Wednesday 29 August 2007

Brechdan Corgimwch?


Yn ol i Gae'r Ysgol Bodedern fu fy ffawd Dydd Sadwrn ar gyfer gem arall yn y Cynghrair Undebol. Y tro yma, Llandudno oedd yr ymelwyr a gwelwyd crasfa go iawn wrth iddynt ddychlwelyd yn ol dros yr A55 gyda Thriphwynt a phedair Gol i'w henw. Prynhawn siomedig ym Modedern, a gobithio bydd canlyniad gwell heno yn erbyn Llanfairpwll, er nad ydwyf yn gallu bod yn bresennol.
Yna Dydd Sul, fe es i amgylchedd ychydig yn wahanol, sef i Old Trafford i weld Manchester United yn erbyn Spurs. Yn dilyn chydig o anffawd gyda'r tocynnau, fe gefais a fy met i fewn mewn da bryd erbyn y cic gyntaf (yn y llecyn ar gyfer cefnogwyr yr ymwelwyr wrth gwrs). Mae Old Trafford ei hun yn glamp o stadiwm ac er fy mod wedi bod yno o'r blaen, dwi'n rhyfeddu wrth faint y lle. Yr unig beth sy'n ei adael i lawr ydi un eisteddle sydd dipyn hynach a llai na'r gweddill (h.y, eisteddle ni!). Dydi o ddim yn faes Peldroed traddodiadol fel y cyfryw, fel Parc Goodison neu i raddau White Hart Lane, lle mae strydoedd o dai o'i amgylch a.y.b. Ond mae yn daclus iawn gyda phob adeilad yn amlwg gyda chyfarwyddiadau ymhobman.

Beth oedd yn siomedig, ac yn enghraifft o beth sydd wedi digwydd i beldroed dros y ddegawd neu mwy diwethaf, oedd y nifer o bobol oedd yno sy'n amlwg ddim yn ymwelwyr cyson. Roedd na gymaint o bobol yno yn y maes ei hun yn ystod y gem yn tynnu llyniau o'u gilydd a llawer yn amlwg wedi hedfan yno o wledydd amryw ar gyfer dweud eu bod wedi bod mewn gem Uwchgynghrair Lloegr. Ond am wn i, dyna mae llawer o'r clybiau eisiau'u weld yn digwydd fwy cyson. Pa glwb sydd angen y teip o ffan sy'n canu caneuon (o bosib ddigon amheus ar adegau) ac yn sefyll i fynnu drwy'r gem, pan mae posib cael cefnogwyr wneith gau eu ceg ac eistedd lawr yn daclus ac yno ar gyfer y 'Spectacle' yn hytrach na'r gem ei hun? Tua £40 ydi tocynnau heddiw, ond beth yw'r dyfodol? Mae'r clybiau wedi dwblu eu incwm o'r hawliau darlledu tramor ar gyfer eleni, ond dal i godi wnaiff y prisiau. Mae angen gofyn pam weithiau, a'i ar gyfer rhesymau ariannol yntau rhesymau diwyllianol y mae'r prisiau'n parhau i godi?

Mae'n gysur fydd wastad gennym ein system Beldroed ein hunain yng Nghymru. Mae na rywbeth ddigon rhamantus am sefyll ar Deras St Paul ar Ffordd Ffarrar yn y glaw weithiau yn does?

2 comments:

Rhys Wynne said...

Heb fod i gêm uwchgyngrhair ers tymor 1995/96, pan oeddwn i'n â tocyn ymor i wylio Everton. Ers hynny, dwi wedi bod yn dilyn Wrecsam yn amlach (ond ddim o ddifri, mond rhyw 6-8 gwaith y tymor.

Rwan mae'r Kop ar gau yno, dwi'n gwedl fy hun yn mynd yn llai aml fyth. Dwi'n casau eistedd i wylio pêl-droed a'r modd mae cefnogwyr yn cael eu trin oddi cartref os meiddient sefyll. Tymor hwn dwi di dweud mai mond i faesydd ble cai sefyll dwi am deithio i wylio Wrescam.

Dwi'n byw yng Nghaerdydd ac yn gwneud yn fawr o'r cyfle i fynychu'r holl gemau cartref y tim cenedlaethol ar fy stepen drws, ond mae awyrgylch y stadiwm mor ddi galon.

Bu erthyglau yn y Guardian a'r Observer yn ddiweddar am 'dro-pedol' posib ar bolisi'r Llywodraeth ar adael i bobl sefyll mewn maesydd pêl-droed (lefel uchaf). Dwi'n croesawy hyn, ond daw yn rhy hwyr i Abertawe, a Chaerdydd a Wrecsam rwan mae'n siwr.

Dwi'n rhagweld fy hun yn mynd i wylio mwy o gyngrhiar Cymru yn y dyfodol, ond does dim clwb yn y de-ddwyrain bellach. Bues i'r Barri ambell waith (er roedd eu hagwedd nhw ar pobl yn sefyll beraidd yn siomedig!). Os af nôl i'r gogledd i ardala Dinbych i fyw, efallai mai Denbigh Town a'i wylio, er mod i di bod i weld Rhyl ambell waith.

Gareth said...

Os rwyt yn byw yng Nghaerdydd, mi fasat yn gallu sefyll ym Mharc Nininan, ond dwnim os fyswn eisiau gwneud hynny chwaith!