Monday 29 October 2007

Dowch yn llu!


Cefais ddychwelyd i Ffordd Ffarrar am y tro cyntaf ers ychydig wythnosau ar gyfer y gem Uwchgynghrair yn erbyn Porthmadog, b'nawn Sadwrn. Rhaid i mi ddweud fod Port yn edrych yn dim sydd am godi fynnu'r tabl o dan reolaeth Viv Williams unwaith eto, er iddynt golli o 2-0 yn y diwedd un.

Yr un hen gwestiynnau ynglyn a rheolaeth Clayton Blackmore a ddaeth i'r fei, gyda diffyg paratoi ar gyfer gemau ac o sgil hynny, diffyg ffitrwydd, yn amlwg yn y chwaraewyr yn ol y rheolwr dros-dro newydd. Rhywbeth tebyg gafodd ei grybwyll ym Mangor ar ol i Bleasdale gymryd y llyw. Yn sicr wnaeth o ddim dysgu hynny gan Sir Alex ym Manchester United!

Un peth eitha calonogol, ar y cyfan, oedd tyrfeydd y penwythnos. Roedd dros 500 yn gwylio gem Llanelli, Nos Wener, a bron i 500 ar Ffordd Ffarrar dydd Sadwrn. Roedd bron i 400 ar Blas Kynaston nos Wener ar gyfer y gem rhwng y Derwyddon a'r Rhyl, a thorf o 322 rhwng Hwlffordd a'r Drenewydd. Dwi'n credu fod hyn yn ddigon i brofi fod mwy o gemau ar Nos Wener a gwahanol fentrau ar gyfer denu teuluoedd yn gallu gweithio.

Yn anffodus, yn groes i'r syniad hwnnw, dim ond 92 o bobol oedd ar y Maes Awyr b'nawn Sadwrn i wylio Airbus Brychdyn yn erbyn Caernarfon. Iawn, ddim y gem mwyaf disglair a chwaraewyd erioed, ond 92? Mae timau fel Caergybi yn denu o leiaf 200 ar gyfer bob gem mewn cynghrair is. Mae Llangefni yn denu 250 bob gem, a hwythau yn is na Airbus yn y tabl. Mae Airbus wedi bod yn y gynghrair sawl tymor erbyn hyn, a wedi newid enw'r tim i geisio adenill mwy o gefnogaeth lleol. Yn amlwg dydi hyn heb weithio, a mae angen gofyn os yw trigolion lleol yr ardal yn haeddu lle yn Uwchghynghrair Cymru? Yn sicr mae digon o dimau gyda chefnogaeth golew yn fwy na pharod i gymryd eu lle.

1 comment:

Gary said...

Dim ond 60-rhywbeth oedd yn gwylio Airbus ganol wythnos 'fyd ynde?

Siomedig tu hwnt!