Sunday 25 March 2007

Trip arall wedi mynd pasio


Wow, fe neith hi gymryd lot i guro'r trip yna a wnes i a miloedd o Gymry eraill ar draws mor yr Iwerydd, penwythnos yma. Yn wir, os fuasem wedi cael canlyniad golew, fyswn yn galw am gael eu chwarae pob gem! Diolch byth fod croeso y Gwyddelod wedi lleddfu lot ar boen y canlyniad (a'r perfformiad fwy na dim). Biti fod y lle mor ddrud!

Ar y maes roedd Cymru yn siomedig ar y gorau, a gwael iawn ar eu gwaethaf. Y ddau seren oedd yn disgleirio mewn mor o chwarae diog oedd Stevie Evans a Simon Davies. Y broblem ydi, pan dydi'n chwaraewyr safon uchaf ni (Bellamy, Giggs a.y.b) ddim yn perfformio, dydi'r tim ddim gallu perfformio. Roedd hyn hyd yn oed mwy amlwg gyda Koumas ddim ar gael i chwarae. Wrth gwrs roeddem yn methu Gabbidon hefyd, ond mae cadw'r bel mor bwysig mewn Peldroed Rrhyngwladol, fod canol y cae yn troi allan i fod y safle pwysicaf ar y maes.
Ond 'na ni, hei ho. Da ni allan o'r rhedeg am gyrraedd cystydleuaeth arall eto. Trip i Dde Affrica yn 2010 rhywyn?....

2 comments:

Anonymous said...

Ers pryd ydy Dulyn wedi bod ochr draw môr Iwerydd (the Atlantic?)

Gareth said...

He he, Mor Celtaidd.