Saturday 9 February 2008

15 Mlynedd


Mae Uwchgynghrair Lloegr yn 15 oed eleni. I ddathlu'r ffaith honno, mae'r Gynghrair yn trafod a oes posib symud rhai gemau dramor. Syniad hurt? Wel, un uffernol yn fy marn i!

Ond, does ddim modd dadlau nad ydi'r gynghrair honno wedi datblygu'n eithriadol ers y diwrnod cyntaf hwnnw yn Awst 1992. Yn 1992, yr Eidal oedd Y lle i fod. Bellach, mae'n ddigon teg dweud mai cynghrair Lloegr ydi ble mae llawer o chwaraewyr gorau'r byd yn ei anelu tuag ati, ac heb os, y cynghrair mwyaf proffidiol yn y byd.

Yn ddigon difyr, yn Mis Awst 1992 roedd yna Gynghrair arall yn cychwyn am y tro cyntaf hefyd, nid neupell o Loegr. Yr un honno oedd y Cynghrair Cenedlaethol, neu erbyn heddiw, Uwchgynghrair Cymru. Ydi honno wedi datblygu gymaint yn y 15 mlynedd diwethaf?

Mae 'na lawer o bethau'n bod ar Uwchgynghrair Cymru yn 2008. Un o'r prif broblemmau sy'n ei gwynebu ydi ei chanfyddiad gan y cyhoedd. Anghyson yw'r sylw mae'n ei chael ar y cyfryngau yng Nghymru, heb son am y Cyfryngau Cenedlaethol Brydeinig. Mae canlyniadau'r Sadwrn yn cael eu cyhoeddi ar Sky Sports a Final Score ar y BBC. Maen't hefyd yn cael eu cyhoeddi ar BBC Radio Cymru a Radio Wales, gyda gohebydd mewn ambell i gem yn dod a'r diweddaraf. Mae'r darpariaeth leol led-led y wlad yn ddibynnol ar agwedd y darlledwr.

Ar y teledu, mae'r Cynghrair efo rhaglen gylchgrawn hanner awr o hyd bob nos Sadwrn. Does dim sylw ar y Teledu Saesneg, ond mae'r Clwb Peldroed yn cael ei ganmol ar y cyfan gan Gefnogwyr Cymraeg a Saesneg eu hiaith. Yn ogystal, mae uchafbwyntiau swta ar gael ar y rhaglen 'Sgorio', sydd gyda apel eangfrydig, tu allan i Gymru hyd yn oed.

Yn nhermau darlledu, mae'r Gynghrair yn derbyn sylw teg. Dwi'n credu yn bersonol mai'r dyddiau pan roedd 'Gol' yn cael ei ddarlledu ar S4C oedd uchafbwynt ei ddarlledu yng Nghymru. Roedd honno'n raglen maith oedd yn rhoi mwy o sylw i'r gemau oherwydd natur hirach y rhaglen.

Mae'n biti i raddu nad oes unrhyw sylw o gwbl yn cael ei ddarlledu drwy gyfrwng y Saesneg, gan fod canran uchel o Gymry sydd ddim yn siarad/deall yr iaith. Ond ar y cyfan, mae'r sylw ar S4C yn ddigon teg.

Tra'n gwrando ar Bodlediad swyddogol Uwchgynghrair Cymru yn gynharach, daeth trafodaeth am Gytundeb teledu newydd y Gynghrair. Yn ol y Gytundeb newydd hwnnw, bydd isafswm o 7 gem byw yn cael eu darlledu bob blwyddyn ar S4C. Mae hyn yn naid eitha sylweddol, a rhaid llongyfarch y Gymdeithas Bel Droed, ac S4C am gytundeb mor hael i'r pyramid Cymreig.
Mae'n fwyaf tebyg bydd y tender yn mynd allan i gynhyrchwyr annibynol i greu'r rhaglen ar ran S4C. Un o'r cwestiynnau mwyaf ydi pryd ydi'r amser gorau i ddarlledu'r gemau yma? Yn y gorffenol, mae sawl amser gwahanol wedi'i defnyddio, fel P'nawn Sul, Nos Sadwrn a Nos Wener.

Yn fy marn i, dylai'r gemau hyn gael eu darlledu ar Nos Iau (heb gemau Cwpan UEFA) neu Nos Sul. Mae'n bwysig nad ydi gem byw yn cymryd lle ar yr un amser a mae gemau arall yn y Gynghrair yn cael eu chwarae, er mwyn sicrhau fod y torfeydd hynny mor uchel a sy'n bosib. Mae hi hefyd yn aruthrol bwysig nad yw'r gemau yn cymryd lle ar yr un amser a gem Premiership byw ar Sky, neu beth bynnag. Yn fy hanes i o weld gemau byw, mae'r torfeydd yn gallu bod yn wael iawn ar gyfer gemau Nos Fercher pan mae Cynghrair y Pencampwyr ymlaen, neu P'nawn Sul pan mae Lerpwl neu Man Utd ar y teledu.

Dwi'n edrych ymlaen i weld beth fydd cynlluniau tymor nesa'. A fydd hi'n bosib bod rhaglen gylchgrawn fel Gol yn dod yn ol? Roedd Amser Cinio yn amser delfrydol am raglen o'r fath, ac er nad oeddwn ddigon hen ar y pryd, gallaf fentro fod sawl un yn nyrsio ambell 'Hangover' gyda Tref y Bari yn eu hanterth ar y sgrin!

No comments: