Tuesday 24 July 2007

Adeg yna'r Flwyddyn



Fe ymwelais a Chae Bob Parri, Llangefni heno i weld sut siap sydd ar eu paratoadau ar gyfer eu tymor cyntaf yn Uwchgynghrair Cymru. Yr ymwelwyr oedd tim ifanc o Academi yr Amwythig, nad oeddwn yn gyfarwydd ac unrhyw un ohonynt. Er hynny, roedd y chwraewyr ifanc, di-brofiad yma yn dechnegol iawn yn eu chwarae. Dyna am wn i oedd yn dangos fwyaf heno. Gydag eithriad Osian Roberts o Porthmadog gynt, dwi'n anmau faint o bwyslais sydd ar y chwarae technegol, yn hytrach na chryfder, wrth baratoi'r ifanc ar gyfer gyrfa yn ein clybiau Cymreig. Er, i fod yn deg, gyda safon rhai caeau Uwchgynghrair Cymru yn ystod Misoedd y gaeaf, a oes syndod pam?

Mae timau llawer gwaeth na Llangefni wedi cadw'u statws yn y Cynghrair Cenedlaethol, a synnwn i ddim gweld Cefni yn aros i fynnu yn eithaf cyfforddus. Fy unig mhryder i am y tim yw eu diffyg profiad ar y lefel yma, ar y wyneb o leiaf. Dros sgwrs efo met i mi sy'n gefnogwr brwd o'r Clwb, daeth yn amlwg i mi bod mwy na'r disgwyl wedi bod yma o'r blaen. Dylan Owen (Caernarfon a'r Rhyl gynt), Chris Jones (Caernarfon), Graham Austin (Bae Cemaes a'r Rhyl), Ywain Gwynedd (Port) ond o dop fy mhen. Yn ogystal, does dim posib di-ystyrru dylanwad Adie Jones dros ei garfan gymharol ifanc, mi fydd ei brofiad o'n hanfodol yn y tymor cyntaf pwysig hon.

Ond o Glwb sy'n edrych ymlaen i'w tymor cyntaf ar y lefel hon, mae clwb arall sydd wedi gwneud yn oll o'r blaen, yn edrych ymlaen at siwrnae lawr ffordd tra wahanol. Am y tro cyntaf ers i'r Bari drechu Shamkir (ew, mae'n swnio mor bell yn ol rwan), mae clwb o Gymru efo siawns realistig o gyrraedd ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr. Dwi yn pryderu nad ydym wedi gweld Ventspils ar ei gorau yr wythnos diwethaf, a gyda buddogoliaeth o 2-0 yn erbyn Blackpool o'r Bencampwriaeth o dan eu belt Dydd Sadwrn, dwi'n ofni'r gwaethaf.

No comments: