Tuesday 13 November 2007

Yr Alltudion


Mae hi wastad yn ddadl rhwng cefnogwyr Uwchgynghrair Cymru, a'r alltudion, ynglyn a pha system yw'r gorau. Fyddai cefgnogwyr Casnewydd neu Merthyr Tydfil yn siwr o ddadlau fod bod yn rhan o un o systemau gorau'r Byd a chael cyfle yng Nghwpan F.A Lloegr werth chwarae du allan i furiau eich gwlad. Byddai'r rheiny sydd o fewn Cymdeithas Bel-Droed, ar y llaw arall, yn dadlau fod Uwchgynghrair Cymru wedi golygu llawer iawn mwy o sylw i fwyafrif o'i glybiau, ynghyd a rhaglenni teledu cyson a'r cyfle i chwarae yn Ewrop bob tymor.

Mae'n ddadl ddi-ddiwedd, ac eithaf diflas ar adegau. Yr unig ffon fesur sydd ganddom ar gyfer cymharu timau domestig Cymru, a'r timau 'Cymreig' eraill, ydi canlyniadau Cwpan Cenedlaethol Cymru.

Yn ddiweddar, wnaeth Casnewydd guro Bangor o 1-0 ar nos Fawrth ar Barc Spytty. Mae'n eithaf amlwg felly fod Bangor o dan anfantais o'r cychwyn, gyda thaith hir lawr i'r de ar ol hanner diwrnod o waith, mewn sawl achos. Ond y canlyniad sy'n bwysig ar ddiwedd y dydd.

Roedd yn stori ddigon tebyg llynedd gyda Casnewydd yn curo dau Glwb o'r Uwchgynghrair ar eu ffordd i'r rownd derfynnol, lle buont golli i T.N.S, mewn gem eitha un ochrog i'r Seintiau. Fe aethwyd a Derwyddon Cefn Newi i amser ychwanegol cyn i Sam o'Sullivan sgorio i selio'r fuddugoliaeth o 2-1. I raddau, mae hyn yn is-raddio dadl Bangor gynt, er fod y Derwyddon yn dim cymharol wan.

Yn y rownd gyn-derfynnol, aeth hon hefyd i amser ychwanegol cyn i Jason Bowen sgorio i enill, eto, 2 - 1.

Y tro diwethaf i glwb o'r Uwchgynghrair eu trechu (heblaw am T.N.S), oedd Caernarfon yng nghystydleuaeth 2004/05. Sgoriodd Mark Evans unig gol y gem i fynd a'r Cofis drwodd ar yr Oval. Hon oedd y tymor cyntaf heb y system grwpiau. Y tymor blaenorol, y canlyniadau oedd:


30 Medi 2003 Cei Conna 1-1 Casnewydd
7 Hydref 2003 Y Rhyl 1-0 Casnewydd
15 Hydref 2003 Casnewydd 2-0 Lido Afan
4 Tachwedd 2003 Lido Afan 2-5 Casnewydd
12 Tachwedd 2003 Casnewydd 1-1 Cei Conna
17 Tachwedd 2003 Casnewydd 3-0 Y Rhyl

Ar y cyfan, rhaid dweud fod Casnewydd wedi cael y gorau, er nad oes rhyw lawer iawn ynddi yn y pendraw. Rhydd i pawb ei farn am wn i, ond dwi'm yn credu fod yr ystadegau uchod yn profi rhyw lawer iawn. Rhaid i'r hen ddadl fynd yn ei flaen mae arna'i ofn!

No comments: