Wednesday 8 August 2007

Dydi Darogan yn Hwyl?


Mae Cwmni Coral wedi postio'r 'odds' yma ynglyn a phwy enillith Uwchgynghrair Cymru eleni, a mae'n gwneud darllen difyr a gwneud y lleiaf. Wrth gwrs, barn ydi popeth yr adeg yma o flwyddyn, ond mae lle i anghytuno gyda barn y cwmni.

Llanelli i orffen uwchben y Rhyl?
Derwyddon Cefn Newi i orffen ar y gwaelod?
LLangefni a Castell Nedd i orffen uwchben Caersws?


TNS 8/11
Llanelli 11/4
Rhyl 7/2
Bangor 12/1
Welshpool 22/1
Aberystwyth 33/1
Carmarthen 33/1
Newtown 33/1
Port Talbot 33/1
Connah's Quay 50/1
Porthmadog 66/1
Haverfordwest 80/1
Caernarfon 100/1
Llangefni 100/1
Neath 100/1
Airbus UK 150/1
Caersws 150/1
Newi Cefn Druids 150/1

Dyma fy marn i o sut eith y tymor ar gyfer yr 18 clwb yn y Gynghrair:

Aberystwyth (7fed) : Wedi cael Haf distaw yn y farchnad am chwaraewyr, hyd y gwelaf i. Canol-tabl uchel dywedwn i, os na mae'u chwaraewyr pwysig fel Bari Morgan yn cael tymor eithriadol.

Airbus UK Brychdyn (18fed): Tymor anodd i'r tim o Frychdyn ddywedwn i. Heb ddod a llawer i fewn i'r garfan dros y tymor, ac yn edrych fel y tymor y ddychwelan nhw i'r Cynghrair Undebol.

Bangor (4ydd): Neville Powell yn cymyd drosodd tim gaeth tymor sigledig llynedd. Cychwyn gwael iawn o dan reolaeth Clayton Blackmore, ond Steve Bleasdale yn dod ac ychydig o broffesiynoldeb i'r garfan. Mwyafrif carfan y llynedd wedi'i gadw, ond a all Tommy Mutton ac Ashley Stott lenwi esgidiau'r anfarwol Jiws?

Caersws (14eg) : Penodiad diddorol i ddod a Mike Barton o Gegidfa a Dave Taylor o Fwcle i fewn. Wedi arwyddo un neu ddau chwaraewr profiadol, ond fydd colled Mickey Evans yn un aruthrol.

Caernarfon (15fed): Wedi colli Chris Jones i Langefni, a chawn nhw broblemmau darganfod cefn y rhwyd. Y chwaraewyr newydd o bwys wedi dod o ail garfan Vauxhall Motors ac am gael tymor anodd arall. Gwybodaeth O'Shaugnessey am y gem am fod yn ddigon i'w hachub am dymor arall, serch hynny.

Caerfyrddin (9fed): Wedi colli Kaid Mohammed i Swindon a heb gael neb yn ei le eto. Rhaid iddynt gael siom canlyniad Brann allan o'u system mor fuan a sy'n bosib, ond Mark Aizlewood yn ran o'r staff i ddod a Phroffesiynoldeb i'r garfan. Deryn Brace gyda chydig i'w brofi hefyd.

Castell Nedd (17fed): Newydd ddyfodiaid arall i'r Gynghrair. Neb i'w weld yn gwybod llawer am y clwb, ond credaf eu bod mewn gwell stad na'r oedd Cwins y Grange ddwy flynedd yn ol. Diffyg Profiad ar y lefel yma am gostio'n ddrud iddynt o bosib?

Cei Conna (11eg): Tymor gyntaf Jim Hackett wrth y llyw. Mae ganddo dasg anodd ar stadiwm Glannau Dyfrdwy gyda cnewyllyn y garfan wedi symud i Fangor. Mae ganddo dasg anodd siapio tim cryf o be sydd ganddo ar ol. Wedi arwyddo rhai chwaraewyr ifanc o Gaer lle'r oedd arfer bod, ac bydd cadw Chris Williams rhag crafangau Nev Powell yn hwb iddo.

Derwyddon Cefn NEWI (13eg): Er fod gan Wayne Phillips brofiad gyda Caernarfon, tim rheolaeth eitha di-brofiad sydd gan y Derwyddon ar y cyfan. Ricky Evans yn gaffaeliad mawr i'r clwb, ond a oes gan Lee Jones a Wayne Phillips gymeriadau ddigon cryf i ddod a'r gorau allan ohono? Tim arall sydd am gael trafferth sgorio goliau os nad yw Heverin ar ei orau.

Y Drenewydd (8fed): Marc Lloyd Williams wedi arwyddo i'r clwb, felly mae goliau ar barc Latham bron yn sicr. Cawn dymor go-dda yn fy marn i, gyda'r amddiffynwr addawol Craig Williams i barhau i ddenu llygaid y sgowtiaid.

Hwlffordd (10fed): Mae Derek Brazil yn cychwyn ei dymor cynta lawn wrth y llyw yn Hwlffordd, a mae wedi dod a'r tim yn ei flaen yn ddistaw bach. Credaf wnaiff y cynnydd yma barhau eleni.

Llangefni (16fed): Am fod yn dymor anodd i'r hogia newydd. Y tim diwethaf o'r Ynys i ynddangos yn y Gynghrair oedd Bae Cemaes, a oedd erbyn y diwedd yn chwarae tim o fechgyn 16 a 17 oed i lenwi'i tim. YN ffodus, mae Cefni mewn dipyn gwell stad ar ac oddi-ar y maes. O dan reolaeth ofalus Bryan Owen, a wedyn Adie Jones, maen't o'r diwedd wedi enill dyrchafiad. Mi fydd lot o bwysau ar Chris Jones oherwydd ni welaf lawer o goliau yn dod o unigolion heblaw am hwnnw. Rhaid i weddil y garfan wnaud y cam i fynnu'n sydyn i sefyll unwhyw siawns o dymor arall yn yr Uwchgynghrair.

Llanelli (3ydd): Fy mhroffwyd i yw fod Llanelli am orffen yn y safle Cwpan Inter-toto eto eleni. Er fod ganddynt chwaraewyr talentog yn eu mysg, a'u statws llawn-amser, nid oes ganddynt broffesiynoldeb y Seintiau Newydd, nac ychwaith ysbryd y Rhyl. Mark Pritchard efo esgidiau mawr Jacob Mingorance i'w llenwi, a mwy o bwysau ar Rhys Griffiths i sgorio goliau.

Port Talbot (6ed): Tymor cyntaf Tony Pennock fel rheolwr, a mae pethau'n edrych yn eithaf addawol ar stadiwm Remax. Gyda'r clwb yn meithrin cytundeb gyda Abertawe i gael menthyg chwaraewyr addawol, ifanc o'r Swans, dylai fod yn dymor eithaf cyfforddus. Bydd trosglwyddiad Lee John i Gasnewydd dros yr Haf, yn ergyd serch hynny.

Porthmadog (12fed): Mi fydd yn anodd gwybod be ddigwyddith i Port eleni. Ar ol blynyddoedd o dan reolaeth Viv Williams ac Osian Roberts, mae rheolwr newydd ar y Traeth. Mae gan yr anfarwol Clayton Blackmore lawer i'w brofi fel rheolwr ar ol cyfnod siomedig ar Ffordd Ffarrar, a mi fydd yn dasg iddo gyfuno dau rol os yw'n penderfynnu parhau i Chwarae, ac yntau yn ei 43ydd blwyddyn. Fawr o newidiadau ar y Traeth dros yr Haf, ac o'r rheiny, mae mwy wedi mynd allan na sydd wedi dod i fewn.

Y Seintiau Newydd (1af): Mae proffesiynoldeb y Seintiau filltiroedd o flaen pawb arall yn y Gynghrair. Mi fydd y rheng flaen o Ronnie Morgan a Mike Wilde yn lond llaw i amddiffynnau lu, a gyda Andy Holden a Steve Beck lawr yr asgelloedd, mae'r tim llawn goliau. Heb eto lenwi esgidiau Steve Evans yn yr amddiffyn, ond gyda goliau lu yn y tim, a oes angen?

Y Trallwng (5ed): Mae Tomi Morgan wedi troi Maes-y-Dre yn le anodd i fynd. Mae ganddo gnewyllyn o hogia Cymraeg a mae ysbryd da yn perthyn i'r garfan. Chwaraewyr fel Gethin Lloyd wedi denu'r llygaid yn y gorffenol, a rwan fod Calvin Davies yn dychwelyd ar ol cyfnod byr gyda'r Rhyl, gwelaf dymor da eto iddynt.

Rhyl (2il): Mae'n argoeli'n tymor da i'r Bechgyn ar y Belle Vue. Mae Hulse wedi arwyddo chwaraewyr profiadol, ac os mae'n gallu perswadio Michael White i arwyddo am y tymor, mae llawer o safon yn perthyn i'r tim. Nid ydynt bellach yn or-ddibynol ar Andy Moran am goliau, a dylai Chris Sharp fod yn ol cyn bo hir. Y Sion yw fod y clwb yn mynd am y bencampwriaeth eleni, ond yn fy marn i, rhaid iddynt setlo am le yng Nghwpan UEFA eto eleni.

1 comment:

Carwyn Edwards said...

Wedi baglu ardaws dy blog ! Mwynhau darllen am pel droed Cymru a fel cyd person o Ynys Mon !! Unig beth allwn dweud ond dal ati!!!!

Carwyn
Arizona
Bodedern!!