Friday 7 December 2007

Ond Dw'im Isio Mynd i'r Rhyl!!


Dyma restr o feysydd Uwchgynghrair Cymru:







Aberystwyth
----------------
Maes: Coedlan y Parc
Tref: Aberystwyth
Yn Dal: 5000
Seddi: 1002

Airbus UK Brychdyn
---------
Maes: Y Maes Awyr
Town: Brychdyn
Yn Dal: 1000
Seddi:500

Bangor
------------
Maes: Farrar Road
Tref: Bangor
Yn Dal: 3200
Seddi: 740

Caernarfon
---------------
Maes: Yr Ofal
Tref: Caernarfon
Yn Dal: 3,500
Seddi: 252

Caersws
-------
Maes: 'Y Rec'
Tref: Caersws
Yn Dal: 2,500
Seddi: 300

Caerfyrddin
---------------
Maes: Parc Waun-Dew
Tref: Caerfyrddin
Yn Dal: 3000
Seddi: 1056

Cei Conna
--------------------
Maes: Stadiwm Glannau Dyfrdwy
Town: Cei Conna
Yn Dal: 3500
Seddi: 420

Hwlffordd
--------------------
Maes: New Bridge Meadow
Tref: Haverfordwest
Yn Dal: 2,000
Seddi: 400

Llanelli
--------
Maes: Parc Stebonheath
Tref: Llanelli
Yn Dal : 3700
Seddi: 680

Llangefni
--------------
Maes: Cae Bob Parry
Tref: Llangefni
Yn Dal: 3,500
Seddi: 250

Castell Nedd
--------------
Maes: Parc Llandarcy
Tref: Neath
Yn Dal: 3000
Seddi: 250

Derwyddon Cefn NEWI
-----------------
Maes: Ffordd Plaskynaston
Tref: Cefn Mawr
Yn Dal: 2000
Seddi: 300

Y Drenewydd
-------
Maes: Parc Latham
Tref: Newtown
Yn Dal: 5000
Seddi: 1250

Porthmadog
----------
Maes: Y Traeth
Tref: Porthmadog
Yn Dal: 4000
Seddi: 500

Port Talbot
----------------
Maes: Stadiwm Remax
Tref: Port Talbot
Yn Dal: 2500
Seddi: 1000

Rhyl
----
Maes: Y Belle Vue
Tref: Y Rhyl
Yn Dal: 3800
Seddi: 1720

Y Seintiau Newydd
---
Maes: Neuadd y Parc
Tref: Croesoswallt
Yn Dal: 3000
Seddi: 250 (I'w uwchraddio i 3,000 )

Y Trallwng
--------------
Maes: Maesydre
Tref: Welshpool
Yn Dal: 1500
Seddi: 250


Fel y mae pethau'n sefyll, bydd Y Trallwng, Derwyddon Cefn, Castell Nedd, Llangefni, Hwlffordd, Caersws, Cei Conna a Chaernarfon, yn cael eu diddymu ar ddiwedd tymor 2008/09. Y rheswm pennaf am hyn yw rheolau newydd trwyddedu UEFA/Y Gymdeithas Beldred, sy'n dod fewn i rym ar ddechrau tymor 2009/10. Prif amcan y system ydi sicrhau fod pob maes gyda 500 o seddi, sef hanner ffordd tuag at maes sy'n gallu cynnal rowndiau cynnar cystydlaethau Ewropeaidd.

Bydd hefyd criteria ynglyn a chryfder y llif-oleuadau, academi, a strwythur mewnol y clwb fel cyfrifon a.y.b yn ran o enill y trwydded priodol. Heb y trwydded hwnnw, bydd ddim modd cystadlu ym yr Uwchgynghrair.

Ar y cyfan, mae'r Meysydd yn gwella. Mae TNS yn bwriadu adeiladu eisteddle sy'n dal 3,000 erbyn diwedd y tymor, a mae Nantporth ar ganol cael ei adeiladu ar gyrion Dinas Bangor. Yn ogystal, mae Cei Conna a'r Trallwng yn son am adeiladu meysydd newydd yn y dyfodol agos, tra mae Derwyddon Cefn dal i drafod.
I'r clybiau eraill sydd ddim yn cyrraedd y nod ar hyn o bryd, golyga hyn fwy na dim, fod angen adeiladu unai eisteddle ychwanegol sy'n dal tua 250 o gefnogwyr, neu hyd yn oed chwalu'r strythur presennol ac adeiladu un o'r newydd fel y gwnaeth Caerfyrddin yn ddiweddar.

Mae angen gwella'r meysydd, mae hi mor syml a hynny. Mae'r Gymdeithas Beldroed yn cyfrannu grant 70% tuag at y gwaith o gyrraedd y nod, a dylid gwneud yn fawr o'r cyfle hwnnw. Ar hyn o bryd, does yr run maes ganddom yng Ngogledd Orllewin Cymru sy'n gallu cynnal gemau Ewropeaidd o unrhyw fath. Mae timau fel Bangor wedi gorfod teithio i'r Rhyl a Wrecsam yn y gorffenol, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Bydd Nantporth gyda'i 800 o seddi disgwyliedig, bron a cyrraedd y nod o 1,000. Bydd hwn yn ddigon i lenwi gofynion y clwb a'r gymuned gyfan yn y tymor byr. A duw a wyr, o bosib bydd modd denu timau dan-oed Cymru i chwarae yno rwan ac yn y man?

3 comments:

Anonymous said...

mae'n amser cael cynghrair o rhyw 10 a sefydlu timau rhanbarthol.

Beth yw dy farn ar dimau rhanbarthol - rhywbeth i'r postiad nesa?


Sion

Rhys Wynne said...

Diolch am hwn Gareth, dwi wrthi'n (araf) yn creu erthygl/tabl ar wicipedia ar faesydd chwaraeon Cymru (croeso i ti gyfrannu) ac mae'r wybodaeth yma'n ddefnyddiol iawn - o ble ges ti'n manylion? Diddorodl hefyd yw clywed am y gofynion sydd ar y clybiau hyn os ydynt am barhau yn yn Uwchgyngrhiar Cymru. Eisteddle pa faes sydd yn y llun gyda llaw?

Timau rhanbarthol Sion! Wyt ti di gweld llanast ar rygbi Cymru? Y math o fobl sy'n cefnogi'r timau Cyngrhair Cymru yw'r rhai sy'n gwerthfawrogi timau lleol. Alli di ddychmygu rhywun o Gaernarfon yn mynd i Fangor i wylio North Gwynedd Warriors!

Gareth said...

Sion: Syniad da, fe wnai o bosib pan mae'n gyfnod distaw ar y meysydd.

Rhys: Port Talbot ydi hwnna, mae na fwy o lyniau ar wefan swyddogol y clwb.