Thursday 30 April 2009

Cyffro'r Gwpan



Rhaid dweud fy mod yn edrych ymlaen yn arw at y gem fawr Dydd Llun. Byddaf yn gwneud y daith hir lawr i Lanelli ar gyfer Rownd Derfynnol Cwpan Cymru rhwng Bangor ac Aberystwyth. Yn wahanol iawn i'r mwyafrif, tydw i ddim yn gweld lleoliad y gem yn broblem. Dwi'n gredor ers tro byd y dylai'r Ffeinal gael ei chwarae mewn maes safonnol, ac un dydi'r timau ddim yn arfer chwarae arni yn ystod y tymor. Dim amharch i feysydd presennol y Gynghrair, ond mae'n fwy o ddigwyddiad rhywsut. Er pa mor braf byddai gweld clwb fel Porthmadog (sef y mwyaf canolig am wn i) yn elwa o gem o'r fath, credaf fod y Gymdeithas yn gwneud y penderfyniad cywir drwy sicrhau maes mawr i'r achlysur.

Mae angen gofyn cwestiynnau am ddyddiad y gem, serch hynny. Dydd Llun gwyl y banc? Mae'r Ffeinal wastad wedi bod ar Brynhawn Sul ers dwi'n cofio, a gyda mwyafrif y dorf gyda'r diwrnod canlynol i ffwrdd i ddod dros y daith hir a'r noswylio hwyr, credaf byddai'r dorf mor fawr a'r arfer. Chwarae teg i Alun Ffred Jones am ddatgan ei ofidiau, er fod hi rhy hwyr i wneud dim erbyn hyn wrth gwrs.

Tra mae'r gem ei hun yn y cwestiwn, mae gan fy nhim i lawer o boendod meddwl cyn y diwrnod mawr. Mae sawl chwaraewr pwysig yn ceisio dod dros anafiadau, gan gynnwys yr ymosodwr mawr, Les Davies. Dydi Bangor ddim yr run tim heb Les yn dal y bel i fynnu gyda'i gefn i'r gol, a fyddai colli fo yn hyd yn oed mwy o ergyd na colli Chris Sharp ers sawl mis bellach.

Dwi wastad yn trio peidio bod yn rhy hyderus cyn gemau pwysig, a gan gofio bod o leiaf £100,000 yn mynd i ddisgyn i ddwylo'r enillwyr, mae well i mi ddatgan nad ydwyf yn meddwl fod Bangor am fynd a hi.

Gobeithio mod i'n anghywir!

No comments: