Sunday, 13 December 2009

Sylw Haeddianol?


Dwi'n synnu i raddau fy mod i heb son am hyn ynghynt, ond rhaid i mi ddweud faint dwi'n mwynhau rhaglenni Pel-droed S4C. Ers 1992, ar y cyfan, yr unig sylw cyfryngol a roddir i'r Cynghrair Cenedlaethol oedd slot 5-10 munud ar Wales on Saturday, pan oedd cryn nifer o'r cefnogwyr ar eu ffordd adref o gemau'r prynhawn. Tydi ITV ddim yn ymddwyn fel ei fod yn bodoli o gwbl, ac yn gwrthod hyd yn oed dangos y canlyniadau ar y newyddion nosweithiol.

Ond i fynd yn ol at ein darlledwr Cenedlaethol, mae rhaid canu clodydd y sianel. Gwyddwn am nifer sy'n gwylio Sgorio Cymru'n wythnosol, ac yna pecyn ychwanegol gyda sgwrs a thrafod ar brif raglen Sgorio nos Lun. Dwi'n credu mod i'n iawn i ddweud y dangosodd S4C mwy o gemau byw yn ei flwyddyn gyntaf o fod yn berchen ar y hawliau, na wnaeth BBC Cymru yn y 12 mlynedd blaenorol.

Ond wrth reswm, mae sylw'r Uwchgynghrair yn mynd ymhellach na hawliau teledu yn unig. Mae rhaid dweud fod presenoldeb gref ar y we fyd eang, gyda'r wefan swyddogol a'r welsh-premier.com poblogaidd yn gyrchfan dyddiol ar gyfer y newyddion diweddaraf. Ond y broblem fwyaf ydi diffyg diddordeb adran Chwaraeon y BBC. Wrth glicio ar yr adran Gymreig o'r safle Peldroed, ceir yr holl wybodaeth a mynnir am gemau Caerdydd ac Abertawe, a hyd yn oed Merthyr a Chasnewydd i raddau helaeth. Ond mae'r cynnwys o ddeunydd yn ymnweud a'r Pyramid Cymreig bron a bod yn anweledig, sy'n siom o gysidro mai hi yw prif adnodd miliynau o gefnogwyr y bel-gron, yn ddyddiol.

Er yr holl bwyntiau positif a ddaw o ddyfodiad y 'Super 12', does dim modd anwybyddu'r ffaith fod angen gwella presenoldeb y Gynghrair ar ein cyfryngau dyddiol. Er mai lled-broffesiynol yw ei naws, mae na ddigwyddiadau yn cymryd lle bob diwrnod. Mae'n iawn os wyddoch lle i fynd am y wybodaeth angenrheidiol, ond dydi'r cefnogwr cyffredinol ddim mor debygol i logio mlaen i welsh-premier.com o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn sicr yn sialens I brif weithredwr newydd y Gymdeithas, Jonathan Ford sydd ar fin dechrau ar ei waith newydd. Mae wedi datgan yn barod mai'r tim cenedlaethol sydd am gymryd ei fryd ar y cychwyn, a mae hynny'n ddigon teg gan mai drwy hwnnw mae mwyhafrif yr incwm yn cael ei gynhyrchu. Gwyddwn i ddim be a ddoth o'r cwmni marchnata a'i gyflogwyd i hyrwyddo Uwchgynghrair rhai tymhorau yn ol, ond tydi hi'm yn debyg fod hwnnw wedi cael fawr o effaith.

Ond dwi'n sicr o un peth. Gwelwn ni ddim cynyddiad sylweddol ar dorfeydd ein clybiau tan mae'r Uwchgynghrair yn sicrhau gwell sylw. Mae'n anodd gen i weld sut y gellid sicrhau hyn, ond dyna ni, dim fi sy'n cael fy nhalu i wneud y gwaith chwaith (gwaetha's modd!).

Monday, 16 November 2009

Ramsey!!

Mae'r boi yn gret dydi?



Sunday, 13 September 2009

Lle wnawn nhw chwara'?


Un o'r straeon mwyaf hir-wyntog a diflas yn hanes diweddar Bangor, ydi cartref newydd i'r Clwb Pel Droed. Mae'r son wedi bod am symud i Faes Nantporth ger safle'r Coleg Normal, ond parhau i fod ar Ffordd Ffarar mae'r clwb hyd heddiw.

Does dim dadlau nad ydi'r hen stadiwm mewn stad ddigon truenus erbyn hyn, gyda'r eisteddle pren a brics yn edrych fel ei fod am ddisgyn i'r llawr unrhyw funud. Mae'r datblygwyr wedi dechrau ar y gwaith newydd, ac mae na dalpyn o wair a system ddraenio ddigon taclus mewn lle. Ond ers y dirwasgiad byd-eang, mae'r holl waith wedi dod i stop.

Gyda'r trwydded newydd yn ddibynol ar faes o safon gyda 500 o seddi go-iawn, mae'n amlwg fyddai Ffordd Ffarrar yn methu'n lan a chyrraedd y nod. Fel y gwelwch ar y linc yma, mae 'na gais cynllunio o'r newydd wedi'i yrru gerbron y Cyngor. Y tro yma, i osod dau portacabin ac eisteddle dros-dro.

Gwnewch be y mynnwch o'r cynlluniau newydd, ond mae'r cefnogwr pryderus yma'n credu na welwn ni fyth bel-droed yn Nantporth. Gyda stori ddigon tebyg gyda maes newydd i Dderwyddon Cefn, a phrotestwyr yn dal i fynnu'r cynllun, mae'n amser ddigon anodd i rai glybiau sy'n chael hi'n anodd cyrraedd y nod.

Monday, 24 August 2009

Be di'r Broblem efo Warnock?

Ers y digvwyddiad anffodus pan gafodd gol Freddy Sears ei wrthod i Crystal Palace, dwi wedi clywed sawl yn datgan eu bod yn casau Neil Warnock. Yn bersonol, dwi'n meddwl fod o'n gymeriad sydd ei angen yn y gem. Dwi'n licio'r clip isod yn fawr iawn.

Tuesday, 18 August 2009

Ewrop

Does dim os mai’r testun trafod mwyaf ymysg ni’r cefnogwyr yn ddiweddar, ydi’r newidiadau disgwyliedig i Uwchgynghrair Cymru o dymor nesaf ymlaen. Y ‘Deg Disglair’ fel yr adnabyddir, bydd y chwyldro mwyaf ers sefydliad y gynghrair yn 1992. Ond beth ydi’r oblygiadau?
Mae’n siwr fod gan pawb ei farn ynglan a pha glyniau sydd yn, ac ddim yn haeddiannol o fod yn ran o’r datblygiad newydd. Mae’r ffaith fod llawer o Glybiau yn edrych ar eu meysydd a’u academis yn rywbeth calonogol, sydd angen ei gymeradwyo.

Anodd ydi dadlau nad ydi Cynghrair Cymru i gyd yn cylchdroi o amgylch ‘Ewrop’ , a’r pwnc hynnw ydi prif ysgogiad y newid. Fe ddisgynodd bob un o'n clybiau ar y cymal cyntaf eleni, sydd yn rywbeth sy'n bendant angen ei newid. Mae codi safon yn rywbeth sy’n gorfod digwydd yn fuan i wella’n record Ewropeaidd fel Cenedl. Y gobaith ydi fydd hanneru nifer y clybiau yn golygu fydd dwbl yr arian ar gael, a fod y chwaraewyr gorau yn ffendio’u hunain i’r prif adran newydd. Ond a oes rhywbeth wedi’i fethu yn y fan yma?
Mae bron i fis cyfan rhwng y gemau Ewropeaidd cychwynol, a dechrau'r tymor newydd. Mae clybiau Clybiau Cymru’n gorfod mynd allan i baratoi ar gyfer gemau mwyaf eu tymor gyda llond dwrn o gemau cyfeillgar yn erbyn timau lleol. Nid bai’r Clybiau unigol ydi hyn wrth reswm, does yna fawr o ddewis i fod yn onest.
O flwyddyn nesa, bydd bron i hanner y clybiau yn cymryd rhan yn Ewrop. Rwy’n ymdebygu i diwn gron yn son am Bel-droed Haf mae’n siwr, ond mae’r sefyllfa bresennol yn hurt. Os nad ydi tymor Mawrth i Hydref yn dderbynniol i lawer, pam ddim dod a’r tymor presennol ymlaen rhyw fis neu fwy? Tymor Aeafol byddai’n parhau i fod, ond gyda chychwyn ar Orffenaf y 1af, byddai pre-season llawn a un neu ddau o gemau cystydleuol yn gallu gwneud y gwahaniaeth drwy golli allan o gol neu ddau, a enill drwodd i’r rownd nesaf (a’r holl oblygiadau cyllidol). Mae £90,000 ar gael i’r clybiau ar gyfer pob rownd maent yn gallu enill drwyddynt, felly’n amlwg mae’r ysgogiad yno i wneud rhywbeth ohoni!

Friday, 15 May 2009

Cochion Koln



Fel llawer i un arall, mae gen i fy hoff dim mewn amryw gynghrair yn y byd. Yn yr Almaen, FC Koln ydi hwnnw. Mae hyn wedi'i selio ar drip i'r Almaen a wnes tra dal yn y Coleg, a chael cyfle i fynychu gem yn erbyn eu gelynion pennaf, Aachen. Mae'r cefnogaeth hwnnw wedi sticio i raddau hyd heddiw. Wel, dwi'n deud wedi sticio, i'r graddau mod i'n gwisgo hen grys oddi cartref y clwb rownd y ty, ond dwi'n parhau i gadw llygaid arnynt. Mae'n siwr mai'r newyddion mawr diweddar ydi fod Lucas Podolski am ddychwelyd i'r clwb ol ol cyfnod o 4 mlynedd gyda Bayern Munchen. Ond mae wedi bod yn dymor llwyddianus eleni fel ma'i. Tra fod Hoffenheim wedi bod yn gwneud y penadwdau am eu tymor cyntaf gwych yn y Bundesliga, mae Koln yn eistedd yn 12fed, a safle parchus iawn am dymor cyntaf yn ol yn y brifadran. Dwi'n gobeithio'n fawr gweld y geifr yn ol yn Ewrop yn y dyfodol agos.

Thursday, 14 May 2009

Dyfodol Disglair y Dons



Pan wnaeth Charles Koppel a'i fwrdd benderfynnu symud clwb Wimbledon o'u cartref naturiol yn Ne Llundain i Dref newydd Milton Keynes roedd barn mwyafrif cefnogwyr Peldroed y wlad bron yn unfryd y farn fod 'Franchise' Americanaidd ym Mheldroed yn rywbeth i'w wrthod. Ar y cyfan, credaf fod y farn yma'n parhau. Dydi dymchwel MK Dons lawr y tablau ddim cweit wedi digwydd, ac i ddweud y gwir, mae'r clwb yn ffynu gyda torfeydd da, stadiwm newydd sbon ac enwau mawr fel Paul Ince a Roberto Matteo ymysg eu rheolwyr diweddar.
Ond mae'r ffaith fod AFC Wimbledon, sef y clwb a'i grewyd yn sgil symudiad y 'Dons' gwreiddiol, yn ysbrydoliaeth i gefnogwyr Peldroed ymhobman. Yn bersonol, tydw i ddim yn ffan o'r 'AFC's' diweddar sydd wedi'i creu fel AFC Liverpool ac FC United, sy'n tynnu cefnogaeth o dimau bychain arall yn y bon. Ond does dim os nac oni bai fod sefydliad y Dons newydd (neu'r gwreiddol os hoffwch edrych arni felly) yn un hollol ddealladwy a chanmoladwy. Gret felly yw gweld eu bod newydd eu dyrchafu i'r Blue Square Cenedlaethol. Pwy a wyr, efallai bydd enw Wimbledon i'w weld yn ol ar dablau Cynghrair Lloegr rhyw ddydd.