Friday, 29 June 2007

Sgandinafia'n Galw


Tripiau anodd i Sgandinafia a'r Baltics i weddill Clybiau Cymru'n Ewrop

Cynghrair y Pencampwyr:
TNS v Ventspills (Latfia)

Cwpan UEFA:
FC Haka (Ffindir) v Y Rhyl
Caerfyrddin v SK Brann (Norwy)

Synnwn i ddim gweld pob un o Glybiau Cymru'n colli eu gemau, yn enwedig gyda Llanelli 3-1 i lawr yn barod. Fe wnai ddadlau am Beldroed Haf tan dwi'n groch....

Friday, 22 June 2007

Llanelli yn Ewrop...Mis Mehefin?

Dydd Sul yma, y 24ain o Fehefin, mae tymor Llanelli yn ailddechrau. Maent yn herio FK Vetra yng Nghwpan Intertoto Uefa allan yn Lithwania. Pob lwc iddynt, ond faint o her fydd trechu tim sydd 15 gem i fewn i'w tymor, gyda un gem gyfeillgar yn erbyn Lido Afan gan y Cochion?

Biti nad oes unrhyw uchafbwyntiau na darllediad o'r gem ar unrhyw un o'n sianeli yng Nghymru. Dylai fod yn norm gweld timau Cymru yn ein cynyrchioli yn Ewrop, ar y teledu siawns?

Monday, 21 May 2007

Tim Lled-Broffesiynol Cymru

Bob lwc i'r tim lled-broffesiynol, sy'n teithio allan i ucheldir yr Alban heddiw ar gyfer y twrnament pedair gwlad. Mae'r garfan wedi'i wneud yn bennaf allan o chwaraewyr Cymreig sy'n chwarae yn y Conference, gyda llond dwrn yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru. Y ni ydi'r deiliaid ar hyn o bryd, felly bob lwc iddynt yn eu hymgais i gadw eu gafael arno.

Hwn ydi'r garfan:

Gol
Tony Roberts (Dagenham & Redbridge), Ashley Morris (Merthyr Tydfil)

Amddiffynwyr
Chris Todd (Exeter City), Ian Hillier (Newport County), Paul Keddle, Kris Thomas (Caerfyrddin), Danny Parslow (York City), Gethin Jones (Bath City)

Canol Cae
Adie Harris (Bath City), Chris Holloway (Merthyr Tydfil), Lee John (Port Talbot), Michael Byrne (Northwich Victoria), Chris Venables (Caersws)

Ymosodwyr
Graham Evans (Caersws), Rhys Griffiths (Llanelli), Craig Hughes (Newport County), Chris Moore (Dagenham & Redbridge), Robert Duffy (Oxford United).

Synnu fod dim lle i Sion Edwards o Fangor a Les Davies o Port, ond carfan go-lew yn fy marn i.

Tuesday, 15 May 2007

Be Wna'i Dros yr Haf?

Mae'r tymor Peldroed drosodd. Sgen i'm diddordeb yn Cwpan F.A wythnos nesa na 'We've won it 6 times' . Diolch byth fod dau gem rhyngwladol i edrych ymlaen iddynt! Mae gemau Cymru ar y Cae Ras wastad yn adegau mawr i gefnogwyr y Gogledd, a dylai hi fod yn llawn dop yno. Annwyl Mr. David Collins, plis gawn ni fwy o gemau yn y gogledd?

Yn y cyfamser, dyma uchafbwyntiau'r gem olaf i gymryd lle yno:

Thursday, 19 April 2007

Y Wicipedia Cymraeg

Ymddihuriadau am y diffyg blogio diweddar. Dwi dal mewn galar oherwydd i Bodod golli mwy na un gem ddarbi yn ddiweddar, yn erbyn Glantraeth a Llangefni yn ogystal a colled yn rownd gyn-defynnol Cwpan Arfordir Gogledd Cymru.

Yn ddiweddar dwi wedi bod yn gweithio ar ddiweddaru y Wicipedia Cymraeg gyda gwybodaeth am holl glybiau Cymru. Os ydych yn gefnogwr neu hysbys am Glwb Peldroed o Gymru, boed ar unrhyw lefel, a fyddach yn cysidro rhoi 10 munud o'ch hamser i ddiweddaru, neu chreu eu tudalen Wici? Mae'r Wici Cymraeg yn brosiect gwerth chweil er mwyn lledaenu neges y We Gymraeg, a credaf ei fod yn bwysig cael presenoldeb Pel-Droed gref arni.

Yn Penwythnos yma dwi'n mynd draw i White Hart Lane i wylio Spurs v Arsenal, cyn gwneud y drip faith nos Fawrth i Brestatyn. Pa glown benderfynnodd fyddai'n syniad da i Fodedern deithio i ben arall arfordir Gogledd Cymru i chwarae Prestatyn, mewn gem gynghrair ar nos Fawrth dudwch?

Thursday, 29 March 2007

From The Ridicilous to the .....wel, ddim cweit sublime

Wedi cyrraedd nol tri o'r gloch y bore wedi blino'n lan, felly maddeuwch i mi os nad ydi'r canlynol yn gwneud synnwyr!
Pam o pam fod Cymru mor hoff o chwarae o gwmpas, yn pasio'r bel yn brydferth o un chwaraewr i'r llall? A pam o pam nad oes neb heblaw am Jason Koumas, a hogyn 17 oed (Bale) yn fodlon cymyd siot bob hyn a hyn? Mae hi braidd yn pathetic gweld ein chwaraewyr (a dwi'n edrych arnat ti, Bellamy) yn meddwl fod angen cerdded y bel i'r rhwyd bob tro.
Rhaid i ni chwarae'n well na hyn i guro Seland newydd yn gyfforddus, heb son am gael rhywbeth allan o gem y Weriniaeth Siec.

Tuesday, 27 March 2007

San Marino


Mae Jason Koumas yn llygaid ei le yn datgan bydd awyrgylch 'swrreal' yng Nghaerdydd nos Fercher, wrth i Gymru gael eu herio gan un o'r gwledydd isaf eu parch yn Ewrop. Tua 15,000 o docynnau sydd wede'i gwerthu i'r gem, a fydd na ddim mwy na 25,000 yno nos yfory.
Ar un wedd dwi'n teimlo fod hyn yn haeddiannol, a mai dim ond ffyliaid fel y fi fydd yno. Ond bobol bach, faint o bobol oedd yn cwyno methu cael tocynnau ar gyfer gemau tyngedfenol tua tair mlynedd yn ol, a'r gem yn erbyn Lloegr. Lle byddan nhw fory? Credaf fod hi'n saff dweud fydd na nifer a wnaeth y trip i Ddulun nos Fercher yn gwylio Sky Sports o flaen y tan nos fory hefyd.