Sunday 9 March 2008

Trwbl ar y Top?


Mae'n edrych yn ddifyr ar frig Uwchghynghair Cymru ar y funud, gyda Llanelli yn agor mantais ar y Seintiau Newydd. Mae rhaid dweud mai tim Peter Nicholas ydi'r ffefrynnau ar hyn o bryd, er bod ganddynt siawns o enill tair cwpan arall cyn ddiwedd y tymor.

Os mae Llanelli yn mynd ymlaen i enill y bencampwriaeth a chynyrchioli Cymru yng Nghynghrair y Pencampwyr, mae hyn yn gadael y Seintiau mewn sefyllfa ddigon diddorol. Yn ol ambell i si, mae Mike Harris yn bwriadu torri cyllid y tim yn sylweddol, a dod i ben a'u statws llawn-amser. Er y sion yma, allai ddim gweld hyn yn digwydd fy hun. Mae'n ddigon posib fod Mike Harris am dorri'r cyllideb, ond mae'n amlwg lle ellir ei dorri rhywfaint. Ymddengys fod ganddynt 20 chwaraewr llawn amser yn y garfan ar hyn o bryd, yn ogystal a academi sydd wedi ei leoli neupell o Groesoswallt. Onid, un o prif resymau'r clwb dros benderfynnu peidio a chynnig cytundeb newydd i Ken McKenna, oedd yr awch i weld mwy o hogia'r academi yn dod drwy'r system, yn hytrach na'r gor ddibyniaeth ar chwaraewyr Glannau Mersi oedd McKenna i'w weld yn ffafrio?

Wrth roi 2+ 2 at eu gilydd, a chydig o ddarogan personol, yn fy nhyb i be y gwelir ar Neuadd y Parc tymor nesa ydi gostyngiad o chwaraewyr llawn amser lawr i rhyw 13-14, gyda chwaraewyr yr academi yn llenwi'r bylchau yn y garfan wedyn.

Rheswm arall yn fy nhyb i na welwn ni dranc y clwb o'r Gororau, ydi yn ddigon syml, maint y buddsoddiad sydd wedi'i roi fewn i'r clwb yn ddiweddar. Fe gostiodd Neuadd y Parc dros £3.5m i'w adeiladu, yn ogystal a grant o bron i £500,000 ar gyfer y cae artiffisial. Dydi hyn ddim yn newid man o bell ffordd, a ffolineb ydi adeiladu maes Pel-droed gyda cynlluniau ar gyfer 3,000 o seddi heb gael tim i sicrhau lle'r clwb yn Ewrop bob tymor. (Er, dwnim lle mae'r eisteddle newydd 'ma os mae nhw ei hangen ar gyfer Mehefin/Gorffenaf!)

Yn wahanol i mwyafrif cefnogwyr yr Uwchgynghrair, mae gen i rhywfaint o edmygedd tuag at Mike Harris a beth mae wedi'i wneud gyda TNS. Do, mae wedi amddifadu Llansantffraid o'i Glwb i bob pwrpas, ond eto'i gyd mae wedi dod a llawer o sylw i'w Glwb a'r Gynghrair (Sylw oedd ddirfawr ei angen ar adegau). Yn bennaf oll, er hynny, ydi'r ffaith ei fod yn entreprenaur. Rhywbeth fysa ni gallu'i wneud efo mwy ohonynt ym Mheldroed Cymru weithiau.

No comments: