Thursday 30 August 2007

Tyfa i Fynnu Paul

Daeth newyddion siomedig heddiw fod Paul Parry o glwb Caerdydd wedi gwrthod ymuno a charfan John Toshack ar gyfer y gemau yn erbyn yr Almaen a Slofica, ynghyd a unrhyw gemau yn y dyfodol agos.

Yn bersonol i mi, credaf ei fod yn benderfyniad dwl iawn gan Parry. Mae'n 27 oed rwan ac felly os oes problem ganddo gyda Toshack, bydd yn ei 30'au mwy na thebyg cyn i unrhyw un newydd gymryd y swydd. Felly mae Paul Parry wedi taflu ei yrfa rhyngwladol ei hun i'r sbwriel i bob pwrpas. A fyddai rhywyn fel Kevin Nolan o Bolton yn gwneud penderfyniad tebyg, er nad yw'n cael ei bigo ar gyfer tim Lloegr? Rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr gyda sylwadau Jason Perry, mae linc iddo yma:
http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/football/internationals/6969962.stm

1 comment:

Anonymous said...

Wyt ti'n gwybod pam fod o wedi tynnu allan? Na? Rhesymau personol. Paid a bod mor feirniadol felly.