Sunday, 13 December 2009

Sylw Haeddianol?


Dwi'n synnu i raddau fy mod i heb son am hyn ynghynt, ond rhaid i mi ddweud faint dwi'n mwynhau rhaglenni Pel-droed S4C. Ers 1992, ar y cyfan, yr unig sylw cyfryngol a roddir i'r Cynghrair Cenedlaethol oedd slot 5-10 munud ar Wales on Saturday, pan oedd cryn nifer o'r cefnogwyr ar eu ffordd adref o gemau'r prynhawn. Tydi ITV ddim yn ymddwyn fel ei fod yn bodoli o gwbl, ac yn gwrthod hyd yn oed dangos y canlyniadau ar y newyddion nosweithiol.

Ond i fynd yn ol at ein darlledwr Cenedlaethol, mae rhaid canu clodydd y sianel. Gwyddwn am nifer sy'n gwylio Sgorio Cymru'n wythnosol, ac yna pecyn ychwanegol gyda sgwrs a thrafod ar brif raglen Sgorio nos Lun. Dwi'n credu mod i'n iawn i ddweud y dangosodd S4C mwy o gemau byw yn ei flwyddyn gyntaf o fod yn berchen ar y hawliau, na wnaeth BBC Cymru yn y 12 mlynedd blaenorol.

Ond wrth reswm, mae sylw'r Uwchgynghrair yn mynd ymhellach na hawliau teledu yn unig. Mae rhaid dweud fod presenoldeb gref ar y we fyd eang, gyda'r wefan swyddogol a'r welsh-premier.com poblogaidd yn gyrchfan dyddiol ar gyfer y newyddion diweddaraf. Ond y broblem fwyaf ydi diffyg diddordeb adran Chwaraeon y BBC. Wrth glicio ar yr adran Gymreig o'r safle Peldroed, ceir yr holl wybodaeth a mynnir am gemau Caerdydd ac Abertawe, a hyd yn oed Merthyr a Chasnewydd i raddau helaeth. Ond mae'r cynnwys o ddeunydd yn ymnweud a'r Pyramid Cymreig bron a bod yn anweledig, sy'n siom o gysidro mai hi yw prif adnodd miliynau o gefnogwyr y bel-gron, yn ddyddiol.

Er yr holl bwyntiau positif a ddaw o ddyfodiad y 'Super 12', does dim modd anwybyddu'r ffaith fod angen gwella presenoldeb y Gynghrair ar ein cyfryngau dyddiol. Er mai lled-broffesiynol yw ei naws, mae na ddigwyddiadau yn cymryd lle bob diwrnod. Mae'n iawn os wyddoch lle i fynd am y wybodaeth angenrheidiol, ond dydi'r cefnogwr cyffredinol ddim mor debygol i logio mlaen i welsh-premier.com o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn sicr yn sialens I brif weithredwr newydd y Gymdeithas, Jonathan Ford sydd ar fin dechrau ar ei waith newydd. Mae wedi datgan yn barod mai'r tim cenedlaethol sydd am gymryd ei fryd ar y cychwyn, a mae hynny'n ddigon teg gan mai drwy hwnnw mae mwyhafrif yr incwm yn cael ei gynhyrchu. Gwyddwn i ddim be a ddoth o'r cwmni marchnata a'i gyflogwyd i hyrwyddo Uwchgynghrair rhai tymhorau yn ol, ond tydi hi'm yn debyg fod hwnnw wedi cael fawr o effaith.

Ond dwi'n sicr o un peth. Gwelwn ni ddim cynyddiad sylweddol ar dorfeydd ein clybiau tan mae'r Uwchgynghrair yn sicrhau gwell sylw. Mae'n anodd gen i weld sut y gellid sicrhau hyn, ond dyna ni, dim fi sy'n cael fy nhalu i wneud y gwaith chwaith (gwaetha's modd!).

2 comments:

Anonymous said...

Love your blog my friend!
You have to be a Windows user!

Anonymous said...

Crap league! No one cares matey!