Friday 20 July 2007

Dim Blues ar y Belle Vue



Mi fyswn yn gallu cychwyn y pwtyn yma drwy son am yr uffern o siwrnae tren a gefais ar y ffordd i, ac adref o'r Rhyl neithiwr. Ond dydi'r pobol meddw ar y ffordd yno, na'r gohiriadau lu a achosodd i mi gyrraedd adref am 12:20 y bore ma ddim mor bwysig a chanlyniad y Lillywhites neithiwr. Ar ol eu buddugoliaeth wych, mae'r Rhyl gam yn nes i gyrraedd ail rownd rhagbrofol Cwpan UEFA. Roeddwn yn diawlio ar y tren yr holl ffordd adref nad oeddwn wedi rhoi pres ar Rhyl i guro, gan fod yr odds reit dda (ymysg pethau eraill).

I fod yn hollol onest, y rheswm na rois arian arni oedd nad oeddwn yn disgwyl hyn ddigwydd o gwbl. Bob blwyddyn fel rheol mi fyddaf yn rhoi arian ar y 3/4 tim Cymreig guro'i gemau, a mwy na lai bob blwyddyn rwyf yn colli arian. Lwc Mul ynde?


Mae'n anodd dadansoddi beth oedd yr union resymau am ganlyniad ddoe. A'i hwn oedd yr un Haka a chwalodd Bangor rhyw 9 mlynedd yn ol ar Ffordd Ffarrar, gyda Marlon Harewood ifanc yn y rheng flaen? Mae safon yr Uwchgynghrair wedi codi rhywfaint ers hynny, ac mae rhaid dweud fod tim Rhyl ddoe yn un gwell na un Bangor yn 1998 a roddwyd at ei gilydd yn sydyn wedi ymadawiad Graeme Sharp. Dyma'r tim a roddwyd allan gan Fangor ar y noson, gem gystydleuol gyntaf i'r mwyafrif chwarae gyda'i gilydd.

L. Williams, G. Williams, Fox, Allen, McGloughlin, Horner, Hilditch, Taylor (sub P. Langley), Ayorinde, Sharratt, McGoona (Wenham)

Ond, heblaw am yr enwog Sammy Ayorinde, sydd efo capiau dros ei wlad (Nigeria) i'w enw, yr unig rai dwi'n eu adnabod heddiw ydi Lee Williams, Mark Allen, Darren Hilditch, a Danny McGoona. Ddim yn garfan a oedd mynd am y bencampwriaeth a dweud y gwir.

Doedd gan Rhyl fawr o Beldroed yn perthyn iddynt chwaith. Lot o beli dros y top, ond dyna ni. Mi weithiodd yn do? Mae'n gweithio i John Hulse, a dyna sy'n bwysig.

Er hyn i gyd, dwnim be oedd Caerfyrddin druan yn ei wneud chwaith. 8-0 gartref? Y peth trist am hyn oll ydi fod canlyniad Caerfyrddin am dynnu coefficient Cymru gyda UEFA os bydded i Rhyl gyrraedd y cymal nesaf.

Mae canlyniadau o'r fath, yn anffodus, yn agor i fynnu'r drafodaeth sy'n codi'i ben bob hyn a hyn, nad yw timau'r Uwchgynghrair yn deilwng i gynyrchioli Cymru yn Ewrop. Dyna fydd cri ambell i gefnogwr Caerdydd ar sawl fforwm dros y dyddiau nesaf, gwyliwch chi.

1 comment:

Aran said...

Helo,

Siawns fedri di ddefnyddio lluniau maint iawn, yn hytrach na defnyddio cod i ffitio llun mawr i fewn i ofod bach?

Fel arall, maen nhw'n gwneud llanast llwyr drosodd ar blogiadur.com...;-)

Hwyl,

Aran