Monday, 26 November 2007

Whoo-hoo!


Mi fysa'n hollol esgeulus ar fy rhan i beidio son am yr wythnos sydd newydd basio o swfbwynt cefnogwr Cymru. Roedd gem gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn ganlyniad hollol dderbyniol, yn arbennig wrth gysidro natur y canlyniad a pha mor isel oedd pawb cyn y gem.
Nos Fercher daeth gem gyfartal arall allan yn Frankfurt. Roeddwn yn hollol 'gutted' wedi methu mynd allan i Frankfurt, roedd cyfuniad o amgylchiadau personol a methu ail-drefnu'r teithio o fewn pris rhesymol wedi rhoi stop ar hynny. Fe ddilynais y gem mewn Hostel yn Budapest drwy gyfuniad o wefan y BBC a negesfwrdd OnetouchFootball. Stori hir! O leia bydd trip arall yn cael ei drefnu i'r Almaen o fewn 2 flynedd diolch i ddewisiadau Fifa ddoe.

Er hynny, does ddim os gen i mai arwyr yr wythnos ydi'r tim dan-21. Dau ganlyniad gwych yn erbyn Bosnia a Ffrainc wedi gwneud y posibilrwydd o gyrraedd Sweden 2009 yn un go-iawn. Er hynny, mae rhaid enill y grwp neu fod ymysg y pedwar ail-orau i gyrraedd y gemau ail-gyfle. Bydd 7 tim yn ymuno a'r trefnwyr ym Mis Mehefin 2009. Y Blydi Play-off's ma....

Am wythnos gwych, a dwi heb hyd yn oed son am yr hwyl a gafwyd b'nawn Sadwrn yn gwylio Bangor yn y Belle Vue eto!!

No comments: