Wedi cyrraedd nol tri o'r gloch y bore wedi blino'n lan, felly maddeuwch i mi os nad ydi'r canlynol yn gwneud synnwyr!
Pam o pam fod Cymru mor hoff o chwarae o gwmpas, yn pasio'r bel yn brydferth o un chwaraewr i'r llall? A pam o pam nad oes neb heblaw am Jason Koumas, a hogyn 17 oed (Bale) yn fodlon cymyd siot bob hyn a hyn? Mae hi braidd yn pathetic gweld ein chwaraewyr (a dwi'n edrych arnat ti, Bellamy) yn meddwl fod angen cerdded y bel i'r rhwyd bob tro.
Rhaid i ni chwarae'n well na hyn i guro Seland newydd yn gyfforddus, heb son am gael rhywbeth allan o gem y Weriniaeth Siec.
Thursday, 29 March 2007
Tuesday, 27 March 2007
San Marino
Mae Jason Koumas yn llygaid ei le yn datgan bydd awyrgylch 'swrreal' yng Nghaerdydd nos Fercher, wrth i Gymru gael eu herio gan un o'r gwledydd isaf eu parch yn Ewrop. Tua 15,000 o docynnau sydd wede'i gwerthu i'r gem, a fydd na ddim mwy na 25,000 yno nos yfory.
Ar un wedd dwi'n teimlo fod hyn yn haeddiannol, a mai dim ond ffyliaid fel y fi fydd yno. Ond bobol bach, faint o bobol oedd yn cwyno methu cael tocynnau ar gyfer gemau tyngedfenol tua tair mlynedd yn ol, a'r gem yn erbyn Lloegr. Lle byddan nhw fory? Credaf fod hi'n saff dweud fydd na nifer a wnaeth y trip i Ddulun nos Fercher yn gwylio Sky Sports o flaen y tan nos fory hefyd.
Sunday, 25 March 2007
Trip arall wedi mynd pasio
Wow, fe neith hi gymryd lot i guro'r trip yna a wnes i a miloedd o Gymry eraill ar draws mor yr Iwerydd, penwythnos yma. Yn wir, os fuasem wedi cael canlyniad golew, fyswn yn galw am gael eu chwarae pob gem! Diolch byth fod croeso y Gwyddelod wedi lleddfu lot ar boen y canlyniad (a'r perfformiad fwy na dim). Biti fod y lle mor ddrud!
Ar y maes roedd Cymru yn siomedig ar y gorau, a gwael iawn ar eu gwaethaf. Y ddau seren oedd yn disgleirio mewn mor o chwarae diog oedd Stevie Evans a Simon Davies. Y broblem ydi, pan dydi'n chwaraewyr safon uchaf ni (Bellamy, Giggs a.y.b) ddim yn perfformio, dydi'r tim ddim gallu perfformio. Roedd hyn hyd yn oed mwy amlwg gyda Koumas ddim ar gael i chwarae. Wrth gwrs roeddem yn methu Gabbidon hefyd, ond mae cadw'r bel mor bwysig mewn Peldroed Rrhyngwladol, fod canol y cae yn troi allan i fod y safle pwysicaf ar y maes.
Ond 'na ni, hei ho. Da ni allan o'r rhedeg am gyrraedd cystydleuaeth arall eto. Trip i Dde Affrica yn 2010 rhywyn?....
Tuesday, 20 March 2007
Cwpan Arfordir Gogledd Cymru
Monday, 12 March 2007
Cyffro Croke
Gyda llai na phythefnos i fynd tan y gem fawr ar Barc Croke, rwyf nawr yn edrych ymlaen yn arw at y gem. Mae'r tocynnau wedi cyrraedd, Cwch wedi'i threfnu a'r ystafell mewn gwesty wedi'i archebu. Mae'n rhyfeddol cymaint dwi'n eu hadnabod sy'n dweud nad ydynt eisiau tocyn ar gyfer y gem, ond dwi'n fodlon rhoi pres ar y ffaith y byddan nhw yno yn chwilio am docyn yn rhywle ar ddiwrnod y gem. Pam fod pobol yn gwneud hynny? Hefyd, os mae 'Hill 16' o ddiddordeb hanesyddol mawr i bobol Iwerddon, pam yr ydan ni yn eistedd yno (ar seddi dros-dro)? Rhywbeth i'w wneud efo'r ffaith mai hwnnw yw darn gwaethaf y stadiwm?
Yr holl grysau a caneuon Rygbi fydd yn bownd o gael eu canu yno dwi ddim yn edrych ymlaen iddi...
Penwythnos arall wedi mynd
Ar ol digwyddiadau ddoe a dawn anfarwol Spurs sy'n mynnu i mi farw o drawiad ar y galon cyn i mi droi'n 30, mae'n braf cael edrych yn ol ar y digwyddiadau wedi diwrnod o allu cnoi cil dros y sefyllfa.
Cyn y gem, os byddai rhywyn wedi cynnig gem gyfartal i mi, byddwn wedi cnoi eu llaw i ffwrdd. Ond wedi dweud hynny, sut mae modd peidio bod yn siomedig gweld dwy gol o fantais yn diflannu? Tawaeth, mae'r ail chwarae i fod i gymeryd lle wythnos i heno (19eg) a mae popeth dal yno i chwarae amdano.
Yn anffodus i Boded p'nawn Sadwrn, colli o 4-0 fuodd eu tynged yn erbyn Prestatyn. Dwnim be i feddwl i fod yn onest. Roedd Boded yn chwarae'n dda yn y haner cyntaf, ac yn lwcus i beidio mynd i fewn gol ar y blaen wedi'r golwr arbed cic o'r smotyn.
Dyma glip ohono yma
Yn yr ail haner, roedd pethau'n eithaf cyfartal gyda'r ddau dim yn chwilio am gol. Yn anffodus, i Brestatyn y doth hi, cyn i'r ail, trydydd a'r pedwerydd goliau fynd i fewn. Do, fe agorwyd y llif-ddrysau.
Piti fod rhediad mor dda wedi dod i ben, ond mae gem Llangefni wedi'i ail-drefnu ar gyfer nos Fercher yma a rwyf dal yn edrych mlaen yn arw amdani.
0-0 oedd sgor Bangor yn erbyn Port Talbot.
Thursday, 8 March 2007
Port Talbot Druan
Druan a Phort Talbot neithiwr yn gem gyn-derfynnol y Cwpan Cenedlaethol. Mae nhw'n dim uchelgeisiol sydd wedi gwella fel clwb ar ac oddi-ar y cae.
Gresyn gen i weld tim fel Casnewydd sydd ond yn chwarae yng Nghyngrair Lloegr i fod yn lletchwith, yn derbyn £50,000 ychwanegol yn y banc. Ddim rili yn atgyfnerthu'r ddadl iddynt ymuno a'r Cynghrair Cenedlaethol os ydynt yn gallu cyrraedd y ffeinal y cwpan mwyaf enillfawr (yng ngwerth arian o leiaf) sydd gennym yng Nghymru, a dal gyda siawns o gyrraedd y Conference nacdi?
Dau gem dda i wylio gefn wrth gefn heno, sef gemau Newcastle a Spurs yng nghwpan UEFA. Edrych ymlaen at rheiny.
Gem Llangefni v Bodedern wedi'i ail drefnu ar gyfer nos Fercher nesaf (14/03/07). Gobeithio ceith fynd yn ei flaen y tro yma!
Wednesday, 7 March 2007
Y Gem Fawr
Edrych ymlaen yn arw at y gem fawr heno. Na, nid Man Utd v Lille. Dwi ddim yn golygu Casnewydd yn erbyn Port Talbot chwaith. Y gem fawr, os ydych yn Ynyswr sy'n hoffi'ch Peldroed yn lleol, heb os ydi Llangefni v Bodedern ar Lon Talwrn. Gobeithio wir fydd melltith gwobr Rheolwr y Mis Rob Hughes ddim yn effeithio Boded heno wrth i ni baratoi ar gyfer un o'r sawl gem ddarbi fawr sydd gennym drwy gydol y tymor.
C'mon Boded!
C'mon Boded!
Monday, 5 March 2007
Spammers
Wow! Roedd gem ddoe yn anhygoel. Roeddwn bron a switsio'r gem i ffwrdd haner amser, gyda Spurs 2-0 i lawr yn erbyn West Ham. Lwcus wnes i ddim! Paul Stalteri sydd wedi bod yn cadw'r fainc yn gynnes drwy'r tymor, yn dod o nunlle a sgorio'r gol hawsaf a geith o rioed.
Dwi'n ffendio hi'n anodd cydymdeimlo gyda'r Hammers ar ol y ffordd oeddan nhw'n gwawdio Spurs ar ol i nhw guro 2-1 a gorffen gobeithion Spurs am Gynghyrair y Pencampwyr eleni. Dim cweit mor ddoniol rwan ydi o? :)
Bangor wedi enill 2-1 yn Aber, a chanlyniad wych i Boded hefyd, gem gyfartal 0-0 allan yn Fflint. Rhediad gwerth chweil yn ddiweddar, gobeithio fod hyn am barhau nos Fercher yn erbyn ein gelynion Llangefni. C'mon Boded!
Thursday, 1 March 2007
Welsh-Premier yn Dathlu
Llongyfarchiadau i wefan Welsh-Premier.com sy'n dathlu ei benblwydd yn dair oed. Brainchild Andrew Lincoln sy'n gweithio'n agos gyda chlwb TNS ydi'r wefan, ac am fwyafrif bodolaeth y safle, wedi bod yr unig safle lle gellid cael newyddion cyfoes o'r Gynghrair a gweddill Peldroed Cymru. Dim ond yn ddiweddar mae'r Gynghrair ei hun wedi dod a rhywbeth tebyg, swyddogol, i'r amlwg er nad ydyw cystal a'r un gwreiddiol, answyddogol yma. Penblwydd Hapus!
Subscribe to:
Posts (Atom)