Friday 3 August 2007

Mae Angen Newid

Mae hi'n fwy amlwg nag erioed, fod rhaid newid pethau. Tri allan o'n pedwar cynyrchiolydd allan o Ewrop ar y rheol Goliau oddi-cartref. Pa mor anlwcus all un gwlad fod yn Ewrop?! Rydym yn son yn y fan hyn am ddau glwb llawn-amser, ac un rhan-amser, gyda llond dwrn o gemau cyfeillgar yn erbyn timau di-nod yn Lloegr (gan amlaf) yn mynd allan i Ewrop gyda disgwyliadau Cymru gyda nhw. Sut mae modd cystadlu dywedwch?
Mae'r un hen ddadl yn cael ei roi ger-bron o hyd, mai gem i'r Gaeaf ydi Pel Droed a.y.b. Mae'n amlwg felly fod y ddadl dros fabwysiadu tymor debyg i Weriniaeth Iwerddon wedi'i golli am ddegawd o leiaf. Ond, a ydi hynny'n golygu fod rhaid i bopeth arall aros yn ei unfan?

Credaf fod hi'n deg dweud nad ydi'r Gynghrair, na'r pyramid odani ychwaith, yn cael y gefnogaeth eithaf gan y Gymdeithas Beldroed yng Nghymru. Mae'r ffaith os mai ddiffyg arian ac adnoddau, neu ystyfnigrwydd rhoi arian ac adnoddau yw'r rheswm pennaf, i fynnu i chi. Ond y gwir plaen ydi for rhaid i'n clybiau gymryd y mantell ar bennau'i hunain, ac nid o reidrwydd gyda chefnogaeth y Gymdeithas bob amser.

Fy syniad i ydi i'r Gynghrair gychwyn ar ddechrau Mis Gorffenaf, hynny yw bob Cynghrair yng Nghymru newid ei galendr yn raddol i gychwyn yn gynt. Mi fasa hyn yn gweithio ar ddwy lefel. Yn gyntaf, buasai Peldroed yn cael ei chwarae ym Misoedd prysuraf yr Haf. Doedd ond angen bod yn gem Rhyl v Haka pythefnos yn ol i ddod i'r casgliad bod canoedd o ymwelwyr a oedd digwydd bod yn yr ardal, wedi mynychu'r gem. Os fysai hyd yn oed hanner y rheiny yn mynd i weld gem Rhyl yn y gynghrair, does dim rheswm pam na ddylai torf arferol gael ei chwyddo o gant neu fwy yn ystod y mis neu ddau agoriadol, o leiaf.

Wrth gwrs, byddai'n clybiau mewn gwell stad i fynd allan i Ewrop hefyd. Yn sicr i chi byddai 2-3 gem gynghrair o dan y belt yn gangwaith gwell na gemau cyfeillgar yn unig, yn erbyn Poulton Victoria a'u tebyg, fel sy'n dueddol o ddigwydd ar y funud. Pwy a wyr? O bosib y byddai'r Rhyl wedi sgorio un neu ddwy ychwanegol yn erbyn Haka yn eu cymal gartref, gyda chydig mwy o ffitrwydd a mwy o gemau cystydleuol wedi'i chwarae.

Bysa hefyd yn rhoi dewis i'r Cynghreiriau gwahanol, i be i wneud am weddill y tymor. O bosib byddai rhai yn hoff o weld seibiant yn ystod y gaeaf, o bosib yn ystod mis Ionawr. Bysai modd i'r gemau mawr sy'n cymryd lle Dros y Dolig a'r Flwyddyn Newydd fod yn rhywfath o ddiweddglo ar haner cynta'r tymor. Yn sicr byddai hyn yn golygu fod llai o gemau yn cael eu gohirio oherwydd y tywydd, gan na fyddai na Beldroed yn cael eu chwarae yn ystod un o fisoedd mwya' garw y flwyddyn. Dewis arall byddai gorffen y tymor yn gynt, mis Mawrth o bosib.

Mae na ddigon o opsiynau ar gael ar sut i newid pethau. Yn amlwg, mae safon yn chwarae rhan enfawr mewn pam nad ydi'n timoedd yn mynd yn bellach yn Ewrop. Buasai Caerfyrddin byth wedi mentro i'r ail rownd, pwy bynnag pryd chwaraewyd y ddau Gem, er enghraifft. Ond o leiaf dylid rhoi siawns teg i'n cynyrchiolwyr. Dydi gwneud dim byd ddim yn opsiwn mae arna'i ofn.

No comments: