth. Dwi ddim yn berffaith siwr pam, ond mwy na thebyg fod y ffaith fod mwyafrif un ochr o fy nheulu yn dod o'r cyffuniau yn help yn y mater. Mae'r maes ei hun wedi'i leoli rhwng pentrefi Malltraeth a Bethel yn Bodorgan, Ynys Mon, ar dir Bwyty Glantraeth. Clwb eithaf nomaidaidd ydi Glantraeth felly yn y bon, yn denu cefnogaeth Ffermwyr ac Amaethyddwyr cyfagos ar y cyfan, hyd y gwela'i.

Mae'n faes digon smart gydag un eisteddle yn dal rhyw 70 o gefnogwyr, a rhyw sylfaen sy'n edrych fel sied Wartheg yn dwblu fel rhyw fath o loches rhag y glaw. Mae'r clwb yn lwcus mewn un ffordd nad oes angen poeni am adeiladu unrhyw strwythurau fel toiledau na 'Clubhouse' gan fod y cyfleusterau yma dafliad carreg i ffwrdd yn y bwyty/tafarn ei hun.

Fe gefais y cyfle i ymweld a'r rhan yma o'r byd oherwydd i Boded deithio yma ar gyfer ein ail gem o'r tymor, neithiwr. Ar noson ddigon braf fe orffennodd y gem yn ddi-sgor, canlyniad reit addawol ar y cyfan. Pan yn cysidro fod Boded lawr i 10 dyn ar ol 20 munud o chwarae, a fod Glan yn draddodiadol yn un o'r ceffylau blaen yn y gynghrair, fe wnai gymryd canlyniad o'r fath rhyw ddiwrnod! Llandudno sydd i ddod nesaf, Prynhawn Sadwrn. Mi fysa canlyniad reit tebyg yn ddigon derbynniol mae rhaid i mi gyfaddef.

Monday 20 August 2007

2007/08 Wedi Cychwyn

Roedd yn benwythnos Peldroed digon difyr ar y cyfan. Dydd Sadwrn fues yn gwylio Bodedern yn erbyn Dinbych ym Mhenwythnos agoriadol Cynghrair Undebol y Gogledd. Yn dilyn patrwm yr 'Haf' yma, wnaeth hi fwrw glaw mwy na lai drwy'r gem, ond wnaeth y cae ddal yn dda iawn heb dorri. Mae llawer o ddiolch am hynny i Huw sef prif 'Groundsman' y Clwb.
Roedd gan Dinbych ambell i enw cyfarwydd fel Kenny Burgess, Tommy Harrison a Mark Orme yn eu mysg, ond wnaethon nhw'm dod fewn i'r gem o gwbl yn yr hanner cyntaf. Roedden nhw eithaf lwcus i fynd fewn i'r egwyl ond un gol tu ol iddi, ond daethant yn ol yn gryfach yn yr ail i sgorio'n hwyr i wneud gem gyfartal ohoni. Dim rhy ddrwg o safbwynt Boded, ond braidd yn siomedig i ildio gol mor hwyr mewn i'r gem. Mae gem ddarbi bwysig i ddod Nos Fercher yn erbyn Glantraeth (ia, yr run Nos Fercher a mae Cymru'n chwarae allan ym Mwlgaria!).

Siom oedd gem gyntaf Llangefni yn yr Uwchgynghrair. Wrth gwrs, doeddwm i'm yn bresenol yn y gem, ond yn ol y rheiny oedd yno, mae lot o waith i'w wneud. Cefais hwyl wrth glywed Brian Owen (neu Bri Boded fel adnabyddir yn lleol) yn darogan y gall Cefni orffen mewn safle Cwpan Cenedlaethol ar ddiwedd y tymor. Anodd gen i gredu hynny yn bersonol!

Mae'r newyddion wedi cyrraedd bydd Cyrmu yn gorfod gwneud heb Bellamy a Koumas nos Fercher. Yn bersonol, dwi ddim rhy siomedig am hynny. Mae hon yn gyfle euraidd i Eastwood a/neu Bellamy roi cur-pen go iawn i Toshack ynglyn a'r rheng flaen, a mae hefyd yn gyfle i rywyn gymryd y fantell am safle ynghanol y Cae. Hon yw'r gem gyntaf ers sbel heb y ddau Carl yn ran o'r garfan, a felly o bosib fod gen rhywyn fel Mark Jones gymryd y fantell yn eu habsenoldeb. David Vaughan i lenwi esgidiau (mawr iawn) Giggs ar y chwith hefyd o bosib?

Friday 17 August 2007

Brasil a Chymru

Wedi dod ar draws y Fideo ddiddorol yma o deledu Brasil dwi'n cymryd. Yn gyntaf mae'n son am hanes Cymru yn erbyn Brasil, ac yna uchafbwyntiau o'r gem diweddar a chwaraewyd yn Llundain. Mwynhewch!

Wednesday 8 August 2007

Dydi Darogan yn Hwyl?


Mae Cwmni Coral wedi postio'r 'odds' yma ynglyn a phwy enillith Uwchgynghrair Cymru eleni, a mae'n gwneud darllen difyr a gwneud y lleiaf. Wrth gwrs, barn ydi popeth yr adeg yma o flwyddyn, ond mae lle i anghytuno gyda barn y cwmni.

Llanelli i orffen uwchben y Rhyl?
Derwyddon Cefn Newi i orffen ar y gwaelod?
LLangefni a Castell Nedd i orffen uwchben Caersws?


TNS 8/11
Llanelli 11/4
Rhyl 7/2
Bangor 12/1
Welshpool 22/1
Aberystwyth 33/1
Carmarthen 33/1
Newtown 33/1
Port Talbot 33/1
Connah's Quay 50/1
Porthmadog 66/1
Haverfordwest 80/1
Caernarfon 100/1
Llangefni 100/1
Neath 100/1
Airbus UK 150/1
Caersws 150/1
Newi Cefn Druids 150/1

Dyma fy marn i o sut eith y tymor ar gyfer yr 18 clwb yn y Gynghrair:

Aberystwyth (7fed) : Wedi cael Haf distaw yn y farchnad am chwaraewyr, hyd y gwelaf i. Canol-tabl uchel dywedwn i, os na mae'u chwaraewyr pwysig fel Bari Morgan yn cael tymor eithriadol.

Airbus UK Brychdyn (18fed): Tymor anodd i'r tim o Frychdyn ddywedwn i. Heb ddod a llawer i fewn i'r garfan dros y tymor, ac yn edrych fel y tymor y ddychwelan nhw i'r Cynghrair Undebol.

Bangor (4ydd): Neville Powell yn cymyd drosodd tim gaeth tymor sigledig llynedd. Cychwyn gwael iawn o dan reolaeth Clayton Blackmore, ond Steve Bleasdale yn dod ac ychydig o broffesiynoldeb i'r garfan. Mwyafrif carfan y llynedd wedi'i gadw, ond a all Tommy Mutton ac Ashley Stott lenwi esgidiau'r anfarwol Jiws?

Caersws (14eg) : Penodiad diddorol i ddod a Mike Barton o Gegidfa a Dave Taylor o Fwcle i fewn. Wedi arwyddo un neu ddau chwaraewr profiadol, ond fydd colled Mickey Evans yn un aruthrol.

Caernarfon (15fed): Wedi colli Chris Jones i Langefni, a chawn nhw broblemmau darganfod cefn y rhwyd. Y chwaraewyr newydd o bwys wedi dod o ail garfan Vauxhall Motors ac am gael tymor anodd arall. Gwybodaeth O'Shaugnessey am y gem am fod yn ddigon i'w hachub am dymor arall, serch hynny.

Caerfyrddin (9fed): Wedi colli Kaid Mohammed i Swindon a heb gael neb yn ei le eto. Rhaid iddynt gael siom canlyniad Brann allan o'u system mor fuan a sy'n bosib, ond Mark Aizlewood yn ran o'r staff i ddod a Phroffesiynoldeb i'r garfan. Deryn Brace gyda chydig i'w brofi hefyd.

Castell Nedd (17fed): Newydd ddyfodiaid arall i'r Gynghrair. Neb i'w weld yn gwybod llawer am y clwb, ond credaf eu bod mewn gwell stad na'r oedd Cwins y Grange ddwy flynedd yn ol. Diffyg Profiad ar y lefel yma am gostio'n ddrud iddynt o bosib?

Cei Conna (11eg): Tymor gyntaf Jim Hackett wrth y llyw. Mae ganddo dasg anodd ar stadiwm Glannau Dyfrdwy gyda cnewyllyn y garfan wedi symud i Fangor. Mae ganddo dasg anodd siapio tim cryf o be sydd ganddo ar ol. Wedi arwyddo rhai chwaraewyr ifanc o Gaer lle'r oedd arfer bod, ac bydd cadw Chris Williams rhag crafangau Nev Powell yn hwb iddo.

Derwyddon Cefn NEWI (13eg): Er fod gan Wayne Phillips brofiad gyda Caernarfon, tim rheolaeth eitha di-brofiad sydd gan y Derwyddon ar y cyfan. Ricky Evans yn gaffaeliad mawr i'r clwb, ond a oes gan Lee Jones a Wayne Phillips gymeriadau ddigon cryf i ddod a'r gorau allan ohono? Tim arall sydd am gael trafferth sgorio goliau os nad yw Heverin ar ei orau.

Y Drenewydd (8fed): Marc Lloyd Williams wedi arwyddo i'r clwb, felly mae goliau ar barc Latham bron yn sicr. Cawn dymor go-dda yn fy marn i, gyda'r amddiffynwr addawol Craig Williams i barhau i ddenu llygaid y sgowtiaid.

Hwlffordd (10fed): Mae Derek Brazil yn cychwyn ei dymor cynta lawn wrth y llyw yn Hwlffordd, a mae wedi dod a'r tim yn ei flaen yn ddistaw bach. Credaf wnaiff y cynnydd yma barhau eleni.

Llangefni (16fed): Am fod yn dymor anodd i'r hogia newydd. Y tim diwethaf o'r Ynys i ynddangos yn y Gynghrair oedd Bae Cemaes, a oedd erbyn y diwedd yn chwarae tim o fechgyn 16 a 17 oed i lenwi'i tim. YN ffodus, mae Cefni mewn dipyn gwell stad ar ac oddi-ar y maes. O dan reolaeth ofalus Bryan Owen, a wedyn Adie Jones, maen't o'r diwedd wedi enill dyrchafiad. Mi fydd lot o bwysau ar Chris Jones oherwydd ni welaf lawer o goliau yn dod o unigolion heblaw am hwnnw. Rhaid i weddil y garfan wnaud y cam i fynnu'n sydyn i sefyll unwhyw siawns o dymor arall yn yr Uwchgynghrair.

Llanelli (3ydd): Fy mhroffwyd i yw fod Llanelli am orffen yn y safle Cwpan Inter-toto eto eleni. Er fod ganddynt chwaraewyr talentog yn eu mysg, a'u statws llawn-amser, nid oes ganddynt broffesiynoldeb y Seintiau Newydd, nac ychwaith ysbryd y Rhyl. Mark Pritchard efo esgidiau mawr Jacob Mingorance i'w llenwi, a mwy o bwysau ar Rhys Griffiths i sgorio goliau.

Port Talbot (6ed): Tymor cyntaf Tony Pennock fel rheolwr, a mae pethau'n edrych yn eithaf addawol ar stadiwm Remax. Gyda'r clwb yn meithrin cytundeb gyda Abertawe i gael menthyg chwaraewyr addawol, ifanc o'r Swans, dylai fod yn dymor eithaf cyfforddus. Bydd trosglwyddiad Lee John i Gasnewydd dros yr Haf, yn ergyd serch hynny.

Porthmadog (12fed): Mi fydd yn anodd gwybod be ddigwyddith i Port eleni. Ar ol blynyddoedd o dan reolaeth Viv Williams ac Osian Roberts, mae rheolwr newydd ar y Traeth. Mae gan yr anfarwol Clayton Blackmore lawer i'w brofi fel rheolwr ar ol cyfnod siomedig ar Ffordd Ffarrar, a mi fydd yn dasg iddo gyfuno dau rol os yw'n penderfynnu parhau i Chwarae, ac yntau yn ei 43ydd blwyddyn. Fawr o newidiadau ar y Traeth dros yr Haf, ac o'r rheiny, mae mwy wedi mynd allan na sydd wedi dod i fewn.

Y Seintiau Newydd (1af): Mae proffesiynoldeb y Seintiau filltiroedd o flaen pawb arall yn y Gynghrair. Mi fydd y rheng flaen o Ronnie Morgan a Mike Wilde yn lond llaw i amddiffynnau lu, a gyda Andy Holden a Steve Beck lawr yr asgelloedd, mae'r tim llawn goliau. Heb eto lenwi esgidiau Steve Evans yn yr amddiffyn, ond gyda goliau lu yn y tim, a oes angen?

Y Trallwng (5ed): Mae Tomi Morgan wedi troi Maes-y-Dre yn le anodd i fynd. Mae ganddo gnewyllyn o hogia Cymraeg a mae ysbryd da yn perthyn i'r garfan. Chwaraewyr fel Gethin Lloyd wedi denu'r llygaid yn y gorffenol, a rwan fod Calvin Davies yn dychwelyd ar ol cyfnod byr gyda'r Rhyl, gwelaf dymor da eto iddynt.

Rhyl (2il): Mae'n argoeli'n tymor da i'r Bechgyn ar y Belle Vue. Mae Hulse wedi arwyddo chwaraewyr profiadol, ac os mae'n gallu perswadio Michael White i arwyddo am y tymor, mae llawer o safon yn perthyn i'r tim. Nid ydynt bellach yn or-ddibynol ar Andy Moran am goliau, a dylai Chris Sharp fod yn ol cyn bo hir. Y Sion yw fod y clwb yn mynd am y bencampwriaeth eleni, ond yn fy marn i, rhaid iddynt setlo am le yng Nghwpan UEFA eto eleni.

Friday 3 August 2007

Mae Angen Newid

Mae hi'n fwy amlwg nag erioed, fod rhaid newid pethau. Tri allan o'n pedwar cynyrchiolydd allan o Ewrop ar y rheol Goliau oddi-cartref. Pa mor anlwcus all un gwlad fod yn Ewrop?! Rydym yn son yn y fan hyn am ddau glwb llawn-amser, ac un rhan-amser, gyda llond dwrn o gemau cyfeillgar yn erbyn timau di-nod yn Lloegr (gan amlaf) yn mynd allan i Ewrop gyda disgwyliadau Cymru gyda nhw. Sut mae modd cystadlu dywedwch?
Mae'r un hen ddadl yn cael ei roi ger-bron o hyd, mai gem i'r Gaeaf ydi Pel Droed a.y.b. Mae'n amlwg felly fod y ddadl dros fabwysiadu tymor debyg i Weriniaeth Iwerddon wedi'i golli am ddegawd o leiaf. Ond, a ydi hynny'n golygu fod rhaid i bopeth arall aros yn ei unfan?

Credaf fod hi'n deg dweud nad ydi'r Gynghrair, na'r pyramid odani ychwaith, yn cael y gefnogaeth eithaf gan y Gymdeithas Beldroed yng Nghymru. Mae'r ffaith os mai ddiffyg arian ac adnoddau, neu ystyfnigrwydd rhoi arian ac adnoddau yw'r rheswm pennaf, i fynnu i chi. Ond y gwir plaen ydi for rhaid i'n clybiau gymryd y mantell ar bennau'i hunain, ac nid o reidrwydd gyda chefnogaeth y Gymdeithas bob amser.

Fy syniad i ydi i'r Gynghrair gychwyn ar ddechrau Mis Gorffenaf, hynny yw bob Cynghrair yng Nghymru newid ei galendr yn raddol i gychwyn yn gynt. Mi fasa hyn yn gweithio ar ddwy lefel. Yn gyntaf, buasai Peldroed yn cael ei chwarae ym Misoedd prysuraf yr Haf. Doedd ond angen bod yn gem Rhyl v Haka pythefnos yn ol i ddod i'r casgliad bod canoedd o ymwelwyr a oedd digwydd bod yn yr ardal, wedi mynychu'r gem. Os fysai hyd yn oed hanner y rheiny yn mynd i weld gem Rhyl yn y gynghrair, does dim rheswm pam na ddylai torf arferol gael ei chwyddo o gant neu fwy yn ystod y mis neu ddau agoriadol, o leiaf.

Wrth gwrs, byddai'n clybiau mewn gwell stad i fynd allan i Ewrop hefyd. Yn sicr i chi byddai 2-3 gem gynghrair o dan y belt yn gangwaith gwell na gemau cyfeillgar yn unig, yn erbyn Poulton Victoria a'u tebyg, fel sy'n dueddol o ddigwydd ar y funud. Pwy a wyr? O bosib y byddai'r Rhyl wedi sgorio un neu ddwy ychwanegol yn erbyn Haka yn eu cymal gartref, gyda chydig mwy o ffitrwydd a mwy o gemau cystydleuol wedi'i chwarae.

Bysa hefyd yn rhoi dewis i'r Cynghreiriau gwahanol, i be i wneud am weddill y tymor. O bosib byddai rhai yn hoff o weld seibiant yn ystod y gaeaf, o bosib yn ystod mis Ionawr. Bysai modd i'r gemau mawr sy'n cymryd lle Dros y Dolig a'r Flwyddyn Newydd fod yn rhywfath o ddiweddglo ar haner cynta'r tymor. Yn sicr byddai hyn yn golygu fod llai o gemau yn cael eu gohirio oherwydd y tywydd, gan na fyddai na Beldroed yn cael eu chwarae yn ystod un o fisoedd mwya' garw y flwyddyn. Dewis arall byddai gorffen y tymor yn gynt, mis Mawrth o bosib.

Mae na ddigon o opsiynau ar gael ar sut i newid pethau. Yn amlwg, mae safon yn chwarae rhan enfawr mewn pam nad ydi'n timoedd yn mynd yn bellach yn Ewrop. Buasai Caerfyrddin byth wedi mentro i'r ail rownd, pwy bynnag pryd chwaraewyd y ddau Gem, er enghraifft. Ond o leiaf dylid rhoi siawns teg i'n cynyrchiolwyr. Dydi gwneud dim byd ddim yn opsiwn mae arna'i ofn.