Thursday 19 April 2007

Y Wicipedia Cymraeg

Ymddihuriadau am y diffyg blogio diweddar. Dwi dal mewn galar oherwydd i Bodod golli mwy na un gem ddarbi yn ddiweddar, yn erbyn Glantraeth a Llangefni yn ogystal a colled yn rownd gyn-defynnol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru.

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru y Wicipedia Cymraeg gyda gwybodaeth am holl glybiau Cymru. Os ydych yn gefnogwr neu hysbys am Glwb Peldroed o Gymru, boed ar unrhyw lefel, a fyddach yn cysidro rhoi 10 munud o'ch hamser i ddiweddaru, neu chreu eu tudalen Wici? Mae'r Wici Cymraeg yn brosiect gwerth chweil er mwyn lledaenu neges y We Gymraeg, a credaf ei fod yn bwysig cael presenoldeb Pel-Droed gref arni.

Yn Penwythnos yma dwi'n mynd draw i White Hart Lane i wylio Spurs v Arsenal, cyn gwneud y drip faith nos Fawrth i Brestatyn. Pa glown benderfynnodd fyddai'n syniad da i Fodedern deithio i ben arall arfordir Gogledd Cymru i chwarae Prestatyn, mewn gem gynghrair ar nos Fawrth dudwch?

1 comment:

Rhys Wynne said...

Gwaith da yn fanna Gareth. Tydi'r infobox pĂȘl-droed ddim yn berffaith, ar hyn o bryd, efallai nai sortio'r 'kitiau' allan rhywbryd!