Wednesday 5 December 2007

Drama Ffordd Ffarrar


Roedd hi'n braf cael bod ar Ffordd Ffarrar nos Wener ar gyfer gem Dinas Bangor yn erbyn Llangefni. 'Sgen i'm syniad pam fod y BBC wedi penderfynnu ei fod yn well syniad gyrru'r camerau i Blas Kynaston er mwyn dangos Derwyddon Cefn yn erbyn y Drenewydd, ond roedd hon yn wych o gem. Roedd y glaw a'r cae Mwdlyd ond yn ychwanegu at y noson, a roedd yn ddigon i'w gyfartalu.

Wnaeth pethau ddim cychwyn rhy wych i Fangor gyda'r diffyg protocol llwyr wrth i Cefni benderfynnu cicio am ochr y 'Farrar End' yn y hanner cyntaf! Er i Bangor ddechrau'n addawol iawn gyda Farai Jackson yn cael digon o waith yn y gol, roedd Chris Jones yn arbennig, yn edrych yn ddigon peryg i Cefni. Ar yr egwyl roedd Bangor gol i lawr, er fod y rheiny yn y brif eisteddle'n ddigon ffyddiog fysa'r 'Nevolution' yn dod ddigon buan yn yr ail gyfnod.

Erbyn yr egwyl fe es i sefyll tu ol y gol yn y 'Farrar End' (ni fydd gyda ni am hir iawn mwyach, er gwell neu gwaeth). Fe ddaeth y tynnu coes disgwyliedig am fod yn fradwr i'm 'ngwreiddiau am gefnogi'r Dinasyddion, ond roedd yr awyrgylch yno'n wych. Roedd cefnogwyr y ddau dim wedi heidio o dan y lloches, tra roedd Terras Sant Paul bron yn wag heblaw am y 'Barmy Army' pybur, sydd wastad yn gwneud digon o swn a chanu ynghanol y glaw, (Rhywbeth sydd angen ei groesawu yma yng Nghymru).

Cefni oedd yn edrych beryclaf yn ystod yr ail hanner, gan ymestyn eu mantais. Roedd Bangor yn or-ddibynnol ar Les Davies druan oedd yn cael trafferth ffendio'i draed, gyda sawl tacl ddadleuol yn mynd i fewn. (Kieron Killackey yn gyfrifol am sawl ohonynt!)

Ddaru sialens ddigon diniwed yr olwg ar Lee Webber ddal fynnu'r gem am gyfnod sylweddol, er nad yw'r anaf mor ddrwg a chredir yn y lle cyntaf, diolch byth. I raddau, roedd hyn yn drobwynt. Gyda'r gem i'w weld yn mynd tuag at fuddugoliaeth ddigon anrhydeddus i Cefni ar y cyfan, daeth Mike Walsh gyda taran o ergyd. Clapio dwylo ddaeth yn hytrach na dathlu ar y teras, siwr o fod doedd hyn ddim mwy na gol gysur? Gwaeddodd cefnogwr Llangefni tu ol i mi rywbeth ynglyn a gadael i gefnogwyr Fangor gael chydig o obaith. Yn anffodus i'r Nostradamus hwnnw, daeth ei broffwyd yn fwy na gwir.

Roedd Llangefni yn chwarae gyda chydig o nerfusrwydd, er roedd Jackson i'w weld digon cyfforddus o hyd. Gyda'r Byddin Glas yn taflu bob dim ymlaen, wnaeth pel uchel achosi dipyn o benbleth yn yr amddiffyn, sydd yn cael eu hadnabod fel un sydd gyda diffyg presenoldeb yn yr awyr. Yn sydyn, roedd hi rhwng Ashley Stott a Farai Jackson yn y gol. Roedd yr oedi gan y golwr yn ddigon i roi cyfle i Stott gael ei ben iddi, a Jackson dal yn nhir neb, ffliodd y bel i gefn y rhwyd fel pe bai am gymryd am byth.

Roedd y golygfeydd o'ng nghwmpas yn swrreal. Roedd na chydig o bobol yn neidio fynnu a lawr, ac eraill gyda'u penau i lawr. Roedd y rhanfwyaf mewn sioc!
Er i Fangor ffendio amser ar ol 97 munud i lunio cyfle neu ddwy a hyd yn oed cic o'r smotyn posib, byddai gol arall wedi bod yn du-hwnt o anheg ar Cefni. Daeth y tim oedd ar waelod y tabl i Ffordd Ffararr i wynebu tim oedd wedi curo'r Rhyl a'r Seintiau Newydd mewn wythnos, a rhoi go go-iawn iddi. Pa mor dda oedd Bangor dydd Sadwrn diwethaf, roeddynt yr un mor sal nos Wener.

Fawr o gysur i Llangefni glywed os wnawn nhw chwarae fel'na bob wythnos mi fyddant yn saff yn y gynghriair, Ond mae'n hollol wir.

Roedd Bangor ar y llaw arall, yn amlwg wedi blino'n lan. Roedd y coesau'n flinedig, ond roedd yr ymenydd yr run mor flinedig, ac yn amlwg yn dim oedd wedi rhedeg allan o syniadau ar ol wythnos ddigon hegar.

Y gwir enillydd oedd Uwchgynghrair Cymru, a cefnogwyr y Gogledd Orllewin. Pam na all bob gem fod fel'na? Gawn ni 800 o gefnogwyr i bob gem plis?

( Tynnwyd y fideo gan wefan y City Blues www.cityblues.co.uk )

1 comment:

Anonymous said...

Gret o gol ac mae'n wych cael gemau ar nos Wener, yn enwedig gemau darbi lle mae'r dorf gymaint yn fwy.

Edrych ymlaen i 'groesawu' Bangor i Aber - trueni na fydd y gem honno ar nos Wener hefyd! Angen mwy o gemau nos Wener dwi'n meddwl.

Sion