Friday 5 October 2007

TNS v Rhyl eto!


Fe gefais fy synnu rhywfaint gyda ymateb rhai aelodau o fwrdd y Gymdeithas Bel-droed ynglyn a chytundeb darlledu newydd y Gymdeithas gyda S4C. Golyga'r gytundeb newydd yma fod gan S4C yr hawl i ddarlledu gemau rhyngwladol Cymru yn eu cyfanrwydd ar ol y gic olaf, a hawliau ecsgliwsif i Uwchgynghrair a Chwpan Cymru.
Onid yw'n ddyletswydd ar y Gynghrair i sicrhau eu bod yn setlo ar y cytundeb sy'n cynnig y mwyaf o sylw i'r Gynghrair, a mae'n amlwg mai cytundeb S4C oedd hwnnw. Roedd cytubdeb S4C yn gaddo dangos dwywaith y gemau byw a oedd y cynnig arall oedd ar y bwrdd, sef un BBC Cymru, yn ei gynnig. Pa ddewis arall oedd yna?
Erbyn hyn mae posib gwylio S4C unrhywle ym Mhrydain drwy deledu Digidol. Mae posib gwneud hynny drwy BBC2W hefyd, ond mae'n ddipyn mwy tebygol dod ar draws gem os yw ar Sianel 184 na sianel 900 does bosib? Oes, mae na lot o gefnogwyr Peldroed yn ddi-Gymraeg, ond os ydych yn ffan o'r cynnyrch sydd ar gael, does bosib nad ydyw iaith y sylwebaeth yn gymaint o broblem a hynny?

No comments: